Aseswch wybodaeth a dealltwriaeth y dysgwyr o adeiledd a bondio carbon

Cymysgedd o gwestiynau amlddewis, ateb byr, ateb hir a llenwi’r bylchau gyda’r marciau wedi eu dyrannu.

Gwybodaeth am yr adnodd hwn

Mae’r taflenni gwaith Gwirio gwybodaeth hyn yn rhoi cyfres o gwestiynau i asesu gwybodaeth a dealltwriaeth y dysgwyr o adeiledd a bondio carbon ar ddiwedd cyfnod o addysgu neu er mwyn adolygu.

Maent ar gael ar lefel sylfaen ac uwch ac fel fersiynau y gellir eu golygu’n llawn er mwyn i chi allu eu haddasu i gyd-fynd ag anghenion y dysgwyr. Defnyddiwch y rhain ar gyfer gwaith myfyrwyr unigol yn y dosbarth neu gartref.

Maent yn cynnwys:

  • adnabod adeileddau carbon
  • cymharu gwahanol adeileddau carbon
  • priodweddau alotropau carbon
  • adeileddau cofalent enfawr
  • grymoedd rhyngfoleciwlaidd
  • adeileddau 2 ddimensiwn a 3 dimensiwn (uwch yn unig).

Mae rhagor o adnoddau Gwirio gwybodaeth ar gael yn ein casgliad o daflenni gwaith Cemeg organig.