Cefnogi eich dysgwyr i ddyfnhau eu dealltwriaeth o ddehongli hafaliadau cemegol
Cyfres o adnoddau yw Datblygu dealltwriaeth, sy’n annog y dysgwyr i gysylltu eu ffordd o feddwl ar y lefelau macrosgopig, is-ficrosgopig a symbolaidd.
-
Lawrlwythwch
Taflen waith raddol i helpu’r dysgwyr i ddatblygu eu modelau meddyliol o’r hyn mae hafaliadau cemegol cytbwys yn ei gynrychioli. Gydag eiconau i ddangos lefelau cysyniadol pob cwestiwn.
Gweld a lawrlwytho rhagor o daflenni gwaith Datblygu dealltwriaeth
Amcanion dysgu
- Cysylltu fformiwla a symbol cyflwr adweithyddion a chynhyrchion ag arsylwadau o adwaith cemegol.
- Disgrifio beth mae hafaliad cemegol cytbwys yn ei gynrychioli o ran atomau a moleciwlau unigol.
- Disgrifio beth mae hafaliad cemegol cytbwys yn ei gynrychioli o ran nifer mawr o atomau a moleciwlau.
- Cydnabod bod modd defnyddio hafaliad cemegol i gyfrifo màs y cynnyrch y gellid ei gynhyrchu o’r màs penodol o adweithydd.
Sut mae defnyddio’r adnodd hwn
Nod yr adnodd hwn yw datblygu dealltwriaeth y dysgwyr o sut mae hafaliadau cemegol cytbwys yn darparu gwybodaeth, fel cyflwr adweithyddion a chynhyrchion, ac ym mha gymhareb y mae atomau a moleciwlau’n adweithio neu’n cael eu ffurfio. Mae’r cwestiynau hefyd yn annog y dysgwyr i feddwl sut gellir defnyddio hafaliad cemegol cytbwys i bennu màs sylweddau sy’n adweithio a’r rhai sy’n cael eu ffurfio. O ganlyniad, dylai’r dysgwyr ddatblygu modelau meddyliol mwy cadarn i gefnogi eu ffyrdd o feddwl am y pwnc hwn.
- Pryd i’w defnyddio? Defnyddiwch y daflen waith ar ôl yr addysgu cychwynnol neu’r drafodaeth gychwynnol ar y pwnc hwn i ddatblygu syniadau ymhellach. Gallwch hefyd ei defnyddio fel gweithgaredd adolygu.
- Maint y grŵp? Mae’n addas ar gyfer gwaith annibynnol yn y dosbarth neu gartref. Neu defnyddiwch y cwestiynau ar gyfer trafodaethau grŵp neu ddosbarth.
- Pa mor hir? 15–30 munud
Triongl Johnstone
Model o dair lefel gysyniadol wahanol mewn cemeg yw triongl Johnstone: macrosgopig, is-ficrosgopig a symbolaidd. Gallwch ddefnyddio triongl Johnstone i feithrin dealltwriaeth gadarn o syniadau cemegol ymhlith eich dysgwyr.
Cyflwynwch driongl Johnstone i’r dysgwyr gyda’n Taflen waith cydbwyso hafaliadau cemegol sy’n defnyddio hydrogen ac ocsigen: triongl Johnstone sy’n arwain y dysgwyr i ystyried beth sy’n digwydd ar lefel is-ficrosgopig a sut mae cynrychioli’r adwaith yn symbolaidd pan fydd balŵn hydrogen yn ffrwydro ar ôl cael ei danio gan sblint sy’n llosgi.
Darllen pellach
Darllenwch fwy am sut mae defnyddio triongl Johnstone yn eich gwaith addysgu gyda’r erthyglau hyn:
- Develop deeper understanding with models
- Improve students’ understanding with Johnstone’s triangle
- Practical ideas for using Johnstone’s triangle
Mae llyfr Norman Reid The Johnstone Triangle: the key to understanding chemistry yn rhoi trosolwg manylach, ac mae’r bennod gyntaf ar gael i’w darllen ar-lein.
Cefnogaeth
Mae’r daflen waith hon yn un raddol, felly mae’r cwestiynau cynharach yn fwy hygyrch. Mae’r gweithgaredd yn dod yn fwy heriol wrth i’r cwestiynau fynd yn eu blaenau. Gallwch roi esboniadau ychwanegol ar gyfer y cwestiynau mwy heriol. Os gwneir y gweithgaredd yn y dosbarth, mae’n well oedi o bryd i’w gilydd a gwneud yn siŵr bod pawb yn deall, oherwydd mae un cwestiwn yn aml yn adeiladu ar yr un blaenorol.
Mae’n ddefnyddiol i’r dysgwyr arsylwi priodweddau macrosgopig drostynt eu hunain. Gallech gynnal sesiwn ymarferol ar adweithiau cemegol perthnasol yn y dosbarth neu gynnal arddangosiad gan athro. Mae’n bwysig bod y dysgwyr yn gallu arsylwi manylion yr adweithiau felly gallai delweddwr neu gamera fod yn ddefnyddiol. Gwnewch yn siŵr eich bod yn darllen y cyfarwyddiadau llawn a’r canllawiau iechyd a diogelwch cyn cynnal sesiwn ymarferol neu arddangosiad.
Rhowch fodelau ffisegol i’r dysgwyr eu defnyddio a’u trin, fel cit Molymod neu gownteri.
Efallai y bydd angen cymorth ychwanegol ar y dysgwyr sy’n dal yn ddihyder yn defnyddio’r gynrychiolaeth symbolaidd ofynnol, er enghraifft, rhannu ac egluro diagram neu efelychiad sy’n gallu dangos ymsymudiad y gronynnau.
Atebion a chanllawiau
Mae pum cwestiwn aml-ran yn y daflen waith i fyfyrwyr. Mae’r atebion yn y canllawiau i athrawon.
Mae cwestiwn un yn datblygu dealltwriaeth y dysgwyr o symbolau cyflwr (dealltwriaeth symbolaidd) a sut gellir arsylwi neu beidio ag arsylwi cynnyrch adwaith cemegol sydd yn y cyflwr nwy (dealltwriaeth facrosgopig).
Mae cwestiwn dau yn datblygu dealltwriaeth y dysgwyr o’r hyn mae hafaliad cemegol (dealltwriaeth symbolaidd) yn ei ddangos o ran faint o atomau neu foleciwlau unigol sy’n adweithio ag un atom neu foleciwl o adweithydd (dealltwriaeth is-ficrosgopig) neu sy’n cael eu cynhyrchu ohono. Mae’r cwestiwn hwn yn canolbwyntio’n fwriadol ar atomau a moleciwlau unigol (dull sy’n cael ei ddefnyddio’n aml wrth gydbwyso hafaliadau) cyn ystyried cymhareb nifer mawr o atomau a moleciwlau yn y cwestiwn nesaf. Sylwch fod enghreifftiau lle mae adweithyddion neu gynhyrchion yn gyfansoddion ïonig yn cael sylw yn yr adnodd datblygu dealltwriaeth Dehongli hafaliadau cemegol: cyfansoddion ïonig.
Mae cwestiwn tri yn datblygu dealltwriaeth y dysgwyr o sut mae hafaliad cemegol cytbwys (dealltwriaeth symbolaidd) yn dangos cymhareb yr atomau a’r moleciwlau sy’n adweithio ac sy’n cael eu cynhyrchu (dealltwriaeth is-ficrosgopig). Nid yw’r cwestiwn yn cyfeirio’n benodol at y term cymhareb (er y gellid ei ddefnyddio os yw’r myfyrwyr yn gyfarwydd â’r cysyniad). Yn hytrach, defnyddir strwythur brawddeg i gyfleu’r cysyniad e.e. mae pob atom carbon yn adweithio ag un moleciwl ocsigen.
Mae cwestiwn pedwar yn datblygu rhagor ar ddealltwriaeth y dysgwyr o sut mae hafaliad cemegol cytbwys (dealltwriaeth symbolaidd) yn dangos y gymhareb lle mae atomau a moleciwlau yn adweithio ac yn cael eu cynhyrchu. Mae’r cysyniad o gymhareb yn cael ei fodelu drwy ddefnyddio tabl sy’n dangos cymhareb y niferoedd gwirioneddol, o nifer bach iawn i 1 biliwn. Nod hyn yw paratoi’r ffordd ar gyfer y cysyniad o gymarebau adweithio o ran molau.
Mae cwestiwn pump yn datblygu dealltwriaeth y dysgwyr o sut mae hafaliad cemegol cytbwys (dealltwriaeth symbolaidd) yn dangos cymhareb nifer y molau o atomau a moleciwlau sy’n adweithio ac sy’n cael eu cynhyrchu (dealltwriaeth is-ficrosgopig). Bydd y dysgwyr wedyn yn cael eu cefnogi i gysylltu hyn â màs sylwedd sy’n adweithio neu’n cael ei gynhyrchu (dealltwriaeth facrosgopig). Sylwch fod modd hepgor y cwestiwn hwn os nad oes yn rhaid i’r dysgwyr ddysgu am folau.
Downloads
Dehongli hafaliadau cemegol: taflen myfyriwr
Handout | PDF, Size 0.39 mbDehongli hafaliadau cemegol: nodiadau i athrawon
Handout | PDF, Size 0.29 mbDehongli hafaliadau cemegol: taflen myfyriwr
Editable handout | Word, Size 0.6 mbDehongli hafaliadau cemegol: nodiadau i athrawon
Editable handout | Word, Size 0.49 mb













No comments yet