Defnyddiwch yr awgrymiadau sydd wedi’u sgaffaldio i gefnogi’r dysgwyr i ysgrifennu am fasau adweithio a chyfeintiau nwy

Gellir defnyddio stribedi strwythur i hyrwyddo ysgrifennu annibynnol. Yn yr adnodd hwn, mae’r dysgwyr yn ysgrifennu am fasau a chyfeintiau nwy gan ddefnyddio geiriau allweddol, yn disgrifio dulliau o fesur cyfaint nwy, ac yn pennu cynnyrch damcaniaethol a chanrannol.

  • Tudalennau enghreifftiol sy'n ffurfio'r adnodd hwn

    Lawrlwythwch

    Defnyddiwch y stribedi strwythur y gellir eu golygu i helpu’r dysgwyr i ganfod neu i adalw gwybodaeth ac i ysgrifennu’n annibynnol am fasau adweithio a chyfeintiau nwy.

Amcanion dysgu

  1. Diffinio cyfaint molar ac egluro sut mae defnyddio hyn wrth ganfod cyfeintiau adweithio mewn adwaith yn y wedd nwy.
  2. Egluro sut mae canfod cynnyrch damcaniaethol a chanrannol cynhyrchion mewn adwaith.
  3. Cyfuno ysgrifennu gyda chyfrifiadau i roi esboniad llawn o gysyniadau cemegol.

Cyflwyniad

Mae’r adnodd hwn yn gofyn i’r dysgwyr ddangos eu proses feddwl, yn hytrach na defnyddio dulliau y maent wedi’u cofio ar gyfer gwneud cyfrifiadau. Bydd hyn yn eu helpu i ddatblygu dealltwriaeth ddyfnach. Bydd hefyd yn dangos sut mae gosod cyfrifiadau allan yn gliriach mewn atebion arholiad, er mwyn i’r arholwr allu dilyn yr hyn maent wedi’i wneud, ac mae’n haws iddynt wirio eu hatebion eu hunain.

Fel arfer, mae’r dysgwyr yn cael eu cyflwyno i gyfrifiadau masau adweithio sy’n defnyddio masau yn unig yn gyntaf. Felly, maent yn aml yn anghofio ei bod yn symlach dod o hyd i gyfeintiau sy’n adweithio mewn adweithiau sy’n digwydd yn gyfan gwbl yn y wedd nwy, gan ddefnyddio deddf Avogadro. Mae’r stribedi strwythur sydd wedi’u sgaffaldio a’r cwestiwn ateb estynedig yn cyfosod y ddau ddull hyn er mwyn annog y dysgwyr i adnabod y gwahaniaethau a bod yn barod i ddefnyddio pa un bynnag sy’n gweddu orau i gyd-destun eu cyfrifiad.

Sut mae defnyddio stribedi strwythur

Math o sgaffald yw stribedi strwythur, a gallwch eu defnyddio i gefnogi’r dysgwyr i adalw gwybodaeth yn annibynnol. Defnyddiwch nhw i gael trosolwg ar ddechrau’r pwnc, i ysgogi gwybodaeth flaenorol, neu i grynhoi’r dysgu ar ddiwedd pwnc addysgu. I gael rhagor o syniadau am sut mae defnyddio stribedi strwythur gyda’ch dysgwyr, edrychwch ar 5 ffordd o ddefnyddio stribedi strwythur yn effeithiol.

Mae gan y stribedi strwythur adrannau sy’n cynnwys awgrymiadau, ac mae eu maint yn awgrymu faint y mae’n rhaid i’r dysgwyr ei ysgrifennu. Bydd y dysgwyr yn gludo’r stribedi ar ymyl llyfr gwaith ac yn ysgrifennu eu hatebion wrth ymyl yr adrannau, mewn brawddegau llawn. Ar ôl i’r dysgwyr orffen defnyddio’r stribed strwythur, dylai fod ganddynt set o dudalennau A4 yn llawn nodiadau ac enghreifftiau.

Mae pum stribed ar dudalen a bydd angen eu torri i’r maint cywir ar ôl eu hargraffu. Maent ar ail dudalen y daflen i fyfyrwyr. 

Sgaffaldio

  • Anogwch y dysgwyr i ddefnyddio’r geiriau a’r ymadroddion allweddol a awgrymir yn eu hatebion.
  • Er mwyn rhoi rhagor o gymorth i’r dysgwyr, dylech gynnwys awgrymiadau ychwanegol yn y stribed strwythur. Os yw’r dysgwyr yn cael trafferth ymgysylltu â’r dasg, rhowch ddechrau brawddegau iddynt sydd wedi cael eu creu o’r atebion enghreifftiol.
  • Wrth i’r dysgwyr fagu hyder, gofynnwch iddynt roi cynnig ar y cwestiwn estyn yn gyntaf ac yna defnyddio’r stribed strwythur i wella neu i hunanasesu eu hateb.

Geiriau allweddol

Silindr mesur, chwistrell nwy, tiwb cludo, fflasg gonigol, môl, cyfaint molar, cynnyrch damcaniaethol, cynnyrch gwirioneddol, cynnyrch canrannol.

Metawybyddiaeth

Mae’r adnodd hwn yn cefnogi’r dysgwyr i ddatblygu eu sgiliau metawybyddol mewn tri maes allweddol.

  • Cynllunio: mae’r stribedi’n darparu sgaffaldiau i gynllunio’r ymateb ysgrifenedig. Bydd y dysgwyr yn penderfynu o ble i gasglu gwybodaeth (gwerslyfrau, eu nodiadau eu hunain, gwefannau adolygu). Gofynnwch i’r dysgwyr: ydy’r ffynhonnell wybodaeth rydych chi’n ei defnyddio yn ddibynadwy?
  • Monitro: mae’r cwestiynau yn y stribed strwythur yn rhoi awgrymiadau i’r dysgwyr ac maent yn gallu gwirio eu hateb eu hunain yn erbyn yr awgrymiadau. Gofynnwch i’r dysgwyr: ydych chi wedi rhoi sylw i’r holl awgrymiadau yn y lle gwag sydd wedi’i ddarparu? Oes angen i chi newid unrhyw beth er mwyn cwblhau’r dasg?
  • Gwerthuso: gall y dysgwyr hunanasesu neu ofyn i gyd-ddysgwr wirio eu gwaith yn erbyn yr atebion. Gofynnwch i’r dysgwyr: wnaethoch chi gyflawni’r hyn yr oeddech chi’n bwriadu ei gyflawni? Beth allech chi ei wneud yn wahanol rhyw dro arall?

Cwestiwn ateb estynedig

Dywedwch wrth y dysgwyr am ateb y cwestiwn ar ôl rhoi cynnig ar y stribed strwythur. Mae’r stribed strwythur yn ysgogi’r wybodaeth ofynnol, y gall y dysgwyr ei defnyddio wedyn i ateb y cwestiwn.

Ystyriwch ailfframio cyd-destun y cwestiwn hwn i un y mae eich dysgwyr yn fwy cyfarwydd ag ef, er mwyn eu grymuso i ddatgloi’r cyfalaf gwyddoniaeth sydd ganddynt eisoes. Darllen mwy am gyfalaf gwyddoniaeth.

Atebion

Rhoddir atebion posibl ar gyfer y gweithgaredd stribed strwythur yn y nodiadau i athrawon y gellir eu lawrlwytho. 

Ateb i’r cwestiwn estyn

Mae un môl o unrhyw nwy yn llenwi’r un cyfaint ar dymheredd a gwasgedd ystafell, 24 dm3 neu 24,000cm3. Yn yr adwaith rhwng methan ac ager, mae’r adweithyddion a’r cynhyrchion i gyd yn nwyon. Felly, bydd y cyfeintiau o nwy a ddefnyddir ac a gynhyrchir yn yr un gymhareb â’r adweithyddion a’r cynhyrchion yn yr hafaliad symbolau cytbwys. Y gymhareb methan i hydrogen yn yr hafaliad yw 1:4. Felly, bydd y cyfeintiau nwy hefyd yn 1:4. Felly, er mwyn cynhyrchu 240cm3 o hydrogen mae arnom angen 240/4 = 60cm3 o fethan.

Yn yr ail adwaith, dim ond yr hydrogen sy’n nwy, felly mae angen i ni drosi cyfaint y nwy yn folau er mwyn gallu cymharu hyn â màs y sinc.

molau hydrogen mewn 240cm3 = 240/24000 = 0.01mol

Yn ôl yr hafaliad cytbwys, mae angen 1 môl o sinc i wneud 1 môl o hydrogen. Felly, mae angen 0.01mol o sinc hefyd.

màs o sinc = molau x Ar

= 0.01 x 65

= 0.65g

Eisiau rhagor o adnoddau llythrennedd?

Mae’r adnodd hwn yn rhan o’n cefnogaeth ar gyfer llythrennedd mewn addysgu gwyddoniaeth, sydd wedi’i dylunio i wreiddio llythrennedd yn eich cwricwlwm a datblygu sgiliau’r dysgwyr o ran darllen, ysgrifennu a siarad am wyddoniaeth, a’u dealltwriaeth o iaith wyddonol.