Rhowch gynnig ar y dull hwn sydd wedi cael ei brofi gan athro i ganfod beth mae eich myfyrwyr yn ei feddwl ac yn ei ddeall wrth i chi addysgu
This article is also available in English
Read the English language version.

Mae cael gwybod beth mae fy myfyrwyr yn ei feddwl yn rhan allweddol o fy addysgu. Mae eu dadansoddiad nhw o’r hyn rydw i’n ei ddweud ac yn ei wneud yn cael ei hidlo drwy lens yr hyn maen nhw’n ei wybod ac yn ei feddwl yn barod. Mae addasu fy addysgu i ystyried hyn yn ei gwneud hi’n fwy tebygol y byddan nhw’n deall cysyniadau cemegol yn gywir.
Rydw i wedi defnyddio byrddau gwyn bach drwy gydol fy ngyrfa am y rheswm hwn. Mae byrddau gwyn bach yn rhoi’r cyfle i’r myfyrwyr ddrafftio ymatebion, ac mae’n ffordd hawdd o gyfrannu yn ystod gwers. Drwy fod yn ofalus wrth ddewis y cwestiynau rwy’n eu gofyn yn ystod gwaith byrddau gwyn bach, gallaf weld themâu sy’n dod i’r amlwg o ran dealltwriaeth a chamsyniadau, ac addasu fy addysgu yn unol â hynny.
Ar ddechrau’r flwyddyn ysgol, cyflwynodd fy ysgol ddyfeisiau digidol unigol i’r holl fyfyrwyr ym mlynyddoedd 7–12. Mae hyn wedi rhoi’r cyfle i mi ddatblygu sut rwy’n defnyddio byrddau gwyn digidol a dechreuodd hyn pan roedden ni’n addysgu o bell. Rydw i wedi rhoi cynnig ar dri phrif ddull, gan gynnwys Microsoft OneNote Collaboration Spaces, Microsoft Whiteboards a’r wefan whiteboard.io.
Dull cyflym a hawdd
Mae hi’n gallu bod yn anodd i rai myfyrwyr dynnu lluniau 3D o foleciwlau syml. Gan fod athrawon yn gemegwyr profiadol maen nhw’n gallu trosi diagramau o’r fath yn ddarlun meddyliol o’r moleciwl. Mae’n debyg ein bod wedi gwneud y modelau moleciwlaidd ffisegol ac efallai ein bod wedi defnyddio modelu digidol ar-lein fel molview.org. Mae’r technegau hyn wedi helpu i adeiladu sgema cyfoethog rydyn ni’n ei ddefnyddio’n awtomatig.
Mae angen amser a lle ar fyfyrwyr i ddatblygu’r wybodaeth hon. Mae adborth cyflym yn helpu i gyfyngu ar ddatblygiad camsyniadau ac i ganfod camgymeriadau amlwg yn gynnar. Yn y gorffennol, gyda’r byrddau gwyn bach, byddwn fel arfer yn gweld diweddglo llawer o’r hyn roedd y myfyrwyr yn ei feddwl. Er enghraifft, mae sawl cam i luniadu strwythur 3D PF5, gan gynnwys adnabod yr atom canolog, y math o fond rhwng yr atomau, trefniant yr atomau o amgylch yr atom canolog, onglau’r bondiau, y mathau o fondiau sy’n cael eu lluniadu ac ati. Os bydd myfyriwr wedi gwneud mwy nag un camgymeriad, dydy hi ddim bob tro’n hawdd datrys y camgymeriadau hynny.
Mae byrddau gwyn digidol yn golygu fy mod yn gallu gweld nifer o fyfyrwyr yn datblygu eu strwythur. Dyma sut byddaf yn gwneud hyn.
- Byddaf yn agor tudalen bwrdd gwyn newydd ac yn lluniadu grid gyda digon o gelloedd i’r holl fyfyrwyr.
- Bydd pob myfyriwr yn dewis cell, yn ei henwi, ac yn chwyddo er mwyn i’w cell nhw lenwi eu sgrin nhw.
- Byddaf yn gweld y grid cyfan ar fy nyfais i.
- Byddaf yn gofyn y cwestiwn cyntaf, er enghraifft, ’Tynnwch lun o strwythur 3D PF5, gan ddangos onglau cywir y bondiau’.
- Byddaf wedyn yn arsylwi ar y myfyrwyr yn creu eu hatebion.
Byddaf yn gallu rhoi adborth cyflym mewn gwahanol ffyrdd. Os bydd myfyriwr yn cael trafferth dechrau, byddaf yn rhoi awgrymiadau ar lafar. Os bydd myfyriwr wedi gwneud camgymeriad syml, byddaf yn defnyddio’r uwcholeuydd, gan ofyn iddyn nhw edrych ar rywbeth eto. Os bydd angen i mi dynnu eu sylw at rywle penodol, byddaf yn tynnu llun saethau neu’n ysgrifennu nodiadau cyflym. Drwy drafod eu gwaith yn benodol a gofyn iddyn nhw beth maen nhw’n ei feddwl, mae byrddau gwyn digidol yn helpu i ddatblygu eu sgiliau metawybyddol.
Bydd sut mae’r grŵp yn cael hwyl arni gyda thair neu bedair o enghreifftiau yn fy helpu i benderfynu ar fy nghamau nesaf. Oes angen i mi fynd yn ôl at ailfodelu ac egluro’r technegau sydd eu hangen? Oes angen i mi roi amser iddyn nhw ar gyfer ymarfer annibynnol? Ydyn nhw wedi meistroli hyn ddigon i symud ymlaen i gysyniadau eraill? Oes angen rhannu’r grŵp, gan roi cefnogaeth ychwanegol neu waith estynedig fel sy’n briodol? Drwy ddefnyddio’r byrddau gwyn digidol mae gen i ragor o wybodaeth a gwybodaeth well er mwyn penderfynu.
Manteision ac anfanteision
Mae rhai manteision ymarferol eraill i ddefnyddio byrddau gwyn digidol yn hytrach na byrddau gwyn traddodiadol. Mae estyn a chadw’r byrddau, ysgrifbinnau’n rhedeg allan, a methu glanhau’r byrddau’n dda yn gallu arafu tasgau. Wrth gwrs mae heriau gwahanol wrth ddefnyddio byrddau gwyn digidol, gan gynnwys potensial ‘graffiti digidol’ ac mae’n hawdd copïo gwaith myfyriwr arall. Mae problemau o’r fath yn tueddu i ddiflannu wrth i’r myfyrwyr ddatblygu parch at waith a dysgu’r myfyrwyr eraill.
Ar hyn o bryd mae’n well gen i ddefnyddio Microsoft Whiteboard. Mae’n ymddangos ei fod yn cysoni’n gyflymach na thudalennau Microsoft Class Notebooks, ac mae wedi’i integreiddio’n dda â defnydd ein hysgol ni o Microsoft 365. Rwyf wedi defnyddio’r strategaeth hon yn llwyddiannus gyda fy myfyrwyr blwyddyn 9 i 12 (13–17 oed) gan edrych ar amrywiaeth o bynciau gan gynnwys cemeg feintiol, dull enwi cemeg organig, plotio graffiau a lluniadu mecanweithiau adweithiau.
Rhagor o adnoddau
Ydych chi’n chwilio am ragor o syniadau a deunyddiau darllen am ddyfeisiau digidol yn yr ystafell ddosbarth gwyddoniaeth? Rhowch gynnig ar y rhain i ddechrau:
- Mae Bridging the digital divide o’n herthyglau Tech Talk yn disgrifio sut mae rhai athrawon wedi bod yn defnyddio dyfeisiau mewn pynciau STEM.
- Mae Let’s get digital, digital yn rhannu profiad athro o ddefnyddio technoleg addysg i wella dealltwriaeth dysgwyr ac i ddatblygu sgiliau.
David Paterson







No comments yet