Archwiliwch ddealltwriaeth a chadw golwg am gamsyniadau cyffredin am fondio ïonig
Defnyddiwch yr 20 cwestiwn cywir neu anghywir hyn i wirio’r ddealltwriaeth o fondio ïonig gan ddefnyddio sodiwm clorid fel enghraifft.
-
Lawrlwythwch
Taflen waith cywir neu anghywir gydag atebion a chanllawiau i athrawon i helpu i nodi a mynd i’r afael ag unrhyw gamsyniadau sydd gan ddysgwyr am fondio ïonig.
Gweld a lawrlwytho rhagor o Adnoddau camsyniadau cemegol
Sut mae defnyddio’r adnodd hwn
Defnyddiwch y daflen i fyfyrwyr i adnabod a mynd i’r afael ag unrhyw gamsyniadau am fondio ïonig. Mae rhai dysgwyr yn gweld bondio ïonig mewn sodiwm clorid fel ffenomen foleciwlaidd, gyda pharau arwahanol sydd wedi’u bondio’n ïonig yn fewnol, ond yn cael eu hatynnu at ei gilydd gan rymoedd gwannach (darllenwch fwy am gamsyniadau dysgwyr am fondio cemegol).
- Pryd i ddefnyddio’r adnodd? Defnyddiwch hwn gyda dysgwyr yn yr ystod oedran 14–16 sydd wedi astudio bondio cemegol i ddatblygu, adolygu neu asesu’r pwnc.
- Maint y grŵp? Mae’n addas ar gyfer gwaith annibynnol yn y dosbarth neu gartref. Neu defnyddiwch y cwestiynau wrth drafod fel grŵp neu ddosbarth i ddiagnosio camsyniadau’r dysgwyr.
- Pa mor hir? 10–15 munud
Pwysleisiwch i’r dysgwyr mai dim ond sleisen fach o’r adeiledd dellten sy’n cael ei dangos yn y diagram, a bod yr adeiledd go iawn yn dri dimensiwn.
Rhowch gopi o’r atebion i’r dysgwyr ar ôl iddynt lenwi’r daflen i fyfyrwyr.

Atebion
- Bydd ïon positif yn cael ei atynnu at unrhyw ïon negatif.
CYWIR: Bydd unrhyw wrthrych sydd â gwefr bositif yn cael ei atynnu at unrhyw wrthrych sydd â gwefr negatif. Nid oes ots sut cafodd y gwrthrychau eu gwefr; y cwbl mae’r atyniad yn dibynnu arno yw maint y wefr a’r pellter rhwng y ddau wrthrych sydd â gwefr.
- Dim ond â’r ïon clorid mae wedi cyfrannu ei electron iddo mae’r ïon sodiwm wedi bondio.
ANGHYWIR: Mae pob ïon sodiwm positif wedi’i fondio â phob ïon clorid negatif cyfagos. Nid yw’n berthnasol sut cafodd yr ïonau eu gwefr.
- Dim ond un bond ïonig y gall atom sodiwm ei ffurfio oherwydd mai dim ond un electron sydd ganddo yn ei blisgyn allanol i’w gyfrannu.
ANGHYWIR: Gall ïon sodiwm fondio’n gryf â chynifer o ïonau clorid ag sy’n gallu pacio o’i amgylch yn y ddellten crisial reolaidd, i bob pwrpas. Mewn NaCl bydd chwe ïon clorid wedi’u bondio’n gryf â phob ïon sodiwm.
- Mae bond yn cael ei ffurfio rhwng ïonau clorid ac ïonau sodiwm oherwydd bod electron wedi cael ei drosglwyddo rhyngddynt.
ANGHYWIR: Y rheswm pam mae bond yn cael ei ffurfio rhwng ïonau clorid ac ïonau sodiwm yw bod ganddynt wefr electrostatig ddirgroes – negatif a phositif.
- Yn y diagram, mae ïon clorid yn cael ei atynnu at un ïon sodiwm gan fond ac yn cael ei atynnu at ïonau sodiwm eraill gan rymoedd yn unig.
ANGHYWIR: Yn y diagram, mae pob ïon clorid yn cael ei atynnu at hyd at bedwar ïon sodiwm gan fond sy’n rym electrostatig. (Byddai hefyd pumed ïon sodiwm uwchlaw’r ïon clorid ac un arall islaw – ond nid yw’r rhain yn cael eu dangos yn y diagram.)
- Yn y diagram, mae pob moleciwl o sodiwm clorid yn cynnwys un ïon sodiwm ac un ïon clorid.
ANGHYWIR: Nid oes moleciwlau mewn sodiwm clorid, dim ond ïonau. Mae moleciwl yn cynnwys grŵp o atomau sydd wedi’u rhwymo’n gryf at ei gilydd a dim ond wedi’u bondio’n wan (os o gwbl) â moleciwlau eraill. Mewn sodiwm clorid, mae pob ïon wedi’i fondio’n gryf â phob un o’i chwe chymydog agosaf.
- Bond ïonig yw’r atyniad rhwng ïon positif ac ïon negatif.
CYWIR: Bond ïonig yw’r atyniad rhwng ïon positif ac ïon negatif.
- Gall ïon positif fod wedi’i fondio ag unrhyw ïon negatif cyfagos, os yw’n ddigon agos.
CYWIR: Y bond yw’r atyniad rhwng yr ïonau â gwefr ddirgroes. Os yw’r ïonau’n agos at ei gilydd, bydd y grym hwn yn fond cryf.
- Bydd ïon negatif yn cael ei atynnu at unrhyw ïon positif.
CYWIR: Bydd unrhyw wrthrych sydd â gwefr negatif yn cael ei atynnu at unrhyw wrthrych sydd â gwefr bositif. Nid oes ots sut cafodd y gwrthrychau eu gwefr; y cwbl mae’r atyniad yn dibynnu arno yw maint y wefr a’r pellter rhwng y ddau wrthrych sydd â gwefr.
- Ni allwch adnabod bondiau ïonig, oni bai eich bod yn gwybod pa ïonau clorid sydd wedi derbyn electronau gan ba ïonau sodiwm.
ANGHYWIR: Gan mai dim ond yr atyniad rhwng ïonau yw bond, bydd yna fond rhwng unrhyw ïonau cyfagos sydd â gwefr ddirgroes.
- Dim ond â’r ïon sodiwm mae wedi derbyn electron ganddo mae’r ïon clorid wedi bondio.
ANGHYWIR: Mae pob ïon clorid negatif wedi’i fondio â phob gwrth-ïon sodiwm positif cyfagos. Nid yw’n berthnasol sut cafodd yr ïonau eu gwefr.
- Dim ond un bond ïonig cryf y gall atom clorin ei ffurfio, oherwydd mai dim ond un electron arall mae’n gallu ei dderbyn i’w blisgyn allanol.
ANGHYWIR: Gall ïon clorid fondio’n gryf â chynifer o ïonau sodiwm ag sy’n gallu pacio o’i amgylch yn y ddellten crisial reolaidd, i bob pwrpas. Mewn NaCl bydd chwe ïon sodiwm wedi’u bondio’n gryf â phob ïon clorid.
- Mae bond rhwng yr ïonau ym mhob moleciwl, ond nid oes bondiau rhwng y moleciwlau.
ANGHYWIR: Nid oes moleciwlau mewn sodiwm clorid ond mae rhwydwaith parhaus o fondiau drwy’r ddellten.
- Dim ond at un ïon positif y gall ïon negatif gael ei atynnu.
ANGHYWIR: Nid oes terfyn ar nifer yr ïonau positif y gall ïon negatif gael ei atynnu atynt (ond mae terfyn ar faint sy’n gallu clystyru o’i amgylch).
- Mae bond yn cael ei ffurfio rhwng ïonau clorid ac ïonau sodiwm oherwydd bod ganddynt wefrau dirgroes.
CYWIR: Mae’r gwefrau dirgroes yn eu hatynnu at ei gilydd a’r grym atyniad electrostatig hwn yw’r bond ïonig.
- Yn y diagram, mae ïon sodiwm yn cael ei atynnu at un ïon clorid gan fond ac yn cael ei atynnu at ïonau clorid eraill gan rymoedd yn unig.
ANGHYWIR: Yn y diagram, mae pob ïon sodiwm yn cael ei atynnu at hyd at bedwar ïon clorid gan fond sy’n rym electrostatig. (Byddai hefyd pumed ïon clorid uwchlaw’r ïon sodiwm ac un arall (chweched) islaw – ond nid yw’r rhain yn cael eu dangos yn y diagram.)
- Dim ond at un ïon negatif y gall ïon positif gael ei atynnu.
ANGHYWIR: Nid oes terfyn ar nifer yr ïonau positif y gall ïon negatif gael ei atynnu atynt (ond mae terfyn ar faint sy’n gallu clystyru o’i amgylch).
- Bond ïonig yw pan fo un atom yn cyfrannu electron i atom arall, fel bod gan y ddau blisgyn allanol llawn.
ANGHYWIR: Bond ïonig yw’r grym electrostatig sy’n dal dau ïon â gwefr ddirgroes at ei gilydd. Gallai’r ïonau fod wedi’u gwefru drwy drosglwyddo electronau, ond fel arfer roedd gan yr ïonau wefr ymhell cyn iddynt ddod i gysylltiad â’i gilydd.
- Gall ïon negatif fod wedi’i fondio ag unrhyw ïon positif cyfagos, os yw’n ddigon agos.
CYWIR: Y bond yw’r atyniad rhwng yr ïonau â gwefr ddirgroes. Os yw’r ïonau’n agos at ei gilydd, bydd y grym hwn yn fond cryf.
- Ni ddangosir dim moleciwlau yn y diagram.
CYWIR: Mae moleciwl yn cynnwys grŵp o atomau sydd wedi’u rhwymo’n gryf at ei gilydd a dim ond wedi’u bondio’n wan (os o gwbl) â moleciwlau eraill. Mewn sodiwm clorid, mae pob ïon wedi’i fondio’n gryf â phob un o’i chwe chymydog agosaf.
Downloads
Bondio ïonig: cywir neu anghywir? nodiadau i athrawon
Handout | PDF, Size 0.27 mbBondio ïonig: cywir neu anghywir? taflen myfyriwr
Handout | PDF, Size 0.22 mbBondio ïonig: cywir neu anghywir? nodiadau i athrawon
Editable handout | Word, Size 0.52 mbBondio ïonig: cywir neu anghywir? taflen myfyriwr
Editable handout | Word, Size 0.53 mb
Websites
Additional information
Daw’r adnoddau hyn o’r llyfr Chemical Misconceptions: Prevention, Diagnosis and Cure: Theoretical Background, Volume 2, gan Keith Taber.
Cafodd yr adnodd hwn ei addasu a’i ddiweddaru yn 2025 gan Kirsty Patterson.









No comments yet