Gan ddefnyddio’r dechneg hon, gall dysgwyr fynd i’r afael â chwestiynau arholiad ateb estynedig yn fwy hyderus

Mae’r adnodd hwn yn cyd-fynd â’r erthygl Gwella llythrennedd myfyrwyr gwyddoniaeth yn Education in Chemistry.

Amcanion dysgu

  1. Cofio’r hyn rydych wedi’i ddysgu’n flaenorol am fondio, adeiledd, priodweddau mater a newidiadau mewn cyflwr.
  2. Datblygu techneg i fynd i’r afael â chwestiynau arholiad ateb estynedig, a gwella eich atebion.

Cyflwyniad

Os nad yw’r dysgwyr yn deall yr iaith sy’n cael ei defnyddio mewn cwestiynau, efallai y byddant yn ei chael hi’n anodd cyflwyno eu hatebion yn glir, yn colli marciau am wrth-ddweud, yn defnyddio’r geiriau allweddol anghywir, neu’n methu gwybodaeth allweddol.

Yn y dechneg cwestiwn ffrwydrol, mae’r dysgwyr yn anodi’r cwestiwn, neu ddiagramau cysylltiedig, â ffeithiau pwysig sy’n berthnasol i’r pwnc. Mae hyn yn eu harwain at atebion gwell i gwestiynau arholiad ateb estynedig.

Bydd modelu’r dechneg i’r dysgwyr yn eu galluogi i’w defnyddio’n annibynnol a drwy ddefnyddio cwestiynau enghreifftiol da, gallant elwa ar wybodaeth eu cyd-ddysgwyr hefyd.

Sgiliau logo

Mae’r adnodd hwn yn rhan o’n cyfres Addysgu sgiliau gwyddoniaeth gan ddod â strategaethau ynghyd â gweithgareddau’r ystafell ddosbarth i helpu eich dysgwyr i ddatblygu sgiliau gwyddonol hanfodol, fel cynllunio gwaith ymarferol, moeseg, a mwy.

Sut mae defnyddio’r adnodd

Defnyddiwch y sleidiau PowerPoint i gyflwyno enghraifft un, cwestiwn hen bapur go iawn. Mae sleid pedwar yn dangos sut mae anodi’r cwestiwn; mae geiriau gorchymyn/cyfarwyddiadau allweddol mewn blychau, ac mae geiriau allweddol yn y cwestiwn wedi’u tanlinellu.

Mae sleid pump yn ffrwydro’r cwestiwn, gan nodi gwybodaeth allweddol. Mae’r testun glas yn disgrifio’r bondio a’r adeiledd, ac mae’r testun coch yn rhoi’r esboniad y mae’r cwestiwn yn chwilio amdano.

Yna, gofynnwch i’ch dysgwyr ysgrifennu eu hatebion yn annibynnol. Drwy dicio neu dynnu sylw pan fydd pwynt yn cael ei gynnwys, gallant sicrhau eu bod wedi cynnwys yr holl wybodaeth angenrheidiol, gan ennill y marciau uchaf gobeithio. Rhannwch y canllawiau marcio (sleid saith) â’r dysgwyr er mwyn iddynt allu gweld pa mor llwyddiannus oeddent.

Mae enghraifft dau yn rhoi cwestiwn tebyg arall i roi cyfle i’r dysgwyr ymarfer y dechneg. Gofynnwch iddynt weithio ar eu pen eu hunain yn gyntaf, yna trafodwch eu cwestiwn ffrwydrol mewn parau neu grwpiau bach, cyn ysgrifennu ateb.

Gwahaniaethu a chymorth

Gallwch ddefnyddio’r cwestiynau isod i helpu i ffrwydro’r cwestiwn yn yr enghraifft gyntaf neu i roi cymorth i’r dysgwyr sydd ei angen gyda’r ail enghraifft.

Neu, gallwch helpu’r dysgwyr i ysgrifennu atebion i gwestiynau ateb estynedig gan ddefnyddio stribedi strwythur, rhagor o wybodaeth a thempled. Gall hyn fod yn ddefnyddiol i’r dysgwyr sydd angen rhagor o gymorth gydag elfen ysgrifennu’r dasg.

Enghraifft un – cwestiynau ategol

Clorin

  • Ai metel neu anfetel yw clorin?
  • Pa fath o fondio sydd gan glorin?
  • A yw’n foleciwl cofalent syml neu’n foleciwl cofalent enfawr?
  • Pa rymoedd sydd rhwng moleciwlau clorin?
  • A yw’r grymoedd hyn yn gryf neu’n wan?
  • Oes angen ychydig neu lawer o egni i drechu’r grymoedd hyn?
  • Felly, a oes gan glorin ymdoddbwynt a berwbwynt isel neu uchel?

Sodiwm clorid

  • Ai metel neu anfetel yw clorin?
  • Ai metel neu anfetel yw sodiwm?
  • Pa fath o fondio sydd gan sodiwm clorid?
  • Beth yw enw y math hwn o adeiledd?
  • Pa rymoedd sydd rhwng yr ïonau sodiwm positif a’r ïonau clorid negatif?
  • A yw’r grymoedd hyn yn gryf neu’n wan?
  • Oes angen ychydig neu lawer o egni i drechu’r grymoedd hyn?
  • Felly, a oes gan sodiwm clorid ymdoddbwynt a berwbwynt isel neu uchel?

Enghraifft dau – cwestiynau ategol

Carbon deuocsid

  • Ai metel neu anfetel yw carbon?
  • Ai metel neu anfetel yw ocsigen?
  • Pa fath o fondio sydd gan garbon deuocsid?
  • A yw’n foleciwl cofalent syml neu’n foleciwl cofalent enfawr?
  • Pa rymoedd sydd rhwng y moleciwlau carbon deuocsid?
  • A yw’r grymoedd hyn yn gryf neu’n wan?
  • Oes angen ychydig neu lawer o egni i drechu’r grymoedd hyn?
  • Felly, a oes gan garbon deuocsid ymdoddbwynt a berwbwynt isel neu uchel?

Diemwnt

  • Enwch yr elfen mae diemwnt yn ei chynnwys?
  • Ai metel neu anfetel yw’r elfen hon?
  • Pa fath o fondio sydd gan ddiemwnt?
  • A yw’n foleciwl cofalent syml neu’n foleciwl cofalent enfawr?
  • Oes grymoedd neu fondiau rhwng yr atomau?
  • A yw’r rhain yn gryf neu’n wan?
  • Oes angen ychydig neu lawer o egni i’w trechu?
  • Felly, a oes gan ddiemwnt ymdoddbwynt a berwbwynt isel neu uchel?

Rhowch gwestiwn ateb estynedig arall i’r dysgwyr sydd wedi deall y dechneg yn hyderus i roi cynnig arno’n annibynnol.