28 pos cemeg wedi’u hysbrydoli gan sudoku i ysgogi ac ennyn diddordeb eich myfyrwyr, gan gyfnerthu syniadau allweddol am amrywiaeth o bynciau, gyda thaflenni gwaith ac atebion y gallwch eu hargraffu

Ysgogwch eich myfyrwyr a‘u herio gyda’r posau gemau grid hyn y gallwch eu hargraffu. Mae’r posau’n seiliedig ar sudoku, a phob un ohonynt yn canolbwyntio ar bwnc penodol sy’n addas i fyfyrwyr 14–16 oed, o alotropau carbon i fathau o fondio. Bydd y myfyrwyr yn gwirio eu dealltwriaeth o’r cysylltiadau rhwng syniadau cemegol allweddol a data, cyn defnyddio eu gwybodaeth i gwblhau cyfres o gridiau yn unol â’r rheolau sy’n cael eu pennu.

Lawrlwytho’r posau

Gallwch lawrlwytho ac argraffu’r posau isod. Mae pob PDF yn cynnwys cyfres o bosau gemau grid sy’n seiliedig ar bwnc penodol, gyda thaflen waith i fyfyrwyr ac atebion y gallwch eu hargraffu.

Sut mae’r posau’n gweithio?

I gael rhagor o wybodaeth am y rheolau a sut gallwch ddefnyddio’r posau wrth addysgu, edrychwch ar y Trosolwg o’r gemau grid.

Downloads