Mae gan atomau gwahanol isotopau o elfen yr un nifer o brotonau ond nifer gwahanol o niwtronau

Mae’r elfen boron yn bodoli fel dau isotop gwahanol, gyda chanrannau hysbys o’r naill fath a’r llall. Gellir cyfrifo màs atomig cymharol boron drwy ddod o hyd i fàs cyfartalog (cymedrig) 100 atom o boron gyda’r ganran hysbys o atomau o’r ddau fath o isotop.

  • Tudalennau enghreifftiol sy'n ffurfio'r adnodd hwn

    Lawrlwythwch

    Defnyddiwch y daflen waith hon i fyfyrwyr i gyflwyno màs atomig cymharol boron ar dair lefel gysyniadol wahanol drwy ystyried toreithrwydd dau isotop gwahanol.

Amcanion dysgu

  1. Rhoi priodweddau boron sy’n dangos mai lled-fetel ydyw.
  2. Cyfrifo màs atomig cymharol boron.
  3. Dehongli symbol atomig isotop boron.

Sut mae defnyddio triongl Johnstone 

Defnyddiwch driongl Johnstone i ddatblygu ffordd y dysgwyr o feddwl am grynodiad hydoddiannau ar dair lefel gysyniadol wahanol:

  • Macrosgopig: beth allwn ni ei weld. Meddyliwch am y priodweddau y gallwn eu harsylwi, eu mesur a’u cofnodi.
  • Is-ficrosgopig: llai nag y gallwn ei weld. Meddyliwch am y lefel ronynnol neu atomig.
  • Symbolaidd: cynrychioliadau. Meddyliwch sut rydym yn cynrychioli syniadau cemegol gan gynnwys symbolau a diagramau.

Er mwyn i’r dysgwyr wella eu hymwybyddiaeth o bwnc, mae angen iddynt ei ddeall ar y tair lefel.

Wrth gyflwyno pwnc, peidiwch â cheisio cyflwyno’r holl lefelau o feddwl ar unwaith. Bydd hyn yn gorlwytho’r cof gweithredol. Yn hytrach, cwblhewch y triongl dros gyfres o wersi, gan ddechrau gyda’r lefel facrosgopig ac wedyn cyflwyno lefelau eraill, yn eu tro, ar ôl sicrhau bod pethau’n iawn.

Mae’r holl lefelau’n gysylltiedig â’i gilydd. Er enghraifft, mae angen i’r dysgwyr gael cynrychioliad gweledol o’r is-ficrosgopig er mwyn datblygu modelau meddyliol o’r lefel ronynnol neu’r lefel atomig.

Darllen pellach

Darllenwch fwy am sut mae defnyddio triongl Johnstone yn eich gwaith addysgu gyda’r erthyglau hyn:

Mae Llyfr Norman Reid The Johnstone Triangle: The Key to Understanding Chemistry yn rhoi trosolwg manylach, ac mae’r bennod gyntaf ar gael i’w darllen ar-lein.

Sgaffaldio

Mae’n bwysig rhannu fframwaith y triongl â’r dysgwyr cyn ei ddefnyddio. Dywedwch wrthynt pam eich bod eisiau iddynt ddefnyddio’r triongl a sut bydd yn eu helpu i ddatblygu eu dealltwriaeth. Defnyddiwch ddull ‘rydw i’n rhoi cynnig arni, rydych chi’n rhoi cynnig arni’ wrth gyflwyno triongl Johnstone am y tro cyntaf.

Y camau nesaf

Er mwyn datblygu rhagor ar ffordd y dysgwyr o feddwl ym mhob rhan o driongl Johnstone, rhowch gynnig ar ein Taflenni gwaith datblygu dealltwriaeth. Mae’r taflenni gwaith hyn yn cynnwys cwestiynau graddol i ddatblygu modelau meddyliol ac i ddyfnhau dealltwriaeth.