Defnyddio cyd-destun byd go iawn am danwydd i ymarfer cymhwyso dealltwriaeth o hafaliadau cemegol cytbwys

Mae tanwyddau fel petrol a diesel wedi cael eu defnyddio ym mheiriannau tanio mewnol cerbydau fel ceir, tryciau, cychod a threnau ers dros 100 mlynedd. Mae archwilio’r adweithiau cemegol ar gyfer y tanwyddau hyn a thanwyddau amgen, fel LPG a hydrogen, yn creu cyd-destun gwych i’r dysgwyr ymarfer cydbwyso hafaliadau cemegol.

  • Example pages from the worksheets at both foundation and higher level, plus teacher notes with answers

    Lawrlwythwch

    Taflen waith ar lefel sylfaen a lefel uwch i roi’r hyn a ddysgir am hafaliadau cemegol cytbwys mewn cyd-destun. Mae’r atebion wedi eu cynnwys yn y nodiadau i athrawon.

Gwybodaeth am yr adnodd hwn

Mae’r taflenni gwaith Mewn cyd-destun hyn yn gofyn i’r dysgwyr ddefnyddio eu gwybodaeth am hafaliadau cemegol cytbwys yng nghyd-destun tanwydd, gan feithrin eu hyder a’u gallu i wynebu cwestiynau arholiad. Mae cymysgedd o gwestiynau amlddewis, ateb byr ac ateb hir yn ymdrin â’r canlynol:

  • adweithyddion a chynhyrchion
  • fformiwlâu cemegol
  • symbolau cyflwr
  • cydbwyso hafaliadau
  • cyfrifiadau màs (uwch yn unig)

Bydd y dysgwyr yn ymarfer sgiliau mathemategol i fagu eu hyder. Mae’r taflenni gwaith ar gael ar lefel sylfaen a lefel uwch ac fel fersiynau y gellir eu golygu’n llawn, gan roi’r hyblygrwydd i chi ddewis y cwestiynau sydd fwyaf perthnasol i wers benodol neu grŵp o ddysgwyr.