Dangoswch i’r myfyrwyr sut gall crisialau ïonig arddangos math newydd o grisialu er mwyn osgoi arwynebau hydroffobig

  • Tudalennau enghreifftiol sy'n ffurfio'r adnodd hwn

    Lawrlwythwch

    Sleid gychwynnol i’w defnyddio gyda myfyrwyr 14–16 oed i roi cyd-destun newydd wrth iddynt astudio crisialau ïonig.

Mae gwyddonwyr wedi darganfod bod crisialau halwyn yn gallu tyfu coesau bach i godi eu hunain oddi wrth arwynebau hydroffobig penodol.

A series of photos of salt crystals forming above a solution

Source: © Salim et al (2020)/ Jouranal of Physical Chemistry Letters

TiFideo treigl amser o ddefnyn o NaCl dyfrllyd yn anweddu a choesau tenau’n ffurfio ar waelod y crisial

Gallwch weld gweddillion halwyn gwyn ar strwythurau concrit neu frics yn aml. Mae’r ewlychiad hwn yn cael ei achosi oherwydd bod dŵr heli yn mudo i arwyneb y deunyddiau mandyllog, lle bydd y dŵr yn anweddu, gan adael yr halwyn ar ôl. Mae’r broses yn hyll ar y gorau ac yn ddinistriol ar y gwaethaf.

Er mai sodiwm clorid yw’r halwyn mwyaf cyffredin ar y Ddaear, ychydig a wyddom am sut mae triniaethau arwyneb yn effeithio ar sut mae’n crisialu. Roedd yr ymchwilwyr wedi rhoi defnynnau o ddŵr heli ar wydr wedi’i wresogi a oedd wedi’i drin â thricloro-octylsilan, sy’n llyfn ar lefel ficrosgopig. Wrth i’r dŵr anweddu, mae crisialau’n ffurfio ar y rhyngwyneb dŵr–aer, gan eistedd ar eu corneli i leihau’r cyswllt â’r arwyneb. Wrth i’r anweddiad fynd rhagddo, mae nifer o goesau crisialog bach yn tyfu ar waelod y strwythur, sy’n codi’r crisial cyfan oddi ar yr arwyneb. Ar dymheredd uwch, mae rhagor o goesau’n tyfu – ac yn gyflymach.

Gallai’r ymddygiad hunan-godi hwn olygu goblygiadau o ran dylunio deunyddiau adeiladu sy’n gallu osgoi difrod gan dwf crisialau halwyn.

Darllenwch y stori lawn yn Chemistry World.

Rhowch hyn mewn cyd-destun

Ychwanegwch gyd-destun a thynnu sylw at yrfaoedd amrywiol gyda’n fideos gyrfa byr sy’n dangos sut mae cemeg yn gwneud gwahaniaeth. Hefyd, gadewch i’ch dysgwyr gael eu hysbrydoli gan gemegwyr fel Margo, rheolwr arloesedd ymchwil.

Downloads