Astudiaeth yn ceisio deall y cynhwysion ar gyfer ryseitiau meteleg a gyhoeddwyd yn Kaogong ji, gwyddoniadur technegol Tsieineaidd a ysgrifennwyd tua 300CC

  • Tudalennau enghreifftiol sy'n ffurfio'r adnodd hwn

    Lawrlwythwch

    Defnyddiwch y stori hon a’r sleid grynhoi ategol i roi cyd-destun newydd wrth addysgu aloion i’ch dysgwyr 14–16 oed.

    Lawrlwythwch y stori ar ffurf MS Word neu PDF a’r sleid grynhoi ar ffurf MS PowerPoint neu PDF

Cafodd efydd ei wneud am y tro cyntaf yn Tsieina tua 1700CC, a daeth y metel hwn yn ddeunydd pwysig yn Ymerodraeth Tsieina. Roedd yn cael ei ddefnyddio i greu arfau, eitemau tŷ, a llestri defodau. Mae astudiaeth newydd yn herio rhagdybiaethau blaenorol ynghylch sut roedd y gwneuthurwyr efydd cynnar hyn yn mynd ati.

Mae efydd yn aloi metel sy’n cynnwys copr a thun, a’r ddamcaniaeth hirsefydlog yw bod y Tsieineaid gynt yn mwyngloddio dyddodion naturiol ac yna’n eu gwresogi i dymheredd digon uchel nes eu bod yn cymysgu ac yn ffurfio efydd. Fodd bynnag, mae ymchwil newydd gan Ruiliang Liu, curadur yn yr Amgueddfa Brydeinig, a Mark Pollard, archaeolegydd ym Mhrifysgol Rhydychen, yn awgrymu bod cam ychwanegol yn y broses gynnar o gynhyrchu efydd yn Tsieina.

Dadorchuddio’r gorffennol

An ancient Chinese bronze teapot

Source: © Xiaolei Wu/Alamy Stock Photo

Mae llawer o’r hyn sy’n hysbys am y gwaith cynhyrchu efydd cynnar yn Tsieina yn dod o wyddoniadur technegol hynafol o’r enw Kaogong ji. Ysgrifennwyd y testun hwn yng ngorllewin Tsieina tua 2,500 o flynyddoedd yn ôl, o bosibl ar gyfer swyddogion a oedd yn goruchwylio crefftwyr. Mae Kaogong ji yn cynnwys chwe rysáit efydd, pob un â dau gynhwysyn: Jin a Xi. Mae’r ryseitiau’n rhoi cyfrannau gwahanol i’r ddau gynhwysyn hyn ar gyfer gwahanol gynnyrch – gan gynnwys powlen, cleddyf neu ddrych. Dyma’r fformiwlâu cemegol hynaf sydd wedi cael eu hysgrifennu yn Tsieina, hyd y gwyddwn ni.

Tybiwyd ers tro mai copr a thun pur yw Jin a Xi, ond os yw hynny’n wir, yna dylai’r gwrthrychau efydd o’r cyfnod hwn gynnwys cyfran uwch o dun nag y maent. Ar ben hynny, mae efydd Tsieineaidd hynafol yn cynnwys tua 10% o blwm, sy’n gyfran lawer uwch na’r disgwyl o halogiad yn unig. I geisio deall yr anghysondebau hyn, astudiodd Ruiliang a Mark gyfansoddiad cemegol nifer o ddarnau arian efydd Tsieineaidd hynafol sy’n cael eu cadw yn yr Amgueddfa Brydeinig.

Arweiniodd canfyddiadau’r ddau at y casgliad nad oedd efydd Tsieineaidd hynafol wedi’i wneud drwy gymysgu copr a thun yn unig. Yn hytrach, maent yn awgrymu y gallai Jin fod wedi bod yn aloi copr, tun a phlwm, ac y gallai Xi fod wedi bod yn aloi plwm a chopr. Mae’r canfyddiadau hyn, a gyhoeddwyd yn y cyfnodolyn Antiquity, yn awgrymu bod y gwaith o wneud yr aloion rhyngol hyn yn gam cudd yn nyddiau cynnar meteleg yn Tsieina.

Rhowch hyn mewn cyd-destun

Dysgwch fwy drwy ddarllen am rôl Lucia, gwyddonydd mewn amgueddfa sy’n defnyddio cemeg i helpu i ddyddio a dilysu gwrthrychau hynafol.

Mae’r erthygl hon yn addasiad o waith Tom Metcalfe yn Chemistry World.

Ysgrifennwyd gan Tom Metcalfe, addaswyd gan Nina Notman. Sleid grynhoi gan Neil Goalby.

Lawrlwythwch

Lawrlwythwch yr erthygl hon a chrynodeb un sleid gyda chwestiynau i’w defnyddio gyda’ch myfyrwyr 14–16 oed wrth addysgu aloion: rsc.li/3UMyExV

Topics