101 o bosau cemeg tebyg i sudoku gyda thaflenni gwaith ac atebion y gallwch eu hargraffu, i ennyn diddordeb eich myfyrwyr a chyfnerthu eu gwybodaeth am bynciau allweddol

Mae gemau grid yn ffordd hwyliog ac ysgogol i fyfyrwyr ddysgu’r ffeithiau sydd eu hangen arnynt mewn cemeg. Darganfyddwch 101 o bosau y gallwch eu hargraffu, gyda thaflenni atebon, sy’n ymdrin â’r pynciau craidd ar gyfer grwpiau oedran 11–14, 14–16 ac 16+.

Lawrlwythwch y posau ar gyfer pob grŵp oedran isod, neu daliwch ati i ddarllen i gael gwybod:

  • Sut mae posau gemau grid yn gweithio
  • Sut gallwch ddefnyddio’r posau wrth addysgu
  • Beth gall eich myfyrwyr ei ddysgu

Lawrlwytho’r posau

Dolenni i bori, argraffu a lawrlwytho’r posau ar gyfer grŵp oedran eich myfyrwyr:

11–14 years | 14 –16 years | 16–18 years

Mae pob pecyn i’w lawrlwytho yn cynnwys cyfres o bosau sy’n canolbwyntio ar bwnc penodol, gyda thaflen waith i fyfyrwyr ac atebion i’w hargraffu.

Sut mae posau gemau grid yn gweithio?

  1. Bydd y myfyrwyr yn dechrau drwy lenwi tabl i adolygu’r syniadau allweddol mae arnynt eu hangen i gwblhau’r posau. Mae’r tabl yn cynnwys gwybodaeth am grŵp o wrthrychau, cysyniadau neu bethau sy’n gysylltiedig â’r pwnc dan sylw. I gwblhau’r tabl, bydd y myfyrwyr yn adnabod eitemau yn y grŵp hwn neu’n eu paru â gwybodaeth bellach, data neu enghreifftiau.
  2. Ar ôl llenwi’r tabl, bydd y myfyrwyr yn defnyddio’r wybodaeth hon i gwblhau’r posau gemau grid yn y daflen waith.

Cwblhau’r posau

  • Mae pob pos yn cynnwys grid 4 x 4 wedi’i rannu’n rhesi, colofnau a phedwar blwch 2 x 2.
  • Y nod yw llenwi’r grid gan ddefnyddio gwybodaeth o’r tabl ar frig y daflen waith, fel bod pob rhes, colofn a blwch 2 x 2 yn cynnwys dim ond un cyfeiriad at unrhyw eitem unigol (neu res) o’r tabl.
  • Mae pob blwch 2 x 2 wedi’i labelu â phenawdau o’r tabl. Mae’r penawdau hyn yn dweud wrth y myfyrwyr pa fath o wybodaeth y dylid ei defnyddio yn y blwch hwnnw.
  • Mae pob pos yn cynnwys cyfarwyddiadau sy’n dweud wrth y myfyrwyr a ddylent ddefnyddio’r tabl gwybodaeth cyfan, neu ran ohono’n unig.

Sut gallaf ddefnyddio’r posau yma wrth addysgu? 

Gallwch ddefnyddio’r posau gemau grid yn ystod gwersi neu eu gosod fel gwaith cartref. Maent wedi cael eu cynllunio i fod yn weithgareddau dilynol i gyfnerthu gwybodaeth y myfyrwyr, yn hytrach na’u cyflwyno i bwnc. Yn ddelfrydol, dylai’r myfyrwyr eisoes fod wedi gweld rhywfaint, o leiaf, o’r data mae’r posau gemau grid yn seiliedig arno.

Mae’r taflenni gwaith yn hawdd i’w gosod a gall cyd-fyfyrwyr neu’r myfyrwyr eu hunain eu hasesu’n ddidrafferth. Yn ystod gwersi, gellir defnyddio’r posau’n hyblyg fel rhan o weithgaredd unigol, grŵp neu ddosbarth. Gallwch hefyd ychwanegu elfen ychwanegol o gystadleuaeth neu her. Er enghraifft, gosodwch amser targed a gofynnwch i’r myfyrwyr geisio curo’r cloc, neu anogwch grwpiau o fyfyrwyr i weld pwy all ddatrys y nifer mwyaf o bosau.

Beth fydd fy myfyrwyr yn ei ddysgu?

Gwybodaeth am bynciau

Mae pob pos yn canolbwyntio ar bwnc sy’n addas i fyfyrwyr 11–14, 14–16 neu 16–18 oed. I ddatrys y pos, rhaid i’r myfyrwyr ymgysylltu â’r wybodaeth ffeithiol sy’n sail i’r gêm grid, gan gofio’r berthynas rhwng syniadau a data a sefydlwyd yn rhan gyntaf y gweithgaredd. Er enghraifft, mae angen iddynt gofio bod tri phâr o electronau yn cyfateb i geometreg blanar drigonol, neu bod asid sylffwrig yn ffurfio halwynau sylffad.

Wrth iddynt weithio ar y posau, bydd y myfyrwyr yn cyfeirio at y data cychwynnol dro ar ôl tro, gan fynd ati’n raddol i gyfnerthu eu gwybodaeth am y ffeithiau perthnasol.

Sgiliau datrys problemau a meddwl

Mae posau gemau grid yn rhoi cyd-destun datrys problemau i’r myfyrwyr ar gyfer eu dysgu, gan annog ymgysylltiad a rhoi ymdeimlad o foddhad i’r myfyrwyr wrth iddynt gwblhau’r grid. Mae’r posau hefyd yn datblygu sgiliau meddwl pwysig, gan fod yn rhaid i’r myfyrwyr feddwl yn rhesymegol i arolygu’r data yn y gêm grid a phenderfynu pa sgwariau y gellir eu llenwi.