Dysgwch sut mae paratoi sampl o grisialau copr sylffad hydradol, sych, pur o gopr ocsid.
This resource is also available in English
Get the English language version.
Mae’r arbrawf ymarferol hwn yn datblygu sgiliau mesur sylweddau cemegol, hidlo, anweddu a grisialu i gynhyrchu grisialau copr(II) sylffad hydradol.
Teitlau’r penodau: 00:10 Cyflwyniad; 01:30 Adwaith bas + asid; 03:36 Hidliad; 05:13 Anweddiad; 06:27 Grisialiad.
Lawrlwytho adnoddau ychwanegol
Llyfryn adnoddau ategol gan gynnwys cwestiynau oedi-a-meddwl a’r atebion, nodiadau i athrawon, y deilliannau a fwriedir, taflenni gwaith dilynol a stribedi strwythur. A nodiadau i dechnegwyr a chyfarwyddiadau integredig. Mae fersiynau mae modd eu golygu ar gael o’r holl daflenni gwaith a’r prif ddogfennau.
Nodiadau i athrawon
Mae nodiadau llawn i athrawon ar gael yn y llyfryn adnoddau ategol, gan gynnwys syniadau ar sut mae defnyddio’r fideo hwn a’r adnoddau fel rhan o’ch addysgu.
Nodiadau ar gynnal yr arbrawf ymarferol
Rydym yn darparu nodiadau i dechnegwyr gan gynnwys rhestr o’r cyfarpar a nodiadau diogelwch, yn ogystal â chyfarwyddiadau integredig i’r dysgwyr.
Mae gwneud halwynau’n weithgaredd gwerth chweil sy’n gallu helpu’r dysgwyr i archwilio’r cysyniad o niwtralu. Mae egluro’r rheswm dros wneud pob cam ymarferol hefyd yn dyfnhau dealltwriaeth dysgwyr ac yn datblygu eu sgiliau ymarferol, e.e. pam eu bod yn ychwanegu gormodedd o’r adweithydd solet.
Drwy ddefnyddio’r dull hwn, dylech allu gwneud y grisialau copr(II) sylffad o’r dechrau i’r diwedd mewn gwers 60 munud.
Mae’r fideo’n dilyn y dull sy’n cael ei argymell gan CLEAPSS ar gyfer y dasg ymarferol hon (PP027), sydd fymryn yn wahanol i’r fersiynau bydd y dysgwyr efallai’n eu gweld mewn adnoddau eraill neu mewn cwestiynau arholiad.
Dylai’r crynodiad penodol o asid sylffwrig sy’n cael ei argymell gynhyrchu hydoddiant sydd bron yn ddirlawn o gopr(II) sylffad, felly ychydig iawn o wres fydd ei angen i anweddu digon o ddŵr.
GAIR I GALL Arsylwch am bum munud wrth i’r grisialau ffurfio. Os na fydd y grisialau’n ffurfio ar unwaith, heuwch yr hydoddiant drwy roi sblint yn yr hylif. Arsylwch wrth i’r grisialau ddechrau ffurfio ar yr arwyneb garw.
Mae’r dasg ymarferol hon yn rhoi cyfle i ddefnyddio data go iawn i gyfrifo cynnyrch canrannol y grisialau copr(II) sylffad – edrychwch ar y daflen waith ddilynol sydd ar gael. Mae’r daflen waith yn cynnwys y data sydd ei angen i wneud y cyfrifiad hwn. Fodd bynnag, os ydych chi’n cynnal y dasg ymarferol hon yn y dosbarth, y cyfan sydd angen i chi ei wneud yw cofio pwyso’r grisialau copr sylffad sych ar ddiwedd yr arbrawf.
Efallai byddwch chi eisiau gwneud gweithgaredd ymarferol ychwanegol Canfod fformiwla copr(II) sylffad hydradol. Mae’r daflen waith ddilynol yn cynnig cwestiynau strwythuredig i gefnogi hyn. Os nad ydych chi am gynnal yr arbrawf ychwanegol, gallwch ddangos y fideo byr hwn o’r gyfres o ddarlithoedd Just Add Water gan Dr Peter Wothers i ddisgrifo pethau.
Termau allweddol
Bydd angen i’r dysgwyr ddeall y termau gwyddonol canlynol:
asid – sylwedd sy’n cynhyrchu mwy o ïonau hydrogen nag ïonau hydrocsid wrth ei hydoddi mewn dŵr.
bas – unrhyw sylwedd sy’n adweithio ag asid i ffurfio dim ond halwyn a dŵr.
grisialiad/grisialu – y broses sy’n cael ei defnyddio i gynhyrchu grisialau solid o hydoddiant halwyn crynodedig.
anweddiad/anweddu – y broses pan fydd sylwedd yn y cyflwr hylif yn newid i’r cyflwr nwy.
hidlif – yr hylif sy’n mynd drwy’r hidlen yn ystod y broses hidlo.
hidliad/hidlo – y broses pan fydd hidlen yn tynnu’r gronynnau solid o hylif. Mae’r
gronynnau yn y cyflwr hylif yn mynd drwy’r hidlen ond ni fydd y gronynnau yn y cyflwr solid yn gwneud hynny.
anhydawdd – mae sylwedd yn anhydawdd os nad yw’n hydoddi mewn hydoddydd.
adweithydd cyfyngol – yr adweithydd cyntaf i gael ei ddefnyddio’n llwyr, gan gyfyngu ar faint o gynnyrch sy’n cael ei ffurfio a stopio’r adwaith.
niwtralu – adwaith rhwng asid a bas sy’n ffurfio halwyn a dŵr.
gweddill – solid sy’n cael ei stopio gan yr hidlen wrth hidlo.
halwyn – grŵp o gyfansoddion ïonig wedi’u ffurfio o’r adwaith niwtralu rhwng asid a bas.
hydawdd – mae sylwedd yn hydawdd pan fydd yn cael ei hydoddi mewn hydoddydd, e.e. dŵr.
Cyd-destunau’r byd go iawn
- Rhowch gyd-destun i niwtralu drwy ymchwilio i bast dannedd i ganfod a ydynt wedi cael eu dylunio i niwtralu asid y geg mewn gwirionedd.
- Dysgwch sut mae gwarchodwyr papur yn cynnal pH hydoddiannau drwy ddefnyddio ‘golch alcali’ i osgoi asidedd.
- Pa un yw’r ffrwyth sitrws mwyaf asidig? Defnyddiwch yr arbrawf hwn i ddeall asidau ac alcalïau, dangosyddion a niwtralu. Chwilfrydedd y dysgwyr fydd yn arwain yr arbrawf.
- Bron i 30 mlynedd ar ôl iddo gau, mae gwaith halen hanesyddol Lion Salt Works yn Swydd Gaer yn agor ei ddrysau i’r cyhoedd fel amgueddfa ddiwydiannol a safle treftadaeth. Dysgwch am rywfaint o’i hanes a sut mae grisialau’n cael eu ffurfio drwy anweddiad.
Gwybodaeth flaenorol
Cyn dechrau ar gysyniadau niwtralu, mae’n hanfodol bod gan fyfyrwyr ddealltwriaeth sylfaenol o’r hyn sy’n digwydd pan fydd sylweddau ïonig yn cael eu hychwanegu at ddŵr.
Dylai’r dysgwyr allu cofio’r pethau hyn:
- Mae gronynnau’n gallu bod yn atomau, yn foleciwlau neu’n ïonau.
- Mae ïon yn ronyn â gwefr bositif neu negatif.
- Mae atom neu foleciwl yn gallu colli neu ennill electron(au) i ffurfio ïon.
- Pan fydd atom/moleciwl yn ennill electron(au) â gwefr negatif, mae ïon negatif yn cael ei ffurfio. Pan fydd atom/moleciwl yn colli electron(au) â gwefr negatif, mae ïon positif yn cael ei ffurfio.
- Mae hydoddiant yn cael ei ffurfio pan fydd hydoddyn (halwyn) yn cael ei hydoddi mewn hydoddydd (dŵr).
- Mae asidau’n rhyddhau ïonau hydrogen (H+) mewn hydoddiant, ac alcalïau’n rhyddhau ïonau hydrocsid (OH-).
- Mae’r raddfa pH yn cael ei defnyddio i fesur asidedd neu alcalinedd sylwedd.
- Mae gan sylwedd niwtral pH o 7.
Dylai’r dysgwyr allu ysgrifennu hafaliadau geiriau a symbolau yn hyderus.
Mae’r adnoddau’n cynnwys cwestiynau sy’n gofyn i’r dysgwyr gydbwyso hafaliadau symbolau. Gan ddibynnu ar ble mae gwneud halwyn hydawdd yn eich cynllun gwaith, efallai na fydd eich dysgwyr wedi dod ar draws hyn eto. Addaswch y cwestiynau i’w gwneud yn berthnasol i’r cam a’r lefel rydych chi arnynt. Mae rhai o’r tasgau herio’n gofyn i’r dysgwyr gymhwyso eu gwybodaeth o bynciau eraill.
Camsyniadau cyffredin
Mae dryswch yn aml am ddiffiniadau bas ac alcali. Mae basau fel yr hydrocsidau metel yn hydawdd mewn dŵr ac felly’n alcalïau . Nid yw basau anhydawdd fel copr ocsid yn alcalïaidd.
Mae rhai dysgwyr yn credu bod bas rywsut yn atal ymddygiad asidig asid. Mae angen iddynt sylweddoli mai adwaith cemegol asid a bas yw niwtralu. Mae modd mynd i’r afael â hyn drwy ystyried natur ronynnol hydoddiannau asidau ac alcalïau a’r adwaith sylfaenol wrth i ïonau hydrogen adweithio ag ïonau hydrocsid.
Mae ysgrifennu hafaliadau ïonig syml sy’n tynnu sylw at yr ïonau sy’n cymryd rhan yn yr adwaith yn gallu helpu’r myfyrwyr i ganolbwyntio ar yr adwaith sylfaenol.
Mae cwestiynau diagnostig yn ffordd wych o archwilio rhesymeg y dysgwyr am eu hatebion. Mae adnoddau Best Evidence Science Teaching yn fan cychwyn gwych i archwilio eu syniadau am asidau, alcalïau a niwtralu. Mae’r myfyrwyr yn cael cwestiwn a nifer o esboniadau tebygol am arsylwad. Maent wedyn yn dewis ac yn cyfiawnhau pa esboniad maent yn cytuno ag ef. Gallwch hefyd roi arbrofion meddwl i’r myfyrwyr a gofyn iddynt roi eu hesboniadau eu hunain. Canfod adnoddau BEST, pwnc pedwar. Darllen rhagor am gwestiynu diagnostig.
Edrychwch hefyd ar
- Preparing salts by neutralisation of oxides and carbonates – dwy dasg ymarferol arall i’w cynnal yn y dosbarth a ddatblygwyd gyda Sefydliad Nuffield.
- Acids and bases: creating solutions – Erthygl DPP sy’n canolbwyntio ar gamsyniadau myfyrwyr am y pwnc hwn.
Downloads
Paratoi halwyn hydawdd: adnoddau ategol
Handout | PDF, Size 0.35 mbParatoi halwyn hydawdd: nodiadau technegydd
Handout | PDF, Size 0.23 mbParatoi halwyn hydawdd: cyfarwyddiadau integredig
Editable handout | PowerPoint, Size 0.59 mbParatoi halwyn hydawdd: cwestiynau oedi-a-meddwl
Editable handout | Word, Size 0.16 mbParatoi halwyn hydawdd: deilliannau a fwriedir
Editable handout | Word, Size 0.14 mbParatoi halwyn hydawdd: taflen waith ddilynol
Editable handout | Word, Size 0.16 mbParatoi halwyn hydawdd: stribedi strwythur
Editable handout | Word, Size 0.13 mb
Additional information
Dorothy Warren ysgrifennodd sgript wreiddiol y fideo a’r adnoddau ategol. Sandrine Bouchelkia ysgrifennodd y nodiadau i dechnegwyr a David Paterson gynhyrchodd y cyfarwyddiadau integredig. Mae’r cyd-destunau’r byd go iawn wedi cael eu hychwanegu gan Ian McDaid.





No comments yet