Faint o wasgedd all bycminsterffwleren ei gymryd?
Crynodeb un sleid o’r erthygl hon gyda chwestiynau i’w defnyddio gyda’ch myfyrwyr 14–16 oed: rsc.li/2XbUQss
Mae gwyddonwyr wedi canfod bod rhoi bycminsterffwleren C60 dan wasgedd a thymheredd uchel yn cynhyrchu deunyddiau carbon amorffaidd gyda chryfder cywasgol tebyg i ddiemwnt.
O dan amodau amgylchol, mae C60 yn aros yn sefydlog ar wasgedd hyd at 25GPa. Ond ar dymheredd uwch nag 800˚C mae’n cywasgu ar 5GPa i ffurfio deunydd carbon anhrefnus gan fod yr amodau eithafol yn achosi i nodwedd bondio’r ffwleren newid o sp2 i sp3. Mae priodweddau ffisegol y deunydd sy’n deillio o hyn yn dibynnu ar y gymhareb o garbonau sp2 i sp3. Mae codi’r tymheredd yn ystod synthesis yn cynyddu’r ffracsiwn sp3, gan gynhyrchu deunydd caletach.
Cafodd y caletaf o’r deunyddiau amorffaidd hyn a grëwyd gan ymchwilwyr ei greu ar dymheredd o 1200˚C. Mae ei rwydwaith o garbonau sp3 wedi’i drefnu’n detragonal sy’n golygu ei fod mor galed fel ei fod yn crafu diemwnt, a bod ganddo gryfder cywasgol tebyg i ddiemwnt, sy’n egluro pam mae’r deunydd yn gallu gwrthsefyll cael ei wasgu o dan lwyth. Ond yn wahanol i ddiemwnt ynysedig, mae gan y deunydd fandfwlch bach, sy’n golygu ei fod yn lled-ddargludydd. Gallai hyn fod yn ddefnyddiol mewn celloedd solar a chymwysiadau ffoto-electrig, oherwydd mae’r bandfwlch yn debyg i un silicon.
Rhowch hyn mewn cyd-destun
Ychwanegwch gyd-destun a thynnwch sylw at yrfaoedd amrywiol gyda’n fideos gyrfa byr sy’n dangos sut mae cemeg yn gwneud gwahaniaeth. Hefyd, gadewch i’ch dysgwyr gael eu hysbrydoli gan gemegwyr fel Aruna, uwch ddatblygwr meddalwedd.
Darllenwch y stori lawn yn Chemistry World.
Downloads
Gwneud alotropau carbon cryfach: sleidiau gwers
Presentation | PDF, Size 0.21 mbGwneud alotropau carbon cryfach: sleidiau gwers
Presentation | PowerPoint, Size 0.71 mb




No comments yet