Yn yr arbrawf hwn, bydd y dysgwyr yn mesur màs magnesiwm ac yn ei wresogi mewn crwsibl. Drwy gofnodi’r newid mewn màs gallant ddarganfod fformiwla magnesiwm ocsid

  • Tudalennau enghreifftiol sy'n ffurfio'r adnodd hwn

    Lawrlwythwch

    Lawrlwythwch y taflenni gwaith i fyfyrwyr (rhai wedi’u sgaffaldio a heb eu sgaffaldio), a’r canllawiau i athrawon (gan gynnwys yr atebion), ar ffurf MS Word a pdf, a sleidiau’r cyflwyniad ar ffurf MS PowerPoint a pdf.

Mae’r gweithgaredd ymarferol yn cymryd tua 30−45 munud. Os oes angen, gellir hepgor y cam olaf, sef gwresogi nes ceir màs cyson, er mwyn cwtogi’r gwaith ymarferol.

Amcanion dysgu

  1. Ymchwilio’n ddiogel i losgi magnesiwm i gynhyrchu magnesiwm ocsid.
  2. Cofnodi’r newid mewn màs yn gywir.
  3. Egluro pam mae’r màs yn newid.
  4. Defnyddio data i gyfrifo màs fformiwla cymharol magnesiwm ocsid.

Meini prawf llwyddiant

  • Gwresogi’r crwsibl yn ddiogel gyda’r caead arno i atal y llygaid rhag dod i gysylltiad â’r magnesiwm sy’n llosgi (AD1).
  • Defnyddio’r efel yn gywir i drosglwyddo’r crwsibl a’r caead yn ddiogel (efallai bydd angen ymarfer hyn tra mae’n oer) (AD1).
  • Defnyddio’r glorian màs yn gywir i gofnodi masau drwy ddefnyddio’r swyddogaeth pwyso yn gywir (AD2).
  • Egluro’r newid mewn màs drwy gysylltu â gwybodaeth am gadwraeth màs a hafaliadau cytbwys (AD3).
  • Cysylltu gwybodaeth am gadwraeth màs â molau i gyfrifo màs fformiwla cymharol (AD4).

Sgaffaldio

Mae dau fersiwn o’r daflen waith ar gael: wedi’i sgaffaldio a Heb ei sgaffaldio. Mae’r daflen wedi’i sgaffaldio yn cynnig mwy o gymorth i alluogi’r dysgwyr i ddeall y cwestiynau. Mae’r atebion i’r taflenni gwaith ar ddiwedd y nodiadau i athrawon

Mae cyfarwyddiadau integredig ar gael yn sleidiau’r cyflwyniad.

Cymorth fideo ac adnoddau cysylltiedig

Mae’r dull hwn wedi’i gynnwys yn ein fideo Conservation of mass, ynghyd ag adnoddau ategol gan gynnwys y deilliannau a fwriedir, cwestiynau oedi-a-meddwl, taflen waith ddilynol, a stribed strwythur.

Nodiadau i dechnegwyr

Darllenwch ein canllawiau iechyd a diogelwch safonol a chynhaliwch asesiad risg cyn gwneud unrhyw waith ymarferol byw.

Cyfarpar

Cyfarpar

  • Sbectol diogelwch
  • Mynediad at glorian (2 le degol)

Fesul grŵp o ddysgwyr:

  • Crwsibl gyda chaead
  • Gefel
  • Triongl clai
  • Llosgydd Bunsen
  • Trybedd
  • Mat gwrth-wres
  • Papur emeri (dewisol)

Cemegion

  • Rhuban magnesiwm, wedi’i dorri’n ddarnau 5-10 cm o hyd ymlaen llaw. PERYGL: solid fflamadwy. Magnesiwm ffres a glân sydd orau ar gyfer yr arbrawf hwn. Os yw’r magnesiwm wedi’i darneisio, bydd angen i’r dysgwyr ddefnyddio papur emeri neu bapur tywod i’w lanhau.

Iechyd a diogelwch

  • Gwisgwch gyfarpar amddiffyn y llygaid drwy gydol yr arbrawf.
  • Rhuban magnesiwm, Mg(s) PERYGL: solid fflamadwy. Gweler Hazcard HC059a CLEAPSS, edrychwch ar SSERC neu cysylltwch â’ch corff cynghori lleol ar ddiogelwch.
  • Cymerwch gamau i atal y rhuban magnesiwm rhag cael ei ddwyn. Ni ddylid gadael riliau o ruban magnesiwm allan yn y labordy. Mae’n arfer da cael ychydig o ddarnau wedi’u torri ymlaen llaw a rhoi’r rhain i’r dysgwyr yn ôl yr angen.
  • Mae magnesiwm yn llosgi gyda golau gwyn llachar. PEIDIWCH BYTH ag edrych yn syth ar fagnesiwm pan fydd yn llosgi. Sylwer: nid yw edrych drwy fysedd, sbectol haul, gwydr tywyll, gwydr glas na hidlyddion polaroid yn cael ei argymell mwyach.
  • Dylai pob dysgwr fod yn sefyll. Dylai’r dysgwyr sydd â gwallt hir ei glymu’n ôl.
  • Gofynnwch i’r dysgwyr ymarfer rhoi’r caead ar y crwsibl a’i godi oddi arno, a chodi’r crwsibl oddi ar y triongl clai cyn iddynt ddechrau. Mae hyn hefyd yn gwneud yn siŵr bod yr efel yn gweithio’n iawn.
  • Mae’r cyfarpar poeth yn berygl sylweddol yn yr arbrawf hwn. Rhybuddiwch y dysgwyr y bydd hi’n cymryd amser i’r cyfarpar oeri.

Gwaredu

  • Crafwch y magnesiwm ocsid sydd ar ôl yn y crwsibl gan ddefnyddio sbatwla a’i waredu fel gwastraff cyffredinol.
  • Gellir mwydo crwsiblau am ychydig o oriau neu dros nos mewn hydoddiant asid hydroclorig 0.5 mol dm-3. Os oes unrhyw solid yn dal ar y gwaelod, rinsiwch yn drylwyr gan ddefnyddio dŵr distyll.
  • Mae crwsiblau porslen yn tueddu i gracio’n hawdd os cânt eu hailddefnyddio, ystyriwch ddefnyddio crwsiblau dur gwrthstaen yn lle, neu’r dull amgen o CLEAPSS sy’n defnyddio caeadau poteli.

Dull

Ffynhonnell: Y Gymdeithas Gemeg Frenhinol

Y cyfarpar a’r cydosodiad sydd eu hangen i gyfrifo’r newid mewn màs pan fydd magnesiwm yn llosgi

  1. Cymerwch ddarn o fagnesiwm tua 10−15 cm o hyd. Os yw’n edrych wedi’i darneisio neu’n ddu, glanhewch ef gyda’r papur emeri. Troellwch ef i ffurfio coil llac.
  2. Cofnodwch fàs y crwsibl gyda’r caead arno (màs 1) wedyn y crwsibl gyda’r magnesiwm ynddo a’r caead arno (màs 2).
  3. Cydosodwch y llosgydd Bunsen ar y mat gwrth-wres gyda’r drybedd. Rhowch y triongl clai dros y drybedd i wneud siâp seren â chwe phigyn, gan wneud yn siŵr ei fod yn ei le’n saff. Rhowch y crwsibl gyda’r magnesiwm ynddo yn y triongl clai a rhoi’r caead arno.
  4. Taniwch y llosgydd Bunsen a dechreuwch gynhesu’r crwsibl. Mae’n well dechrau gyda fflam las ysgafn, ond bydd angen i chi wedyn ddefnyddio fflam yn rhuo (gyda’r twll aer yn gwbl agored) i gael yr adwaith i fynd.
  5. Pan fydd y crwsibl yn boeth, codwch fymryn ar y caead yn ofalus gyda gefel er mwyn i rywfaint o ocsigen allu mynd i mewn. Efallai byddwch chi’n gweld y magnesiwm yn dechrau fflerio i fyny. Os yw’r caead yn cael ei godi’n rhy hir, yna bydd y cynnyrch magnesiwm ocsid yn dechrau dianc. Peidiwch â gadael i hyn ddigwydd.
  6. Daliwch ati i wresogi ac i godi’r caead nes na allwch chi weld rhagor o adwaith.
  7. Diffoddwch y llosgydd Bunsen a gadewch i’r cyfarpar oeri.
  8. Ail-gofnodwch fàs y crwsibl gyda’r caead arno a gyda’r cynnyrch ynddo (màs 3).
  9. Cynheswch y crwsibl eto am ychydig funudau a gadewch iddo oeri eto. Ailadroddwch y cam hwn nes bydd y darlleniadau màs yn gyson. Gwresogi nes ceir màs cyson yw’r enw am hyn.

Nodiadau i athrawon

Dylai’r dysgwyr fod wedi cofnodi’r masau canlynol:

  • màs 1 = crwsibl + caead
  • màs 2 = crwsibl + caead + magnesiwm
  • màs 3 = crwsibl + caead + cynnyrch

Dylai hyn ganiatáu iddynt gyfrifo màs y magnesiwm (màs 2 – màs 1) a màs y cynnyrch (màs 3 – màs 1). Gallent hefyd gyfrifo’r cynnydd mewn màs (màs 3 – màs 2), sy’n cyfateb i fàs yr ocsigen.

Dyma’r hafaliad:

  • Magnesiwm + ocsigen → magnesiwm ocsid
  • 2Mg + O2 → 2MgO

Bydd y dysgwyr weithiau’n cael canlyniadau ansicr i’r arbrawf hwn. Mae’n werth gwerthuso’r hyn y maent wedi’i wneud gan fod sawl rheswm pam y gallai eu canlyniadau fod yn siomedig:

  • Mae’r cynnyrch magnesiwm ocsid wedi dianc wrth godi’r caead.
  • Nid yw’r holl fagnesiwm wedi adweithio (bydd y cynnyrch yn dal i edrych ychydig yn llwyd yn hytrach na gwyn).
  • Roeddent wedi procio’r cynnyrch gyda sblint felly ni chafodd y cyfan ei bwyso (mwy cyffredin nag y byddech yn ei ddisgwyl).
  • Nid oeddent wedi pwyso’n gywir wrth fesur y màs.
  • Cafodd y magnesiwm ei droelli’n rhy dynn felly ni wnaeth y cyfan adweithio.

Canfod fformiwla magnesiwm ocsid

Dull un

  • I ddod o hyd i fformiwla magnesiwm ocsid, bydd angen i’r myfyrwyr wybod màs y magnesiwm a màs yr ocsigen. Bydd angen y masau atomig cymharol arnynt hefyd. 24 yw magnesiwm ac 16 yw ocsigen.
  • Dylent rannu’r màs â’r màs atomig ar gyfer pob elfen. Mae hyn yn rhoi nifer y molau o bob un.
  • Ar ôl gwneud hyn ar gyfer y ddwy elfen, dylent ddod o hyd i’r gymhareb rhwng y ddwy drwy eu rhannu â’r rhif lleiaf.
  • Dylai’r gymhareb fod yn agos at 1:1 gan mai fformiwla magnesiwm ocsid yw MgO.
  • Enghraifft o gyfrifiad:
    • Màs magnesiwm = 2.39 g
    • Màs magnesiwm ocsid = 3.78 g
    • Felly, màs ocsigen = 1.39 g
    • Nifer y molau o Mg = 2.39/24 = 0.0995
    • Nifer y molau o O = 1.39/16 = 0.0868
    • Rhannwch â’r lleiaf i roi’r gymhareb, tua 1 Mg : 1 O
    • Byddai hyn yn awgrymu fformiwla o MgO, sef y fformiwla gywir

Dull dau

Ffynhonnell: Y Gymdeithas Gemeg Frenhinol

Graff yn dangos màs y magnesiwm a màs yr ocsigen sydd wedi cyfuno ag ef. Echelin x yw màs y magnesiwm mewn gramau ac echelin y yw màs yr ocsigen mewn gramau. Mae’r llinell yn cynrychioli’r fformiwla MgO, cymhareb 1:1.

  • Bydd ar y dysgwyr angen màs y magnesiwm a màs yr ocsigen sydd wedi cyfuno ag ef. Bydd angen i chi gael copi o’r graff ar gyfer y dosbarth. Bydd angen i grwpiau ddefnyddio gwahanol hydoedd o fagnesiwm er mwyn plotio canlyniadau ar hyd y llinell.
  • Bydd yr holl ddysgwyr yn plotio eu masau magnesiwm ac ocsigen ar y graff. Dylai’r rhan fwyaf o ganlyniadau’r dosbarth fod ar neu wrth ymyl y llinell sy’n cynrychioli’r fformiwla MgO, cymhareb o 1:1. Mae hyn yn dangos unrhyw ganlyniadau anomalaidd yn glir a bydd yn helpu i ddarbwyllo’r dysgwyr sydd wedi cael eu siomi gan gymhareb 1:1.25, er enghraifft, mai’r fformiwla gywir go iawn yw MgO.

Cwestiynau dilynol  

Mae atebion i’r cwestiynau dilynol ar y taflenni gwaith i fyfyrwyr ar ddiwedd y nodiadau i athrawon.

Rhagor o adnoddau

Rhowch fwy o gyd-destun ac ysbrydolwch eich dysgwyr gyda’n fideos gyrfaoedd byr sy’n dangos sut mae cemeg yn gwneud gwahaniaeth.