Dangos y cysylltiad rhwng niwtralu asidau gydag alcalïau, a’r newidiadau mewn crynodiadau ïonig
Dangoswch ditradiad dargludfesurol o fariwm hydrocsid gydag asid sylffwrig(VI) i gryfhau modelau meddyliol eich dysgwyr o ronynnau yn adweithio mewn hydoddiant. Mae’r arbrawf hwn yn ffordd wych o bwysleisio natur ïonig a moleciwlaidd un o’r hafaliadau ïonig cyntaf y mae’r dysgwyr yn debygol o ddod ar ei draws; adwaith niwtralu lle mae ïonau hydrocsid yn adweithio ag ïonau hydrogen.
Gwyliwch y video Cemeg arddangos a lawrlwythwch y nodiadau i dechnegwyr cyn cynnal y niwtraliad asid-alcali, gan ddefnyddio’r daflen waith hon i ddatblygu dealltwriaeth eich dysgwyr o ïonau.
Amcanion dysgu
- Adnabod pa ïonau sydd mewn hydoddiannau asidig ac alcalïaidd.
- Disgrifio’r newidiadau mewn crynodiadau ïonig mewn niwtraliad asid-alcali.
Nodiadau i athrawon
Defnyddiwch y daflen waith titradiad dargludfesurol i helpu eich dysgwyr i ymarfer adnabod yr ïonau sy’n bresennol mewn hydoddiant, ysgrifennu hafaliadau ïonig, a disgrifio’r newidiadau mewn crynodiadau ïonig a geir mewn niwtraliad asid-alcali. Mae’r nodiadau i athrawon yn cynnwys yr atebion i’r cwestiynau. Gellir defnyddio’r rhain yn y dosbarth ar ôl yr arddangosiad neu fel gwaith cartref i gyfnerthu dealltwriaeth eich dysgwyr.
Cwestiynau
1. (a) Beth ydych chi’n galw’r gronynnau mewn hydoddiant sy’n dargludo trydan?
(b) Beth yw enwau’r gronynnau hyn yn y ddau hydoddiant sy’n cael eu defnyddio? Ysgrifennwch y symbolau ar gyfer y gronynnau hyn.
2. (a) Beth sydd wedi digwydd i nifer yr ïonau sy’n bresennol yn yr hydoddiant pan gyrhaeddir y diweddbwynt?
(b) Os mai bariwm sylffad yw’r gwaddod, pa ïonau mae hyn yn eu tynnu o’r hydoddiant?
3. (a) Pa ïonau eraill sy’n bresennol ar ddechrau’r titradiad?
(b) Beth sydd wedi gorfod digwydd i’r ïonau hyn pan gyrhaeddir y diweddbwynt?
4. Ysgrifennwch hafaliad ïonig ar gyfer yr adwaith rhwng yr ïonau a nodir yng nghwestiwn 3.
5. Pam wnaeth yr hydoddiant ddargludo eto pan ychwanegwyd rhagor o fariwm hydrocsid ar ôl y diweddbwynt?
Rhagor o adnoddau
- Ymchwiliwch i’r newidiadau mewn egni sy’n digwydd mewn adweithiau niwtralu gyda’r microscale experiment.
- Defnyddiwch yr CPD article hon ar asidau a basau i fynd i’r afael â chamsyniadau cyffredin ymysg eich dysgwyr.
- Darllenwch y 5 ways to explain titration a darparu’r sgaffald i helpu eich dysgwyr gyda chyfrifiadau titradu.
- Rhannwch y fideo A future in chemistry: making the differenceâ’ch dysgwyr i’w hysbrydoli ac i ddangos iddynt fod cemeg ym mhob man.
Downloads
Taflen waith titradiad asid-alcali dargludfesurol: nodiadau i athrawon
Handout | PDF, Size 0.2 mbTaflen waith titradiad asid-alcali dargludfesurol: taflen myfyriwr
Handout | PDF, Size 0.14 mbTaflen waith titradiad asid-alcali dargludfesurol: nodiadau i athrawon
Editable handout | Word, Size 0.44 mbTaflen waith titradiad asid-alcali dargludfesurol: taflen myfyriwr
Editable handout | Word, Size 0.44 mb
Additional information
Mae’r adnodd hwn yn seiliedig ar daflen waith a gafodd ei chreu’n wreiddiol fel rhan o’r Practical Chemistry project, sydd wedi cael ei ddatblygu gan Sefydliad Nuffield a’r Gymdeithas Gemeg Frenhinol.




No comments yet