Defnyddiwch yr awgrymiadau wedi’u sgaffaldio i helpu’r dysgwyr i gymhwyso eu dealltwriaeth o gydbwyso hafaliadau cemegol
Gellir defnyddio stribedi strwythur i hyrwyddo ysgrifennu annibynnol. Bydd y dysgwyr yn ysgrifennu am hafaliadau symbolau cytbwys gan ddefnyddio geiriau allweddol. Byddant yn disgrifio deddf cadwraeth màs, yn egluro pwysigrwydd symbolau cyflwr, yn cydbwyso hafaliadau ac yn adnabod gormodedd adweithydd ac adweithyddion cyfyngol.
-
Lawrlwythwch
Gludwch y stribedi strwythur hyn ar ymyl y dudalen i helpu’r dysgwyr i ganfod neu i adalw gwybodaeth ac ysgrifennu’n annibynnol am hafaliadau cytbwys. Mae’r adnodd yn cynnwys awgrymiadau ysgrifennu y gellir eu golygu, cwestiwn estyn ac atebion enghreifftiol.
Gweld a lawrlwytho rhagor o Stribedi strwythur
Amcanion dysgu
- Egluro pam mae angen cydbwyso hafaliadau cemegol.
- Llunio a dehongli hafaliadau symbolau cytbwys.
- Dangos sut mae cynrychioliad symbolaidd adwaith yn cysylltu ag arsylwadau a wneir yn y labordy.
- Integreiddio hafaliadau mewn trafodaethau ac esboniadau ysgrifenedig.
Cyflwyniad
Pan fyddwn ni’n ysgrifennu am gemeg, byddwn yn aml yn defnyddio math o ‘law-fer’ ar ffurf fformiwlâu a hafaliadau. Er bod modd defnyddio hafaliadau geiriau, mae hafaliadau symbolau’n gallu rhoi mwy o wybodaeth ddefnyddiol i ni am yr adwaith, yn enwedig pan na fydd enw sylwedd yn ei gwneud hi’n amlwg pa elfen a wneir (er enghraifft, methan yw CH4).
Mae hi’n hanfodol cydbwyso hafaliadau symbolau i sicrhau eu bod yn ufuddhau i ddeddf cadwraeth màs. Mae hafaliad sydd wedi cael ei lunio’n gywir yn gallu ein helpu i ragfynegi beth dylem ei arsylwi a faint o bob adweithydd sydd ei angen er mwyn i adweithiau fod yn effeithlon. Mae llunio a dehongli hafaliadau cemegol cytbwys yn sgìl allweddol sy’n sail i’r holl ddysgu mewn cemeg.
Mae hafaliadau symbolau cytbwys yn enghraifft allweddol o’r cynrychioliad symbolaidd yn nhriongl Johnstone. Mae ein taflenni gwaith triongl Johnstone yn rhoi cyfle i’r dysgwyr ystyried sut mae’r cynrychioliad symbolaidd yn berthnasol i’w harsylwadau ar adwaith cemegol (y lefel facrosgopig). Darllenwch fwy am sut mae defnyddio triongl Johnstone yn eich gwaith addysgu.
Mae cemegwyr arbenigol yn symud yn rhwydd rhwng y ddau ddehongliad hyn (symbolaidd a macrosgopig). Fodd bynnag, mae angen addysgu’r dysgwyr sut mae cynnwys y cynrychioliad symbolaidd a chyfeirio ato wrth egluro arsylwadau a defnyddio’r cynrychioliad symbolaidd fel ffordd o wneud rhagfynegiadau.
Mae tair adran gyntaf y stribed strwythur hwn yn gwirio dealltwriaeth y dysgwyr o adeiladwaith sylfaenol hafaliadau symbolau (amcanion dysgu 1 a 2). Mae gweddill yr ymarfer yn eu harwain i ysgrifennu am y cysylltiadau rhwng hafaliadau a’r hyn maent yn ei arsylwi.
Sut mae defnyddio stribedi strwythur
Math o sgaffald yw stribedi strwythur, a gallwch eu defnyddio i gefnogi’r dysgwyr i adalw gwybodaeth yn annibynnol. Defnyddiwch nhw i gael trosolwg ar ddechrau’r pwnc, i ysgogi gwybodaeth flaenorol, neu i grynhoi’r dysgu ar ddiwedd pwnc addysgu. I gael rhagor o syniadau am sut mae defnyddio stribedi strwythur gyda’ch dysgwyr, edrychwch ar 5 ffordd o ddefnyddio stribedi strwythur yn effeithiol.
Mae gan y stribedi strwythur adrannau sy’n cynnwys awgrymiadau, ac mae eu maint yn awgrymu faint mae’n rhaid i’r dysgwyr ei ysgrifennu. Bydd y dysgwyr yn gludo’r stribedi ar ymyl llyfr gwaith ac yn ysgrifennu eu hatebion wrth ymyl yr adrannau, mewn brawddegau llawn. Ar ôl i’r dysgwyr orffen defnyddio’r stribed strwythur, dylai fod ganddynt set o dudalennau A4 yn llawn nodiadau ac enghreifftiau.
Mae pum stribed ar dudalen a bydd angen eu torri i’r maint cywir ar ôl eu hargraffu. Maent ar ail dudalen y daflen i fyfyrwyr.
Sgaffaldio
- Anogwch y dysgwyr i ddefnyddio’r geiriau a’r ymadroddion allweddol a awgrymir yn eu hatebion.
- Er mwyn rhoi rhagor o gymorth i’r dysgwyr, dylech gynnwys awgrymiadau ychwanegol yn y stribed strwythur. Os yw’r dysgwyr yn cael trafferth ymgysylltu â’r dasg, rhowch ddechrau brawddegau iddynt sydd wedi cael eu creu o’r atebion enghreifftiol.
- Wrth i’r dysgwyr fagu hyder, gofynnwch iddynt roi cynnig ar y cwestiwn ateb estynedig yn gyntaf ac yna defnyddio’r stribed strwythur i wella neu i hunanasesu eu hateb.
Geiriau allweddol
Cymhareb, màs, atom, moleciwl, dyfrllyd, cyfyngol, gormodedd, hylosgiad anghyflawn, hylosgiad cyflawn, adweithydd, cynnyrch.
Metawybyddiaeth
Mae’r adnodd hwn yn cefnogi’r dysgwyr i ddatblygu eu sgiliau metawybyddol mewn tri maes allweddol.
- Cynllunio: mae’r stribedi’n darparu sgaffaldiau i gynllunio’r ymateb ysgrifenedig. Bydd y dysgwyr yn penderfynu o ble i gasglu gwybodaeth (gwerslyfrau, eu nodiadau eu hunain, gwefannau adolygu). Gofynnwch i’r dysgwyr: ydy’r ffynhonnell wybodaeth rydych chi’n ei defnyddio yn ddibynadwy?
- Monitro: mae’r cwestiynau yn y stribed strwythur yn rhoi awgrymiadau i’r dysgwyr ac maent yn gallu gwirio eu hateb eu hunain yn erbyn yr awgrymiadau. Gofynnwch i’r dysgwyr: ydych chi wedi rhoi sylw i’r holl awgrymiadau yn y lle gwag sydd wedi’i ddarparu? Oes angen i chi newid unrhyw beth er mwyn cwblhau’r dasg?
- Gwerthuso: gall y dysgwyr hunanasesu neu ofyn i gyd-ddysgwr wirio eu gwaith yn erbyn yr atebion. Gofynnwch i’r dysgwyr: wnaethoch chi gyflawni’r hyn yr oeddech chi’n bwriadu ei gyflawni? Beth allech chi ei wneud yn wahanol rhyw dro arall?
Cwestiwn ateb estynedig
Dywedwch wrth y dysgwyr am ateb y cwestiwn ar ôl rhoi cynnig ar y stribed strwythur. Mae’r stribed strwythur yn ysgogi’r wybodaeth ofynnol, y gall y dysgwyr ei defnyddio wedyn i ateb y cwestiwn.
Ystyriwch ailfframio cyd-destun y cwestiwn hwn i un mae eich dysgwyr yn fwy cyfarwydd ag ef, er mwyn eu grymuso i ddatgloi’r cyfalaf gwyddoniaeth sydd ganddynt eisoes. Darllen mwy am gyfalaf gwyddoniaeth.
Yn yr adwaith rhwng asid hydroclorig (HCl) a metel magnesiwm (Mg), y cynhyrchion yw magnesiwm clorid (MgCl2) hydawdd a nwy hydrogen (H2). Lluniwch hafaliad symbolau cytbwys ar gyfer yr adwaith, gan gynnwys y symbolau cyflwr. Cymharwch yr arsylwadau y byddech chi’n eu gwneud yn ystod yr adwaith pan fydd y magnesiwm mewn gormodedd a phan fydd y magnesiwm yn adweithydd cyfyngol. Cyfeiriwch at eich hafaliad yn eich ateb.
Atebion
Rhoddir atebion posibl ar gyfer y gweithgaredd stribed strwythur yn y nodiadau i athrawon y gellir eu lawrlwytho.
Ateb i’r cwestiwn ateb estynedig
2HCl(dyfr) + Mg(s) → MgCl2 (dyfr) + H2 (n)
Yn ystod yr adwaith, gallwn weld o’r hafaliad bod nwy hydrogen yn cael ei gynhyrchu, felly byddwn yn arsylwi ffisian. Ar ben hynny, mae’r magnesiwm solet yn troi yn fagnesiwm clorid dyfrllyd, felly bydd y darn o fagnesiwm yn mynd yn llai. Bydd yr arsylwadau hyn yr un fath p’un a yw’r magnesiwm yn ormodedd neu’n gyfyngol.
Pan fydd y magnesiwm mewn gormodedd, bydd yr asid yn cael ei ddefnyddio’n gyntaf, felly bydd y ffisian yn stopio a bydd darn bach o fagnesiwm solet yn bresennol. Ond os yw’r magnesiwm yn adweithydd cyfyngol, bydd yn diflannu’n llwyr ac ar y diwedd bydd hydoddiant clir a di-liw.
Gallwn brofi pH yr hydoddiant ar ôl i’r adwaith ddod i ben. Os yw’r magnesiwm yn adweithydd cyfyngol, bydd asid yn dal yn bresennol felly bydd yr hydoddiant yn troi dangosydd cyffredinol yn goch neu’n oren. Ond os yw’r magnesiwm mewn gormodedd, dylai’r holl asid fod wedi cael ei ddefnyddio, felly bydd yr hydoddiant yn troi’r dangosydd cyffredinol yn wyrdd.
Downloads
Hafaliadau cemegol cytbwys Stribed strwythur: taflen myfyriwr
Handout | PDF, Size 0.21 mbHafaliadau cemegol cytbwys Stribed strwythur: nodiadau i athrawon
Handout | PDF, Size 0.25 mbHafaliadau cemegol cytbwys Stribed strwythur: taflen myfyriwr
Editable handout | Word, Size 0.44 mbHafaliadau cemegol cytbwys Stribed strwythur: nodiadau i athrawon
Editable handout | Word, Size 0.44 mb




No comments yet