Mae siopau coffi yn cynnig enghreifftiau gwych o fyd gwyddoniaeth go iawn i’r dysgwyr gymhwyso eu gwybodaeth

Mae dros 1000 o gyfansoddion cemegol gwahanol mewn coffi. Mae rhai o’r rhain yn gyfrifol am flas ac arogl coffi.

  • Screenshot images of teacher notes and student sheet

    Lawrlwythwch

    Taflen waith ar lefel sylfaen a lefel uwch i roi’r hyn a ddysgir am ddiagramau gronynnau mewn cyd-destun. Mae’r atebion wedi eu cynnwys yn y nodiadau i athrawon.

Gwybodaeth am yr adnodd hwn

Mae’r taflenni gwaith Mewn cyd-destun hyn yn gofyn i’r dysgwyr ddefnyddio eu gwybodaeth am ddiagramau gronynnau yng nghyd-destun siop goffi, gan feithrin eu hyder a’u gallu i wynebu cwestiynau arholiad. Mae cymysgedd o gwestiynau amlddewis, ateb byr ac ateb hir yn ymdrin â’r canlynol:

  • ymsymudiad gronynnau mewn gwahanol gyflyrau
  • cyfaint, siâp a threfniant gronynnau mewn gwahanol gyflyrau
  • cyfyngiadau’r model gronynnau (uwch yn unig)

Mae cwestiynau cyfrifo wedi’u cynnwys i roi cyfleoedd i ymarfer sgiliau mathemategol o fewn y pwnc hwn. Mae’r taflenni gwaith ar gael ar lefel sylfaen a lefel uwch ac fel fersiynau y gellir eu golygu’n llawn, gan roi’r hyblygrwydd i chi ddewis y cwestiynau sydd fwyaf perthnasol i wers benodol neu grŵp o ddysgwyr.

Downloads