Defnyddio triongl Johnstone i feddwl am hafaliadau cemegol cytbwys yng nghyd-destun balŵn nwy hydrogen yn ffrwydro
Gyda’r adnodd hwn, mae dysgwyr yn adnabod fformiwlâu a symbolau cemegol mewn hafaliadau ac yn disgrifio’r hyn sy’n cael ei ddangos mewn hafaliad cemegol cytbwys.
-
Lawrlwythwch
Defnyddiwch y daflen waith hon i fyfyrwyr i gyflwyno’r cysyniad o gydbwyso hafaliadau cemegol sy’n defnyddio hydrogen ac ocsigen, gan gysylltu dealltwriaeth y dysgwyr ar dair lefel gysyniadol wahanol.
Gweld a lawrlwytho rhagor o Adnoddau triongl Johnstone
Amcanion dysgu
- Adnabod y fformiwlâu cemegol sy’n cael eu defnyddio yn yr hafaliad.
- Dehongli’r symbolau cyflwr sy’n cael eu defnyddio yn yr hafaliad.
- Disgrifio beth mae’r hafaliad cemegol cytbwys yn ei ddangos.
Sut mae defnyddio triongl Johnstone
Defnyddiwch driongl Johnstone i ddatblygu ffordd y dysgwyr o feddwl am grynodiad hydoddiannau ar dair lefel gysyniadol wahanol:
- Macrosgopig: beth allwn ni ei weld. Meddyliwch am y priodweddau y gallwn eu harsylwi, eu mesur a’u cofnodi.
- Is-ficrosgopig: llai nag y gallwn ei weld. Meddyliwch am y lefel ronynnol neu atomig.
- Symbolaidd: cynrychioliadau. Meddyliwch sut rydym yn cynrychioli syniadau cemegol gan gynnwys symbolau a diagramau.
Er mwyn i’r dysgwyr wella eu hymwybyddiaeth o bwnc, mae angen iddynt ei ddeall ar y tair lefel.
Wrth gyflwyno pwnc, peidiwch â cheisio cyflwyno’r holl lefelau o feddwl ar unwaith. Bydd hyn yn gorlwytho’r cof gweithredol. Yn hytrach, cwblhewch y triongl dros gyfres o wersi, gan ddechrau gyda’r lefel facrosgopig ac wedyn cyflwyno lefelau eraill, yn eu tro, ar ôl sicrhau bod pethau’n iawn.
Mae’r holl lefelau’n gysylltiedig â’i gilydd. Er enghraifft, mae angen i’r dysgwyr gael cynrychioliad gweledol o’r is-ficrosgopig er mwyn datblygu modelau meddyliol o’r lefel ronynnol neu’r lefel atomig.
Sgaffaldio
Mae’n bwysig rhannu fframwaith y triongl â’r dysgwyr cyn ei ddefnyddio. Dywedwch wrthynt pam eich bod eisiau iddynt ddefnyddio’r triongl a sut bydd yn eu helpu i ddatblygu eu dealltwriaeth. Defnyddiwch ddull ‘rydw i’n rhoi cynnig arni, rydych chi’n rhoi cynnig arni’ wrth gyflwyno triongl Johnstone am y tro cyntaf.
Rhagor o adnoddau
Er mwyn datblygu rhagor ar ffordd y dysgwyr o feddwl ym mhob rhan o driongl Johnstone, rhowch gynnig ar ein taflen waith Datblygu dealltwriaeth o ddehongli hafaliadau. Nod yr adnodd hwn yw datblygu dealltwriaeth y dysgwyr o sut mae hafaliadau cemegol cytbwys yn darparu gwybodaeth, fel cyflwr adweithyddion a chynhyrchion, ac ym mha gymhareb y mae atomau a moleciwlau’n adweithio neu’n cael eu ffurfio. Mae’r daflen waith yn cynnwys eiconau ar yr ymylon sy’n cyfeirio at y lefel gysyniadol o feddwl sydd ei hangen i ateb y cwestiwn.
Downloads
Hydrogen ac ocsigen Triongl Johnstone: taflen myfyriwr
Editable handout | Word, Size 0.64 mbHydrogen ac ocsigen Triongl Johnstone: taflen myfyriwr
Handout | PDF, Size 0.28 mbHydrogen ac ocsigen Triongl Johnstone: nodiadau i athrawon
Editable handout | Word, Size 0.57 mbHydrogen ac ocsigen Triongl Johnstone: nodiadau i athrawon
Handout | PDF, Size 0.28 mb









No comments yet