Cefnogwch eich dysgwyr i ddatblygu modelau meddyliol a dyfnhau eu dealltwriaeth o atomau ac isotopau

Cyfres o adnoddau yw Datblygu dealltwriaeth, sy’n annog y dysgwyr i gysylltu eu ffordd o feddwl ar y lefelau macrosgopig, is-ficrosgopig a symbolaidd.

  • Tudalennau enghreifftiol sy'n ffurfio'r adnodd hwn

    Lawrlwythwch

    Ymestyn Taflen waith datblygu dealltwriaeth, ar gyfer yr ystod oedran 14–16

    Taflen waith raddol i helpu’r dysgwyr i ddatblygu eu modelau meddyliol o folau a màs. Gydag eiconau i ddangos lefel gysyniadol neu lefelau cysyniadol pob cwestiwn. Mae’r atebion i’w gweld yn y nodiadau i athrawon.

Amcanion dysgu

  1. Cofio adeiledd gwahanol alotropau carbon.
  2. Egluro pam mae carbon yn gallu ffurfio gwahanol adeileddau enfawr.
  3. Egluro pam nad yw diemwnt yn dargludo trydan ond mae graffit yn dargludo trydan.

Sut mae defnyddio’r adnodd hwn

Nod yr adnodd hwn yw datblygu dealltwriaeth y dysgwyr o adeiledd yr atom. Mae’r cwestiynau’n annog y dysgwyr i feddwl am sut mae’r adeileddau’n cael eu cynrychioli a beth mae hyn yn ei olygu ar y lefel is-ficrosgopig. O ganlyniad, dylai’r dysgwyr ddatblygu modelau meddyliol mwy cadarn i gefnogi eu ffyrdd o feddwl am y pwnc hwn.

  • Pryd i’w defnyddio? Defnyddiwch y daflen waith ar ôl yr addysgu cychwynnol neu’r drafodaeth gychwynnol ar y pwnc hwn i ddatblygu syniadau ymhellach. Gallwch hefyd ei defnyddio fel gweithgaredd adolygu.
  • Maint y grŵp? Mae’n addas ar gyfer gwaith annibynnol yn y dosbarth neu gartref. Neu defnyddiwch y cwestiynau ar gyfer trafodaethau grŵp neu ddosbarth.
  • Pa mor hir? 15–30 munud

Triongl Johnstone

Model o dair lefel gysyniadol wahanol mewn cemeg yw triongl Johnstone: macrosgopig, symbolaidd ac is-ficrosgopig. Gallwch ddefnyddio triongl Johnstone i feithrin dealltwriaeth gadarn o syniadau cemegol ymhlith eich dysgwyr.

Cyflwynwch driongl Johnstone i’r dysgwyr gyda’n Taflen waith molau o aur: triongl Johnstone sy’n arwain y dysgwyr i edrych ar ffyrdd gwahanol o gynrychioli a disgrifio màs aur ar lefelau macrosgopig, is-ficrosgopig a symbolaidd.

Darllen pellach 

Darllenwch fwy am sut mae defnyddio triongl Johnstone yn eich gwaith addysgu gyda’r erthyglau hyn:

Mae llyfr Norman Reid The Johnstone Triangle: the key to understanding chemistry yn rhoi trosolwg manylach, ac mae’r bennod gyntaf ar gael i’w darllen ar-lein.

Triongl Johnstone a’r adnodd hwn

Mae’r eiconau ar yr ymylon yn dangos pa lefel o ddealltwriaeth y mae pob cwestiwn yn ei datblygu i helpu i annog y dysgwyr i feddwl.

  • Macrosgopig: beth allwn ni ei weld. Meddyliwch am y priodweddau y gallwn eu harsylwi, eu mesur a’u cofnodi.
  • Is-ficrosgopig: llai nag y gallwn ei weld. Meddyliwch am y lefel ronynnol neu atomig.
  • Symbolaidd: cynrychioliadau. Meddyliwch sut rydym yn cynrychioli syniadau cemegol gan gynnwys symbolau a diagramau.

Mae’r lefelau’n gysylltiedig â’i gilydd, er enghraifft, mae angen i’r dysgwyr gael cynrychioliad gweledol o’r lefel is-ficrosgopig er mwyn datblygu modelau meddyliol o’r lefel ronynnol neu’r lefel atomig. Ein dull gweithredu yw defnyddio eiconau ar gyfer y cwestiynau yn seiliedig ar yr hyn y dylai’r dysgwyr fod yn meddwl amdano.

Mae’n bosibl y bydd y cwestiynau wedi’u labelu â dau eicon neu â phob un o’r tri eicon, sy’n dangos y bydd y dysgwyr yn meddwl ar fwy nag un lefel. Fodd bynnag, mae’n bosibl y bydd rhannau unigol o’r cwestiwn yn gofyn i’r dysgwyr feddwl am un neu ddwy lefel benodol ar y tro.

Cefnogaeth

Mae’r daflen waith hon yn un raddol, felly mae’r cwestiynau cynharach yn fwy hygyrch. Mae’r gweithgaredd yn dod yn fwy heriol wrth i’r cwestiynau fynd yn eu blaenau. Gallwch roi esboniadau ychwanegol ar gyfer y cwestiynau mwy heriol. Os ydych yn cwblhau’r daflen waith fel gweithgaredd yn y dosbarth, mae’n well oedi o bryd i’w gilydd a gwneud yn siŵr bod pawb yn deall, gan fod y cwestiynau’n adeiladu ar sail y cwestiwn blaenorol yn aml.

Mae’n ddefnyddiol i’r dysgwyr arsylwi priodweddau macrosgopig drostynt eu hunain. Gallech chi rannu enghreifftiau o sylweddau o gwmpas yr ystafell ddosbarth, cynnal adwaith cemegol ymarferol yn y dosbarth, neu roi arddangosiad gan athro o’r nodweddion.

Rhowch fodelau ffisegol i’r dysgwyr eu defnyddio a’u trin, fel cit Molymod™ neu gownteri.

Efallai y bydd angen cymorth ychwanegol ar unrhyw ddysgwyr sy’n dal yn ddihyder yn defnyddio’r cynrychioliad symbolaidd gofynnol, er enghraifft drwy rannu ac egluro diagram neu efelychiad sy’n gallu dangos ymsymudiad y gronynnau.

Atebion a chanllawiau

Lawrlwythwch y nodiadau i athrawon i ddod o hyd i’r atebion i daflen waith y myfyrwyr.

Mae tri chwestiwn aml-ran yn y daflen waith i fyfyrwyr. Mae’r cwestiwn cyntaf yn helpu’r dysgwyr i adnabod, i ddehongli ac i werthuso diagramau nodweddiadol sy’n cynrychioli adeiledd is-ficrosgopig gwahanol alotropau carbon. Mae’r ail gwestiwn yn arwain y dysgwyr i ddefnyddio diagramau dot a chroes i egluro pam mae carbon yn gallu ffurfio adeileddau enfawr. Mae’r cwestiwn olaf yn herio dealltwriaeth y dysgwyr o ddiagram o adeiledd diemwnt drwy wneud cysylltiadau ag adeiledd atomig. Yna gofynnir i’r dysgwyr ddefnyddio’r ddealltwriaeth hon i egluro priodweddau macrosgopig diemwnt a graffit.