Meddwl am hydoddiant sodiwm hydrocsid (NaOH) ar lefel facrosgopig, is-ficrosgopig a symbolaidd
Defnyddiwch yr adnodd hwn i edrych ar y gwahanol ffyrdd o gynrychioli a disgrifio hydoddiant sodiwm hydrocsid. Bydd y dysgwyr yn ystyried sut gellir cynrychioli’r hydoddiant gan ddefnyddio diagramau o ronynnau yn ogystal â chynrychioliad symbolaidd o unedau crynodiad.
-
Lawrlwythwch
Defnyddiwch y daflen waith hon i fyfyrwyr i gyflwyno crynodiad hydoddiannau ar dair lefel gysyniadol wahanol yn seiliedig ar arsylwadau’r dysgwyr.
Gweld a lawrlwytho rhagor o Adnoddau triongl Johnstone
Amcanion dysgu
- Disgrifio sut mae adnabod a yw bicer yn cynnwys sodiwm hydrocsid neu ddŵr.
- Adnabod y symbolau unedol a ddefnyddir ar gyfer crynodiad.
- Dehongli diagramau o ronynnau hydoddiannau o ran sut maent yn cynrychioli crynodiad.
Sut mae defnyddio triongl Johnstone
Defnyddiwch driongl Johnstone i ddatblygu ffordd y dysgwyr o feddwl am gysyniadau gwyddonol ar dair lefel gysyniadol wahanol:
- Macrosgopig: beth allwn ni ei weld. Meddyliwch am y priodweddau y gallwn eu harsylwi, eu mesur a’u cofnodi.
- Is-ficrosgopig: llai nag y gallwn ei weld. Meddyliwch am y lefel ronynnol neu atomig.
- Symbolaidd: cynrychioliadau. Meddyliwch sut rydym yn cynrychioli syniadau cemegol gan gynnwys symbolau a diagramau.
Er mwyn i’r dysgwyr wella eu hymwybyddiaeth o bwnc, mae angen iddynt ei ddeall ar y tair lefel.
Wrth gyflwyno pwnc, peidiwch â cheisio cyflwyno’r holl lefelau o feddwl ar unwaith. Bydd hyn yn gorlwytho’r cof gweithredol. Yn hytrach, cwblhewch y triongl dros gyfres o wersi, gan ddechrau gyda’r lefel facrosgopig ac wedyn cyflwyno lefelau eraill, yn eu tro, ar ôl sicrhau bod pethau’n iawn.
Mae’r holl lefelau’n gysylltiedig â’i gilydd. Er enghraifft, mae angen i’r dysgwyr gael cynrychioliad gweledol o’r is-ficrosgopig er mwyn datblygu modelau meddyliol o’r lefel ronynnol neu’r lefel atomig.
Darllen pellach
Darllenwch fwy am sut mae defnyddio triongl Johnstone yn eich gwaith addysgu gyda’r erthyglau hyn:
- Develop deeper understanding with models
- Improve students’ understanding with Johnstone’s triangle
- Practical ideas for using Johnstone’s triangle
Mae llyfr Norman Reid The Johnstone Triangle: the key to understanding chemistry yn rhoi trosolwg manylach, ac mae’r bennod gyntaf ar gael i’w darllen ar-lein.
Sgaffaldio
Mae’n bwysig rhannu fframwaith y triongl â’r dysgwyr cyn ei ddefnyddio. Dywedwch wrthynt pam eich bod eisiau iddynt ddefnyddio’r triongl a sut bydd yn eu helpu i ddatblygu eu dealltwriaeth. Defnyddiwch ddull ‘rydw i’n rhoi cynnig arni, rydych chi’n rhoi cynnig arni’ wrth gyflwyno triongl Johnstone am y tro cyntaf.
Y camau nesaf
Er mwyn datblygu rhagor ar ffordd y dysgwyr o feddwl ym mhob rhan o driongl Johnstone, rhowch gynnig ar ein taflen waith Datblygu dealltwriaeth o grynodiad a màs. Mae’r taflenni gwaith hyn yn cynnwys eiconau ar yr ymylon sy’n cyfeirio at y lefel gysyniadol o feddwl sydd ei hangen i ateb y cwestiwn.
Downloads
Crynodiad sodiwm hydrocsid triongl Johnstone: nodiadau i athrawon
Handout | PDF, Size 0.24 mbCrynodiad sodiwm hydrocsid triongl Johnstone: taflen myfyriwr
Handout | PDF, Size 0.23 mbCrynodiad sodiwm hydrocsid triongl Johnstone: nodiadau i athrawon
Editable handout | Word, Size 0.54 mbCrynodiad sodiwm hydrocsid triongl Johnstone: taflen myfyriwr
Editable handout | Word, Size 0.56 mb









No comments yet