Mae bondio carbon yn cynnig enghreifftiau gwych o fyd gwyddoniaeth go iawn i’r dysgwyr gymhwyso eu gwybodaeth
Roedd gwyddonwyr wedi bod yn arbrofi am flynyddoedd lawer i dynnu un haen o atomau carbon o graffit. Roeddent wedi rhagfynegi y byddai ganddo briodweddau defnyddiol iawn. Ar ôl llawer o arbrofion drud, cawsant lwyddiant yn y pen draw drwy ddefnyddio tâp gludiog cyffredin i dynnu haen o atomau carbon o lwmp o graffit. Cafodd yr haen unigol hon ei henwi’n graffen. Bydd y dysgwyr yn gweithio drwy gwestiynau am graffen, Bycminsterffwleren a diemwnt ar sail eu darganfyddiad a’u defnydd gwyddonol.
-
Lawrlwythwch
Taflen waith ar lefel sylfaen a lefel uwch i roi’r hyn a ddysgir am adeiledd a bondio carbon mewn cyd-destun. Mae’r atebion wedi eu cynnwys yn y nodiadau i athrawon.
Gweld a lawrlwytho rhagor o daflenni gwaith Mewn cyd-destun
Gwybodaeth am yr adnodd hwn
Mae’r taflenni gwaith Mewn cyd-destun hyn yn gofyn i’r dysgwyr ddefnyddio eu gwybodaeth am adeiledd a bondio carbon yng nghyd-destun alotropau carbon, gan feithrin eu hyder a’u gallu i wynebu cwestiynau arholiad. Mae cymysgedd o gwestiynau amlddewis, ateb byr ac ateb hir yn ymdrin ag adeiledd a bondio:
- graffit
- graffen
- Bycminsterffwleren
- diemwnt
Mae cwestiynau cyfrifo wedi’u cynnwys i roi cyfleoedd i ymarfer sgiliau mathemategol o fewn y pwnc hwn. Mae’r taflenni gwaith ar gael ar lefel sylfaen a lefel uwch ac fel fersiynau y gellir eu golygu’n llawn, gan roi’r hyblygrwydd i chi ddewis y cwestiynau sydd fwyaf perthnasol i wers benodol neu i grŵp o ddysgwyr.
Downloads
Adeiledd a bondio carbon mewn cyd-destun: taflen myfyriwr (sylfaen)
Handout | PDF, Size 0.89 mbAdeiledd a bondio carbon mewn cyd-destun: taflen myfyriwr (uwch)
Handout | PDF, Size 0.98 mbAdeiledd a bondio carbon mewn cyd-destun: nodiadau i athrawon
Handout | PDF, Size 0.27 mbAdeiledd a bondio carbon mewn cyd-destun: taflen myfyriwr (sylfaen)
Editable handout | Word, Size 0.48 mbAdeiledd a bondio carbon mewn cyd-destun: taflen myfyriwr (uwch)
Editable handout | Word, Size 0.55 mbAdeiledd a bondio carbon mewn cyd-destun: nodiadau i athrawon
Editable handout | Word, Size 0.15 mb
Additional information
Mae rhagor o adnoddau Gwirio gwybodaeth a Mewn cyd-destun ar gael yn ein casgliad o daflenni gwaith Cemeg organig.




No comments yet