Cefnogwch eich dysgwyr i ddatblygu modelau meddyliol a dyfnhau eu dealltwriaeth o folau a màs

Cyfres o adnoddau yw Datblygu dealltwriaeth, sy’n annog y dysgwyr i gysylltu eu ffordd o feddwl ar y lefelau macrosgopig, is-ficrosgopig a symbolaidd.

 Amcanion dysgu

  1. Cydnabod y bydd yr un màs o wahanol sylweddau yn cynnwys nifer wahanol o atomau oherwydd bod gan wahanol atomau wahanol fasau.
  2. Cysylltu màs cymharol atomau â màs cymharol nifer penodol o’r un atomau.
  3. Cysylltu màs un môl â màs nifer penodol o folau.
  4. Defnyddio fformiwla fathemategol i gyfrifo màs ar sail nifer y molau a màs un môl.
  5. Defnyddio fformiwla fathemategol i gyfrifo nifer y molau ar sail màs a màs un môl.

Sut mae defnyddio’r adnodd hwn

Nod yr adnodd hwn yw datblygu dealltwriaeth y dysgwyr o’r berthynas rhwng màs un môl, nifer y molau a màs sylwedd. Mae’r cwestiynau’n annog y dysgwyr i feddwl ar lefel is-ficrosgopig am sut mae màs gwahanol atomau’n gysylltiedig â màs un môl o’r atomau hyn. O ganlyniad, dylai’r dysgwyr ddatblygu modelau meddyliol mwy cadarn i gefnogi eu ffyrdd o feddwl am y pwnc hwn.

  • Pryd i’w defnyddio? Defnyddiwch y daflen waith ar ôl yr addysgu cychwynnol neu’r drafodaeth gychwynnol ar y pwnc hwn i ddatblygu syniadau ymhellach. Gallwch hefyd ei defnyddio fel gweithgaredd adolygu.
  • Maint y grŵp? Mae’n addas ar gyfer gwaith annibynnol yn y dosbarth neu gartref. Neu defnyddiwch y cwestiynau ar gyfer trafodaethau grŵp neu ddosbarth.
  • Pa mor hir? 15–30 munud

Triongl Johnstone

Model o dair lefel gysyniadol wahanol mewn cemeg yw triongl Johnstone: macrosgopig, symbolaidd ac is-ficrosgopig. Gallwch ddefnyddio triongl Johnstone i feithrin dealltwriaeth gadarn o syniadau cemegol ymhlith eich dysgwyr.

Cyflwynwch driongl Johnstone i’r dysgwyr gyda’n Taflen waith molau o aur: triongl Johnstone sy’n arwain y dysgwyr i edrych ar ffyrdd gwahanol o gynrychioli a disgrifio màs aur ar lefelau macrosgopig, is-ficrosgopig a symbolaidd.

Darllen pellach 

Darllenwch fwy am sut mae defnyddio triongl Johnstone yn eich gwaith addysgu gyda’r erthyglau hyn:

Mae llyfr Norman Reid The Johnstone Triangle: the key to understanding chemistry yn rhoi trosolwg manylach, ac mae’r bennod gyntaf ar gael i’w darllen ar-lein.

Cefnogaeth

Mae’r daflen waith hon yn un raddol, felly mae’r cwestiynau cynharach yn fwy hygyrch. Mae’r gweithgaredd yn dod yn fwy heriol wrth i’r cwestiynau fynd yn eu blaenau. Gallwch roi esboniadau ychwanegol ar gyfer y cwestiynau mwy heriol. Os ydych yn cwblhau’r daflen waith fel gweithgaredd yn y dosbarth, mae’n well oedi o bryd i’w gilydd a gwneud yn siŵr bod pawb yn deall, gan fod y cwestiynau’n adeiladu ar sail y cwestiwn blaenorol yn aml.

Mae’n ddefnyddiol i’r dysgwyr arsylwi priodweddau macrosgopig drostynt eu hunain. Gallech chi rannu enghreifftiau o sylweddau o gwmpas yr ystafell ddosbarth, cynnal adwaith cemegol ymarferol yn y dosbarth, neu roi arddangosiad gan athro o’r nodweddion.

Rhowch fodelau ffisegol i’r dysgwyr eu defnyddio a’u trin, fel cit Molymod neu gownteri.

Efallai y bydd angen cymorth ychwanegol ar unrhyw ddysgwyr sy’n dal yn ddihyder yn defnyddio’r cynrychioliad symbolaidd gofynnol, er enghraifft, rhannu ac egluro diagram neu efelychiad sy’n gallu dangos ymsymudiad y gronynnau.

Atebion a chanllawiau

Mae pum cwestiwn aml-ran yn y daflen waith i fyfyrwyr. Mae’r atebion yn y nodiadau i athrawon

Mae cwestiwn un yn helpu i ddatblygu dealltwriaeth y dysgwyr o’r syniad y bydd yr un màs o wahanol sylweddau (dealltwriaeth facrosgopig) yn cynnwys gwahanol niferoedd o atomau (dealltwriaeth is-ficrosgopig). Mae’r cwestiwn hwn yn tybio bod y dysgwyr eisoes yn gyfarwydd â’r syniad bod gan atomau elfennau gwahanol fasau gwahanol. Mae’r cwestiwn yn dechrau drwy ddefnyddio darnau arian fel enghraifft, er mwyn i’r dysgwyr allu meddwl gan ddefnyddio enghraifft weladwy (dealltwriaeth facrosgopig).

Mae’r ail gwestiwn yn datblygu dealltwriaeth o’r cysylltiad rhwng màs cymharol atomau unigol (dealltwriaeth is-ficrosgopig) a màs cymharol nifer penodol o’r atomau hynny (dealltwriaeth facrosgopig). Er enghraifft, os yw màs un atom ddwywaith yn fwy na màs atom arall, yna bydd gan 1000 o’r ail fath o atom fàs sydd ddwywaith yn fwy na 1000 o’r math cyntaf o atom.

Mae cwestiwn tri hwn yn helpu’r dysgwyr i ddatblygu eu dealltwriaeth o’r berthynas rhwng un môl fel 6.02 x 1023 o atomau (is-ficrosgopig) a màs môl fel y RAM mewn gramau (dealltwriaeth facroscopig).

Yng nghwestiwn pedwar, mae’r dysgwyr yn datblygu dealltwriaeth o’r fformiwla fathemategol (dealltwriaeth symbolaidd) sy’n mynegi’r berthynas rhwng màs (dealltwriaeth facrosgopig), màs un môl a nifer o folau atomau (dealltwriaeth is-ficrosgopig).

Mae’r cwestiwn olaf yn datblygu dealltwriaeth y dysgwyr o wahanol drefniant o’r fformiwla fathemategol (dealltwriaeth symbolaidd) sy’n mynegi’r berthynas rhwng nifer y molau (dealltwriaeth is-ficrosgopig) a’r màs (dealltwriaeth facrosgopig) a màs un môl. Nid yw’r adnodd hwn yn canolbwyntio ar y sgìl fathemategol o aildrefnu’r fformiwla. Am y rheswm hwnnw, darperir y fformiwla wedi’i had-drefnu ar ddechrau’r cwestiwn.