Sut byddai modd cadw celloedd solar yn rhydd o lwch silica heb fod angen dŵr, na thîm i’w dwstio
Gallai techneg newydd ar gyfer gwaredu baw oddi ar arwyneb celloedd solar yn electrostatig olygu nad oes angen eu golchi’n rheolaidd. Gallai hyn arbed biliynau o litrau o ddŵr bob blwyddyn yn rhai o’r ardaloedd sychaf ar y Ddaear.
Mae’n debyg mai ynni solar yw’r dechnoleg adnewyddadwy fwyaf deniadol gan fod modd ei hehangu ar raddfa fawr, ac oherwydd bod modd ei defnyddio’n rhwydd mewn ardaloedd sydd â phoblogaeth wasgaredig. Fodd bynnag, mae’r ardaloedd hyn yn aml yn llychlyd, a gall hyn guddio arwyneb celloedd solar yn gyflym. Gellir gwaredu’r llwch drwy olchi arwyneb y celloedd yn rheolaidd, ond mae eu golchi yn cyfrif am hyd at 10% o gostau cynnal a chadw fferm solar nodweddiadol.
Mae rhai ffermydd solar yn eu glanhau drwy sgrwbio sych. Ond mae hyn yn llai effeithiol, ac mae sgraffinio’n lleihau tryloywder y celloedd solar yn raddol, ac felly eu heffeithlonrwydd.
Mewn datrysiad newydd, mae gwyddonwyr wedi ceisio codi’r gronynnau’n electrostatig, drwy orchuddio’r gell solar ag electrod tryloyw gan achosi i’r gronynnau gael eu gwefru gan botensial cymhwysol. Mae hyn yn annisgwyl oherwydd mai silica (silicon deuocsid) sydd yn y llwch mewn diffeithdir yn bennaf – ynysydd na ddylai gael ei wefru drwy ddod i gysylltiad ag electrod.
Fodd bynnag, dangosodd yr ymchwilwyr – lle bo lefelau lleithder dros 30%, sy’n wir hyd yn oed yn y nos yn y rhan fwyaf o ddiffeithdiroedd – fod y gronynnau’n ymddwyn fel gronynnau dur mewn profion, yn hytrach na gronynnau sy’n ynysu. Daeth yr ymchwilwyr i’r casgliad, ar ôl profion pellach, fod silica – am ei fod yn hynod hydroffilig – yn cael ei amgylchynu gan blisgyn o foleciwlau dŵr dargludol.
Rhowch hyn mewn cyd-destun
Ychwanegwch gyd-destun a thynnu sylw at yrfaoedd amrywiol gyda’n fideos gyrfa byr sy’n dangos sut mae cemeg yn gwneud gwahaniaeth. Hefyd, gadewch i’ch dysgwyr gael eu hysbrydoli gan gemegwyr fel Ryley, peiriannydd technoleg solar.
Darllenwch y stori lawn yn Chemistry World.
A one-slide summary of this article with questions to use with your 14–16 students: rsc.li/36xsv4q
Downloads
Cadw celloedd solar i ddisgleirio: sleidiau dosbarth
Presentation | PDF, Size 0.18 mbCadw celloedd solar i ddisgleirio: sleidiau dosbarth
Presentation | PowerPoint, Size 0.13 mb









No comments yet