Set o ddiagramau lle mae’n rhaid i ddysgwyr adnabod y math neu’r mathau o fondiau a gynrychiolir

  • Tudalennau enghreifftiol sy'n ffurfio'r adnodd hwn

    Lawrlwythwch

    Adnabod bondiau gyda’r 18 diagram hyn sydd wedi’u llunio i herio dysgwyr i adnabod mathau o fondiau wedi’u dangos mewn amrywiaeth o ffyrdd. Defnyddiwch sleidiau’r wers neu’r daflen waith i fyfyrwyr ar un o’r ddwy lefel. Mae’r atebion yn sleidiau’r wers ac yn y canllawiau i athrawon.

Sut mae defnyddio’r adnodd hwn

Tynnwch sylw’r dysgwyr at y ffaith bod rhai o’r diagramau’n cyfeirio at atomau neu foleciwlau unigol, tra bo eraill yn dangos rhai o’r gronynnau mewn sylweddau penodol ac felly dylent roi sylw manwl i’r labeli o dan y ffigurau.

  • Pryd i ddefnyddio’r adnodd? Defnyddiwch gyda dysgwyr 14–16 oed, i weld a ydynt yn gallu adnabod enghreifftiau o’r mathau o fondiau a geir ar y lefel hon (bondiau cofalent, ïonig a metelig).
  • Maint y grŵp? Addas ar gyfer gwaith annibynnol yn y dosbarth i wneud diagnosis o gamsyniadau dysgwyr.
  • Pa bynciau sy’n cael eu hasesu? Bondio cemegol (gan gynnwys: ïonig, cofalent, metelig, polar, hydrogen, deupol-deupol, van der Waals, hydoddiant, co-ïonig, dwbl, dadleoledig)
  • Pa mor hir? 10–15 munud

Sail resymegol

Mae ymchwil yn awgrymu bod dysgwyr yn canolbwyntio ar fondio cofalent ac ïonig, a’u bod yn gallu methu neu beidio â sylweddoli pwysigrwydd mathau eraill o fondio (darllenwch drafodaeth am syniadau dysgwyr am adeiledd atomig ac adeileddau cemegol eraill). Defnyddiwch yr adnodd hwn fel ffordd gyflym o archwilio ymwybyddiaeth y dysgwyr o wahanol fathau o fondiau.

Mae sawl gwahanol fath o ddiagram yn yr adnodd hwn, gan ei bod hi’n bwysig i’r dysgwyr allu dehongli a defnyddio gwahanol ffyrdd o gynrychioli endidau cemegol (darllenwch ragor am gredoau dysgwyr mewn syniadau amgen).

Er y dylai dysgwyr 14–16 oed allu adnabod bondiau ïonig, cofalent a metelig yn unrhyw un o’r diagramau yn yr adnodd llawn, mae rhai o’r endidau cemegol yn arbennig o heriol oherwydd bod y sylwedd, y diagram, neu’r ddau yn gymhleth ac yn anghyfarwydd.

Er enghraifft, efallai y bydd dysgwyr 14–16 oed yn ei chael hi’n anodd adnabod y bond mewn deumer alwminiwm clorid gan nad ydynt efallai wedi dod ar draws y gair ‘deumer’, na’r nodiant saeth yn y diagram, a byddant yn disgwyl i fetel ac anfetel ffurfio cyfansoddyn ïonig. Fodd bynnag, bydd dysgwyr 14–16 oed yn gyfarwydd â defnyddio llinell sengl i gynrychioli bond cofalent sengl mewn fformiwla adeileddol. Bydd hyn yn herio gallu’r dysgwyr i ddehongli diagramau ac yn rhoi cyfle i ragolygu natur fwy cymhleth bondio y byddant yn dod ar ei draws mewn astudiaethau ôl-16, gyda sleidiau’r wers i ategu hyn.

Sgaffaldio

Defnyddiwch y fersiwn symlach o’r adnodd, gyda dim ond naw diagram i’w dehongli, er mwyn helpu’r dysgwyr llai hyderus. Mae’r diagramau yn y fersiwn byrrach wedi cael eu dewis yn benodol oherwydd byddant yn gyfarwydd i ddysgwyr 14–16 oed.

Mae’r naill fersiwn a’r llall wedi’u haddasu o fersiwn gwreiddiol yr adnodd ar gyfer dysgwyr 16–18 oed.

Atebion

  1. Dellten sodiwm clorid: ïonig
  2. Dellten diemwnt: cofalent
  3. Moleciwl bensen: cofalent, dadleoledig
  4. Dellten gopr: metelig
  5. Moleciwl hydrogen fflworid: cofalent, polar
  6. Dŵr hylifol: cofalent, grymoedd deupol-deupol, grymoedd van der Waals, hydrogen, polar
  7. Moleciwl fflworin: cofalent
  8. Hydoddiant arian nitrad: cofalent, deupol-deupol, grymoedd van der Waals, hydrogen, polar, rhyngweithiadau hydoddydd-hydoddyn
  9. Nwy ocsigen: cofalent (dwbl/sigma + pi), grymoedd van der Waals
  10. Moleciwl sylffwr: cofalent
  11. Atom sodiwm: dim bondio cemegol (er bod grymoedd mewnatomig o natur debyg)
  12. Deumer alwminiwm clorid: polar, gan gynnwys cofalent co-ïonig (cyd-drefnol)
  13. Moleciwl carbon deuocsid: cofalent, polar (dwbl/sigma + pi)
  14. Deumer asid ethanöig: cofalent, hydrogen, polar
  15. Dellten ïodin: cofalent, grymoedd van der Waals
  16. Moleciwl amonia: cofalent, polar
  17. Dellten magnesiwm ocsid: ïonig
  18. Hydrogen clorid hylifol: cofalent, grymoedd van der Waals, polar

Downloads