Gallai alwminiwm ocsid amorffaidd fod yn allweddol sicrhau dyfodol cadarn i wydr
Lawrlwythwch
Sleid grynhoi am wydr hyblyg ar ffurf MS Powerpoint neu pdf.

Mae math newydd o wydr wedi cael ei greu sy’n gallu cael ei ymestyn a’i blygu heb iddo dorri ar dymheredd ystafell. Mae’n ymddangos nad yw ffilmiau tenau o alwminiwm ocsid amorffaidd yn frau fel gwydr arferol, ac efallai y byddant yn cael eu defnyddio mewn dyfeisiau electronig hyblyg a chryf iawn ryw ddydd.
Aeth gwyddonwyr ati i ddefnyddio laserau i gynhyrchu adeiledd gwydr lle mae’r atomau wedi’u pacio’n ddwys heb ddiffygion, gan alluogi’r atomau i gyfnewid lle â’i gilydd.
Defnyddiwch y sleid gychwynnol gyda’ch dosbarth i drafod adeileddau cofalent enfawr ac adeileddau metelig, a sut mae’r rhain yn berthnasol i’w priodweddau ffisegol.
Darllenwch y stori lawn yn Chemistry World.
Rhowch hyn mewn cyd-destun
Ychwanegwch gyd-destun a thynnwch sylw at yrfaoedd amrywiol gyda’n fideos gyrfa byr sy’n dangos sut mae cemeg yn gwneud gwahaniaeth. Hefyd, gadewch i’ch dysgwyr gael eu hysbrydoli gan fenywod sy’n helpu i drwsio’r dyfodol, fel Florence, prif swyddog technoleg a chyd-sylfaenydd cwmni datrysiadau cynaliadwy.
Downloads
Dyfodol hyblyg i sgriniau ffonau clyfar: sleidiau dosbarth
Presentation | PDF, Size 0.17 mbDyfodol hyblyg i sgriniau ffonau clyfar: sleidiau dosbarth
Presentation | PowerPoint, Size 4.34 mb




No comments yet