Pan fydd tabled fitamin C yn adweithio â dŵr y tu mewn i diwb wedi ei selio, y canlyniad yw ei fod yn neidio o’i le

This resource is also available in English

Yn yr ymchwiliad hwn, bydd y dysgwyr yn archwilio deunyddiau sy’n newid, newidiadau anghildroadwy a nwyon o’n cwmpas, gan ddefnyddio adwaith cemegol syml. Defnyddiwch hwn mewn gwers, clwb gwyddoniaeth neu fel gweithgaredd Wythnos Wyddoniaeth. Dewiswch o fersiwn ar gyfer dysgwyr oed cynradd (9-11 oed) neu un ar gyfer dysgwyr iau yr ysgol uwchradd (11-14 oed).

Lawrlwytho’r adnoddau

Lawrlwytho’r cyfan
  • Example pages from teacher notes and classroom slides that make up this resource

    Ar gyfer ysgolion cynradd

    Popeth sydd ei angen arnoch i gynnal yr ymchwiliad hwn gyda dysgwyr cynradd. Nodiadau llawn i athrawon a chyflwyniad yn yr ystafell ddosbarth, gan gynnwys awgrymiadau addysgu a chwestiynau i'w trafod.

  • Example pages from teacher notes, student worksheet and classroom slides that make up this resource

    Ar gyfer dysgwyr iau yr ysgol uwchradd

    Bydd nodiadau i athrawon, cyflwyniad dosbarth a thaflen waith i fyfyrwyr yn eich helpu i roi modd i ddysgwyr hŷn gynllunio eu hymchwiliad eu hunain. Gyda chyfarwyddiadau integredig a thabl canlyniadau enghreifftiol.

Cyfarpar

  • Sbectol diogelwch
  • Tiwb fitamin C gwag
  • 2 x dabled fitamin C fesul grŵp (mwy fel bod modd ailadrodd)
  • Dŵr
  • Jwg neu silindr mesur
  • Amserydd neu stopwatsh
  • Hambwrdd arllwysiadau a thyweli papur

Adnoddau

Gallwch brynu tiwbiau tabledi fitamin C yn gymharol rad o archfarchnadoedd mawr, fferyllfeydd a siopau punt. Gellir golchi, sychu a defnyddio’r tiwbiau fwy nag unwaith.

Diogelwch a pheryglon

Darllenwch ein canllawiau iechyd a diogelwch safonol a chynnal asesiad risg cyn gwneud unrhyw waith ymarferol byw.

Trafodwch beryglon a mesurau rheoli gyda’r dysgwyr. Mae’r caead yn dod i ffwrdd yn sydyn ac mae’n bwysig sicrhau bod pob dysgwr yn gwisgo cyfarpar amddiffyn y llygaid. Atgoffwch y dysgwyr i beidio ag edrych yn syth i lawr ar y tiwbiau ar ôl i’r adwaith ddechrau, ac i beidio â’u pwyntio’n uniongyrchol at neb. Os na fydd caead yn dod i ffwrdd o fewn yr amser disgwyliedig, dylai dysgwyr roi gwybod i chi, a gallwch dynnu’r caead yn ofalus.

Atgoffwch y dysgwyr i beidio byth â bwyta nac yfed unrhyw beth yn ystod arbrawf gwyddonol. Mae’r hydoddiant yn llidus os yw’n dod i gysylltiad â’r llygaid - dywedwch wrth y dysgwyr am olchi eu dwylo ar ôl y sesiwn ymarferol.

Cynghorion

  • Gall y tiwbiau fitamin C ddisgyn drosodd ar ôl i’r caeadau ddod i ffwrdd, felly gwnewch yr arbrawf mewn hambwrdd neu bowlen golchi llestri er mwyn lleihau’r llanast.
  • Mae’r rhan fwyaf o diwbiau fitamin C yn cynnwys peli silica sychu yn y cap wedi eu selio â disg gardbord. Unwaith y byddan nhw’n wlyb, gall y rhain ddod o’u lle, felly mae’n syniad da eu tynnu oddi yno ymlaen llaw.

Dull

Rhoddir cyfarwyddiadau cam wrth gam llawn ar gyfer y wers yn y nodiadau i athrawon cynradd. Yn y fersiwn uwchradd, gall dysgwyr gynllunio eu hymchwiliad eu hunain, gan ddewis newidyn annibynnol i’w archwilio.

  1. Cofiwch ddilyn y cyfarwyddiadau diogelwch.
  2. Llenwch y tiwb gwag â dŵr, ac yna ei dywallt i silindr mesur. Ysgrifennwch y cyfaint a chyfrifo beth yw ei hanner. Dyma gyfaint y dŵr y byddwch yn ei ddefnyddio ar gyfer pob ailadroddiad.
  3. Mesurwch gyfaint y dŵr o gam 2 a’i arllwys i’r tiwb tabledi. Rhowch y tiwb tabledi mewn rhesel tiwbiau profi.
  4. Rhowch un dabled yn y tiwb a rhowch y caead yn sownd yn ei le. Gweithiwch gyda phartner i wneud yn siŵr eich bod yn dechrau’r amserydd cyn gynted ag y bydd y caead yn ei le.
  5. Stopiwch yr amserydd pan fydd y caead yn dod i ffwrdd.
  6. Cofnodwch yr amser a gymerwyd.
  7. Newidiwch eich newidyn annibynnol o leiaf ddwywaith (gan wneud yn siŵr bod gennych chi brawf teg o hyd) ac ailadroddwch gamau 3-6.

Rhagor o adnoddau

Cynradd

Uwchradd

Amcanion dysgu

Ar gyfer dysgwyr cynradd

Dealltwriaeth

  • Rydw i’n gallu disgrifio newid anghildroadwy.
  • Rydw i’n gwybod bod newid anghildroadwy yn cynhyrchu deunyddiau newydd.
  • Rydw i’n deall bod rhai solidau’n hydoddi.

Sgiliau ymholi

  • Rydw i’n gallu gwneud a phrofi rhagfynegiadau.
  • Rydw i’n gallu cynnig arsylwadau, cymryd mesuriadau a chofnodi fy nghanlyniadau.
  • Rydw i’n deall beth yw ‘newidynnau’.
  • Rydw i’n gallu awgrymu sut i wella fy ymchwiliad.

Ar gyfer dysgwyr uwchradd

Dealltwriaeth

  • Disgrifio adweithiau cemegol fel ad-drefnu atomau.
  • Cynrychioli adweithiau cemegol gan ddefnyddio fformiwlâu a hafaliadau.

Sgiliau

  • Rhagfynegi, arsylwi a mesur.
  • Adnabod newidynnau a sut i wneud arbrawf yn deg.
  • Adnabod patrymau a llunio casgliadau o ganlyniadau.
  • Cloriannu dibynadwyedd dulliau ac awgrymu gwelliannau.

Gwyddoniaeth gefndirol

Mae’r ymchwiliad hwn yn dangos sut mae nwy carbon deuocsid, a gynhyrchir yma o’r adwaith cemegol rhwng sodiwm hydrogencarbonad (a elwir yn gyffredin yn soda pobi) ac asid citrig, yn achosi i’r gwasgedd y tu mewn i diwb wedi ei selio gynyddu, gan wneud i’r caead neidio o’i le.

Mae sodiwm hydrogencarbonad ac asid citrig yn solidau yn y dabled ac nid ydyn nhw’n rhydd i adweithio i ffurfio carbon deuocsid nes bydd y dabled wedi hydoddi mewn dŵr. Ar ôl iddo hydoddi, y nwy sy’n cael ei gynhyrchu yn yr adwaith sy’n creu’r swigod carbon deuocsid y gall dysgwyr eu harsylwi.

Mae hwn yn adwaith niwtralu a gellir ei ddisgrifio gan yr hafaliadau geiriau a chemegol a ganlyn:

sodiwm hydrogencarbonad + asid citrig → sodiwm citrad + dŵr + carbon deuocsid

3NaHCO3 + C6 H8 O7  → Na3 C6 H5 O7 + 3H2 O + 3CO2

Mae angen fitamin C i wneud colagen ar gyfer croen, gwallt ac esgyrn iach. Mae hefyd yn ein helpu i amsugno haearn ac yn helpu i wella clwyfau. Mae honiadau ei fod yn rhoi hwb i’n system imiwnedd. Nid yw ein cyrff yn gallu cynhyrchu fitamin C, felly mae’n rhaid i ni ei gael o’r bwyd rydyn ni’n ei fwyta. Mae ffrwythau sitrws, fel orenau, pupurau coch a brocoli yn enghreifftiau o fwydydd sy’n cynnwys llawer o fitamin C.

Gall pobl nad ydyn nhw’n bwyta deiet cytbwys gymryd tabledi fitaminau i wneud yn siŵr eu bod nhw’n cael digon o fitaminau. Gall tabled befriog fod yn ffordd dda o gymryd fitaminau ychwanegol oherwydd ar ôl yr adwaith, mae fitamin C yn cael ei hydoddi yn y dŵr a gall y corff ei amsugno’n gyflymach.

Downloads