Defnyddiwch driongl Johnstone i helpu’r dysgwyr i wahaniaethu rhwng atomau ac ïonau copr
Gyda’r adnodd hwn, mae’r dysgwyr yn arsylwi arddangosiad gan yr athro o ddadleoliad copr o hydoddiant copr sylffad gan ddefnyddio rhuban magnesiwm. Maent yn defnyddio’r arsylwad hwn i archwilio sut gall atomau ac ïonau fod â phriodweddau gwahanol.
-
Lawrlwythwch
Defnyddiwch y daflen waith hon i fyfyrwyr i gyflwyno atomau ac ïonau copr ar dair lefel gysyniadol wahanol yn seiliedig ar arsylwadau’r dysgwyr.
Gweld a lawrlwytho rhagor o daflenni gwaith triongl Johnstone
Amcanion dysgu
- Disgrifio atomau ac ïonau o ran ennill/colli electronau.
- Ysgrifennu’r symbolau atomig ar gyfer atomau ac ïonau.
- Arsylwi bod atomau ac ïonau yn gallu bod â phriodweddau gwahanol.
Sut mae defnyddio triongl Johnstone
Defnyddiwch driongl Johnstone i ddatblygu ffordd y dysgwyr o feddwl am gysyniadau gwyddonol ar dair lefel gysyniadol wahanol:
- Macrosgopig: beth allwn ni ei weld. Meddyliwch am y priodweddau y gallwn eu harsylwi, eu mesur a’u cofnodi.
- Is-ficrosgopig: llai nag y gallwn ei weld. Meddyliwch am y lefel ronynnol neu atomig.
- Symbolaidd: cynrychioliadau. Meddyliwch sut rydym yn cynrychioli syniadau cemegol gan gynnwys symbolau a diagramau.
Er mwyn i’r dysgwyr wella eu hymwybyddiaeth o bwnc, mae angen iddynt ei ddeall ar y tair lefel.
Wrth gyflwyno pwnc, peidiwch â cheisio cyflwyno’r holl lefelau o feddwl ar unwaith. Bydd hyn yn gorlwytho’r cof gweithredol. Yn hytrach, cwblhewch y triongl dros gyfres o wersi, gan ddechrau gyda’r lefel facrosgopig ac wedyn cyflwyno lefelau eraill, yn eu tro, ar ôl sicrhau bod pethau’n iawn.
Mae’r holl lefelau’n gysylltiedig â’i gilydd. Er enghraifft, mae angen i’r dysgwyr gael cynrychioliad gweledol o’r is-ficrosgopig er mwyn datblygu modelau meddyliol o’r lefel ronynnol neu’r lefel atomig.
Darllen pellach
Darllenwch fwy am sut mae defnyddio triongl Johnstone yn eich gwaith addysgu gyda’r erthyglau hyn:
- Develop deeper understanding with models
- Improve students’ understanding with Johnstone’s triangle
- Practical ideas for using Johnstone’s triangle
Mae llyfr Norman Reid, The Johnstone Triangle: The Key to Understanding Chemistry yn rhoi trosolwg manylach, ac mae’r bennod gyntaf ar gael i’w darllen ar-lein.
Sgaffaldio
Mae’n bwysig rhannu fframwaith y triongl â’r dysgwyr cyn ei ddefnyddio. Dywedwch wrthynt pam eich bod eisiau iddynt ddefnyddio’r triongl a sut bydd yn eu helpu i ddatblygu eu dealltwriaeth. Defnyddiwch ddull ‘rydw i’n rhoi cynnig arni, rydyn ni’n rhoi cynnig arni, rydych chi’n rhoi cynnig arni’ wrth gyflwyno triongl Johnstone am y tro cyntaf.
Y camau nesaf
Er mwyn datblygu rhagor ar ffordd y dysgwyr o feddwl ym mhob rhan o driongl Johnstone, rhowch gynnig ar ein taflen waith Datblygu dealltwriaeth o atomau ac ïonau. Mae’r rhain yn cynnwys eiconau ar yr ymylon sy’n cyfeirio at y lefel gysyniadol o feddwl sydd ei hangen i ateb y cwestiwn.
Downloads
Atomau ac ïonau copr Triongl Johnstone: taflen myfyriwr
Handout | PDF, Size 0.26 mbAtomau ac ïonau copr Triongl Johnstone: nodiadau i athrawon
Handout | PDF, Size 0.28 mbAtomau ac ïonau copr Triongl Johnstone: taflen myfyriwr
Editable handout | Word, Size 0.72 mbAtomau ac ïonau copr Triongl Johnstone: nodiadau i athrawon
Editable handout | Word, Size 0.72 mb









No comments yet