Asesu gwybodaeth a dealltwriaeth y dysgwyr o swm y sylwedd sy’n cael ei fesur mewn molau

Cymysgedd o gwestiynau amlddewis, ateb byr, ateb hir a llenwi’r bylchau gyda marciau wedi eu dyrannu.

Gwybodaeth am yr adnodd hwn

Mae ein taflenni gwaith Gwirio gwybodaeth yn rhoi cyfres o gwestiynau i asesu gwybodaeth a dealltwriaeth y dysgwyr ar ddiwedd cyfnod o addysgu neu er mwyn adolygu.

Mae taflen waith lefel uwch ar gael ar gyfer y pwnc hwn. Mae modd ei golygu’n llawn er mwyn i chi allu ei haddasu yn ôl anghenion eich dysgwyr.

Defnyddiwch y rhain ar gyfer gwaith myfyrwyr unigol yn y dosbarth neu gartref. Mae’r daflen atebion yn cynnwys y cyfrifiadau ac mae’n addas i’r dysgwyr asesu eu hunain neu ei gilydd.

Maent yn cynnwys:

  • màs molar
  • cyfrifiadau molau
  • adrefnu hafaliadau
  • Rhif Avogadro
  • cyfaint molar nwy