Defnyddiwch yr awgrymiadau sydd wedi’u sgaffaldio i helpu’r dysgwyr i ysgrifennu am swm y sylweddau mewn molau
Gellir defnyddio stribedi strwythur i hyrwyddo ysgrifennu annibynnol. Yn yr adnodd hwn bydd y dysgwyr yn ysgrifennu am swm y sylwedd sy’n cael ei fesur mewn molau gan ddefnyddio geiriau allweddol. Byddant yn cyfuno esboniadau ysgrifenedig â chyfrifiadau i ddangos ac i ddatblygu eu dealltwriaeth o gyfrifiadau molau a màs molar.
-
Lawrlwythwch
Gludwch y stribedi strwythur hyn ar ymyl y dudalen i helpu’r dysgwyr i ganfod neu i adalw gwybodaeth ac ysgrifennu’n annibynnol am swm y sylwedd mewn molau. Mae’r adnodd yn cynnwys awgrymiadau ysgrifennu y gellir eu golygu, cwestiwn estyn ac atebion enghreifftiol.
Gweld a lawrlwytho rhagor o Stribedi strwythur
Amcanion dysgu
- Egluro pam a sut mae cyfrif atomau drwy ganfod eu màs.
- Disgrifio sut mae canfod nifer y molau o sylwedd mewn màs penodol ac i’r gwrthwyneb.
- Cyfuno ysgrifennu gyda chyfrifiadau i roi esboniad llawn o gysyniadau cemegol.
Cyflwyniad
Mae’r adnodd hwn yn gofyn i’r dysgwyr ddangos eu proses feddwl, yn hytrach na defnyddio dulliau y maent wedi’u cofio ar gyfer gwneud cyfrifiadau. Bydd hyn yn eu helpu i ddatblygu dealltwriaeth ddyfnach. Bydd hefyd yn dangos sut mae gosod cyfrifiadau allan yn gliriach mewn atebion arholiad, er mwyn i’r arholwr allu dilyn yr hyn maent wedi’i wneud, ac i’r dysgwyr allu gwirio eu hatebion eu hunain yn haws.
Mae cemegwyr yn cyfrif atomau a moleciwlau drwy ddod o hyd i’w màs, yn yr un modd ag os byddwch chi’n mynd â bagiau o arian mân i’r banc, bydd aelod o staff y banc yn eu pwyso yn hytrach na chyfrif pob darn arian fesul un. Yr uned fesur sy’n cael ei defnyddio mewn cemeg yw’r môl. Os oes arnom eisiau gwneud màs penodol o gynnyrch, bydd angen i ni wybod faint o’n hadweithyddion y dylem ddechrau gyda nhw. Mae gallu cyfrif atomau hefyd yn golygu ein bod yn gallu canfod cymhareb y gwahanol atomau mewn sylwedd, er mwyn i ni allu cyfrifo ei fformiwla gemegol.
Sut mae defnyddio stribedi strwythur
Math o sgaffald yw stribedi strwythur, a gallwch eu defnyddio i gefnogi’r dysgwyr i adalw gwybodaeth yn annibynnol. Defnyddiwch nhw i gael trosolwg ar ddechrau’r pwnc, i ysgogi gwybodaeth flaenorol, neu i grynhoi’r dysgu ar ddiwedd pwnc addysgu. I gael rhagor o syniadau am sut mae defnyddio stribedi strwythur gyda’ch dysgwyr, edrychwch ar 5 ffordd o ddefnyddio stribedi strwythur yn effeithiol.
Mae gan y stribedi strwythur adrannau sy’n cynnwys awgrymiadau, ac mae eu maint yn awgrymu faint mae’n rhaid i’r dysgwyr ei ysgrifennu. Bydd y dysgwyr yn gludo’r stribedi ar ymyl llyfr gwaith ac yn ysgrifennu eu hatebion wrth ymyl yr adrannau, mewn brawddegau llawn. Ar ôl i’r dysgwyr orffen defnyddio’r stribed strwythur, dylai fod ganddynt set o dudalennau A4 yn llawn nodiadau ac enghreifftiau.
Mae pum stribed ar dudalen a bydd angen eu torri i’r maint cywir ar ôl eu hargraffu. Maent ar ail dudalen y daflen i fyfyrwyr.
Sgaffaldio
- Anogwch y dysgwyr i ddefnyddio’r geiriau a’r ymadroddion allweddol a awgrymir yn eu hatebion.
- Er mwyn rhoi rhagor o gymorth i’r dysgwyr, dylech gynnwys awgrymiadau ychwanegol yn y stribed strwythur. Os yw’r dysgwyr yn cael trafferth ymgysylltu â’r dasg, rhowch ddechrau brawddegau iddynt sydd wedi cael eu creu o’r atebion enghreifftiol.
- Wrth i’r dysgwyr fagu hyder, gofynnwch iddynt roi cynnig ar y cwestiwn ateb estynedig yn gyntaf ac yna defnyddio’r stribed strwythur i wella neu i hunanasesu eu hateb.
Geiriau allweddol
Nanometr (nm), màs atomig cymharol, elfen, màs fformiwla cymharol, cyfansoddyn, màs molar (g/mol), cymhareb.
Metawybyddiaeth
Mae’r adnodd hwn yn cefnogi’r dysgwyr i ddatblygu eu sgiliau metawybyddol mewn tri maes allweddol.
- Cynllunio: mae’r stribedi’n darparu sgaffaldiau i gynllunio’r ymateb ysgrifenedig. Bydd y dysgwyr yn penderfynu o ble i gasglu gwybodaeth (gwerslyfrau, eu nodiadau eu hunain, gwefannau adolygu). Gofynnwch i’r dysgwyr: ydy’r ffynhonnell wybodaeth rydych chi’n ei defnyddio yn ddibynadwy?
- Monitro: mae’r cwestiynau yn y stribed strwythur yn rhoi awgrymiadau i’r dysgwyr ac maent yn gallu gwirio eu hateb eu hunain yn erbyn yr awgrymiadau. Gofynnwch i’r dysgwyr: ydych chi wedi rhoi sylw i’r holl awgrymiadau yn y lle gwag sydd wedi’i ddarparu? Oes angen i chi newid unrhyw beth er mwyn cwblhau’r dasg?
- Gwerthuso: gall y dysgwyr hunanasesu neu ofyn i gyd-ddysgwr wirio eu gwaith yn erbyn yr atebion. Gofynnwch i’r dysgwyr: wnaethoch chi gyflawni’r hyn yr oeddech chi’n bwriadu ei gyflawni? Beth allech chi ei wneud yn wahanol rhyw dro arall?
Cwestiwn ateb estynedig
Dywedwch wrth y dysgwyr am ateb y cwestiwn ar ôl rhoi cynnig ar y stribed strwythur. Mae’r stribed strwythur yn ysgogi’r wybodaeth ofynnol y gall y dysgwyr ei defnyddio wedyn i ateb y cwestiwn.
Ystyriwch ailfframio cyd-destun y cwestiwn hwn i un mae eich dysgwyr yn fwy cyfarwydd ag ef, er mwyn eu grymuso i ddatgloi’r cyfalaf gwyddoniaeth sydd ganddynt eisoes. Darllen mwy am gyfalaf gwyddoniaeth.
Mae calsiwm a bromin yn adweithio â’i gilydd i ffurfio calsiwm bromid:
Ca + Br2 → CaBr2
Mae Alex yn pwyso 4 g o galsiwm, ac mae Chris yn pwyso 4 g o fromin (Br2) hylifol. Mae Alex yn dweud bod ganddynt yr un faint o bob sylwedd, ond mae Chris yn anghytuno. Eglurwch pam mae Chris yn gywir ac awgrymwch faint o bob un dylid eu pwyso er mwyn i’r symiau fod yr un fath.
Rhif Avogadro yw 6.02 × 1023. Dangoswch faint o ïonau bromid fydd yn y calsiwm bromid a wneir os bydd Alex a Chris yn defnyddio’r masau rydych chi’n eu hawgrymu.
Atebion
Rhoddir atebion posibl ar gyfer y gweithgaredd stribed strwythur yn y nodiadau i athrawon y gellir eu lawrlwytho.
Ateb i’r cwestiwn ateb estynedig
Mae Alex a Chris wedi pwyso a mesur yr un màs o sylwedd. Fodd bynnag, mewn cemeg, swm y sylwedd yw nifer y molau o’r sylwedd hwnnw. Màs molar calsiwm yw 40 g/mol, ond màs molar bromin yw 2 × 80 = 160 g/mol. Mae màs molar bromin bedair gwaith yn fwy na màs molar calsiwm, felly yn yr un màs o bob un bydd pedair gwaith yn llai o ronynnau bromin nag o galsiwm. Yn benodol, mae Alex wedi pwyso 4 ÷ 40 = 0.1 mol o galsiwm ac mae Chris wedi pwyso 4 ÷ 160 = 0.025 mol o fromin.
Er mwyn cael yr un nifer o folau o bob un, byddai angen i Chris bwyso pedair gwaith cymaint o fromin, h.y. 16 g. Os caiff 0.1 môl yr un o galsiwm a bromin eu hadweithio, dylid ffurfio 0.1 môl o galsiwm bromid. Mae pob uned fformiwla o galsiwm bromid yn cynnwys dau ïon bromid, felly bydd 0.2 môl o ïonau bromid. Felly, dyma fydd nifer yr ïonau bromid:
0.2 × 6.02 × 1023 = 1.204 × 1023 ïonau bromid
Downloads
Swm y sylwedd mewn molau Stribed strwythur: taflen myfyriwr
Handout | PDF, Size 0.21 mbSwm y sylwedd mewn molau Stribed strwythur: nodiadau i athrawon
Handout | PDF, Size 0.22 mbSwm y sylwedd mewn molau Stribed strwythur: taflen myfyriwr
Editable handout | Word, Size 0.44 mbSwm y sylwedd mewn molau Stribed strwythur: nodiadau i athrawon
Editable handout | Word, Size 0.45 mb




No comments yet