Mae cynaeafu dŵr yn uniongyrchol o’r aer yn cynnig dull posibl a allai fynd i’r afael â phrinder dŵr a achosir gan newid hinsawdd

  • Tudalennau enghreifftiol sy'n ffurfio'r adnodd hwn

    Lawrlwythwch

    Defnyddiwch y stori hon a’r sleid grynhoi sy’n cyd-fynd â hi i gael cyd-destun byd go iawn wrth astudio cyflyrau mater neu ddŵr gyda’ch dysgwyr 14–16 oed.

    Lawrlwythwch y stori ar ffurf MS Word neu PDF a’r sleid grynhoi ar ffurf MS PowerPoint neu PDF.

Mae gwyddonwyr wedi arsylwi dŵr yn cyddwyso’n ddigymell ac yn symud ar draws arwyneb crisial organig sy’n sychdarthu’n araf. Gallai’r canfyddiad hwn baratoi’r ffordd ar gyfer dull newydd o gasglu dŵr yfed o’r aer mewn rhanbarthau cras.

Ar hyn o bryd, mae bron i ddwy ran o dair o boblogaeth y byd yn byw mewn rhanbarthau lle mae prinder dŵr croyw difrifol am o leiaf un mis bob blwyddyn. Bydd newid hinsawdd yn golygu bod sychder yn effeithio ar hyd yn oed mwy o bobl yn y dyfodol. Mae mwy a mwy o chwilio am atebion technegol i gyflenwi dŵr i’r rhai mewn angen.

Sibrydion am sychdarthu

Figure

Ffynhonnell: Drwy garedigrwydd NYUAD

Mae defnynnau dŵr yn cyddwyso ar arwyneb y crisial (brown). Mae’r defnynnau yn cario gronynnau llwch drwy sianeli sy’n lledu wrth i’r deunydd crisial sychdarthu.  

Mae ymchwilwyr yn arbennig o awyddus i ddatblygu offer er mwyn gallu manteisio ar gyflenwadau dŵr yn yr aer. Mae hwn yn adnodd helaeth, gyda sawl gwaith yn fwy o ddŵr yn bodoli fel anwedd yn yr atmosffer na dŵr hylifol yn ein hafonydd ar unrhyw adeg benodol. Mae ymchwilwyr ym Mhrifysgol Efrog Newydd Abu Dhabi yn yr Emiradau Arabaidd Unedig yn gobeithio y bydd eu harsylwadau’n arwain at ffordd newydd o gynaeafu anwedd dŵr.

Fe wnaeth y gwyddonwyr eu canfyddiadau wrth astudio arwyneb crisialau hecsaclorobensen, sy’n ffwngleiddiad sydd wedi ei wahardd ledled y byd. Fe wnaethant sylwi bod defnynnau dŵr yn cyddwyso ar arwyneb y crisialau. Fe wnaethant sylwi hefyd bod y defnynnau dŵr yn sbarduno’r hecsaclorobensen solet i gael ei drawsnewid yn anwedd yn araf – proses sy’n cael ei galw’n sychdarthu. Gwelodd y tîm fod y sychdarthu’n achosi i sianeli bach ffurfio ar arwyneb y crisial, a bod y defnynnau dŵr yn cael eu llywio ar hyd y sianeli hyn i un cyfeiriad.

‘Canfuwyd bod y [symudiad cyfeiriadol] hwn yn cael ei achosi gan newidiadau yn lled sianeli bach dros amser,’ nododd y tîm ymchwil yn ei bapur.

Mae’r tîm ymchwil yn awgrymu y gallai’r ffenomen hon, nas gwelwyd o’r blaen, ysbrydoli technolegau newydd ar gyfer casglu anwedd dŵr o’r aer nad oes arnynt angen trydan. Mae’r sefyllfaoedd lle gallai cynaeafu dŵr goddefol fod yn ddefnyddiol yn cynnwys gwaith adfer ar ôl trychinebau, pan fydd tarfu ar gyflenwadau dŵr yfed arferol neu lle cânt eu halogi, a gweithrediadau milwrol mewn lleoliadau anghysbell.

Rhowch hyn mewn cyd-destun

Dewch i gael eich ysbrydoli gan Brentis Gwyddorau Cemegol y Flwyddyn 2020 y Gymdeithas Gemeg Frenhinol, Katty, sy’n monitro lefelau deunyddiau organig mewn dŵr yfed a dŵr gwastraff fel prentis ddadansoddwr.

Mae’r erthygl hon yn addasiad o waith Rebecca Trager yn Chemistry World.

Nina Notman

Reference

P Commins et al, Nat. Chem., 2023, DOI: 10.1038/s41557-023-01158-5

Download this

Summary slide with questions and the article for context when teaching your 14–16 classes on states of matter: rsc.li/43FJxGd