Ymarfer ysgrifennu fformiwlâu ar gyfer cyfansoddion ïonig ac adolygu ïonau positif ac ïonau negatif cyffredin gan ddefnyddio’r cynllun gwers hwn gyda gweithgareddau
Daw’r adnodd hwn o’r gyfres Asesu ar gyfer dysgu, sy’n cynnwys cynlluniau gwersi ac adnoddau cysylltiedig er mwyn cynnwys myfyrwyr yn weithredol yn eu dysgu.
-
Lawrlwythwch
Ysgrifennu fformiwlâu ar gyfer cyfansoddion ïonig, ar gyfer yr ystod oedran 14–16
Mae’r lawrlwythiadau’n cynnwys dilyniant addysgu a sleidiau gwersi; cardiau ïonau rhyngweithiol i’w hargraffu a’u torri allan; taflenni gwaith safonol a heriol i fyfyrwyr; canllawiau ac atebion i athrawon.
Gweld a lawrlwytho rhagor o Gynlluniau gwersi
Yn y gweithgaredd hwn, mae cardiau fformiwlâu ïonau yn helpu’r dysgwyr i wirio, cyfnerthu a dangos eu gallu i ysgrifennu fformiwlâu cywir ar gyfer cyfansoddion ïonig. Bydd dysgwyr yn cydweithio mewn grwpiau i ddangos eu bod wedi meistroli’r syniadau. Pan fydd gwaith un grŵp wedi cael ei wirio, byddant yn asesu grwpiau eraill er mwyn i’r dysgu raeadru o amgylch yr ystafell ddosbarth.
Amcanion dysgu
- Cofio enwau a fformiwlâu ïonau positif ac ïonau negatif cyffredin.
- Ysgrifennu fformiwlâu cyfansoddion ïonig.
Dilyniant o weithgareddau
Cyflwyniad (sleidiau 2–4)
- Dangoswch y delweddau o fagnesiwm nitrid a magnesiwm nitrad.
- Gofynnwch i’r dysgwyr beth sy’n wahanol rhwng y cyfansoddion. Anogwch nhw i fynd y tu hwnt i’r delweddau, i feddwl beth mae’r enwau’n ei olygu. Anogwch y dysgwyr i gofio enghreifftiau eraill o ‘-idau’ ac ‘-adau’ e.e. sylffid, sylffad. Pam nad oes gan ocsigen ‘ocsad’?
- Trafodwch y gwahaniaeth rhwng y ddwy fformiwla. Gall y dysgwyr drafod y gwahanol elfennau a faint sydd yna. Arweiniwch y dysgwyr i feddwl am yr ïonau – mae’r ddau yn cynnwys ïonau Mg2+, ond beth sy’n wahanol am yr ïon negatif? Sut mae hyn yn effeithio ar y fformiwla ïonig gyffredinol?

Gweithgaredd 1: fformiwlâu ïonau (sleidiau 6–7)
- Trefnwch y dysgwyr yn grwpiau o bedwar a gofynnwch iddynt gwblhau Gweithgaredd 1 ar eu taflenni i fyfyrwyr drwy ychwanegu enwau’r ïonau sydd wedi’u rhestru. Gallwch roi’r daflen safonol i fyfyrwyr (MS Word | PDF) neu’r daflen herio (MS Word | PDF) i’r dysgwyr.
- Pan fydd un grŵp yn credu ei fod wedi cwblhau’r dasg hon yn llwyddiannus, gwiriwch eu gwaith. Os byddant yn llwyddiannus, dylech eu dynodi’n ‘grŵp arbenigol’. Rhowch yr awdurdod i aelodau’r grŵp hwn wirio gwaith y grwpiau eraill.
- Caniatewch i’r broses wirio raeadru.
- Gofynnwch i’r dysgwyr hunanasesu eu gwaith drwy ddefnyddio’r atebion sydd ar y sgrin.
Cyfuno fformiwlâu (sleidiau 8–13)
Rhowch fwrdd gwyn bach i bob dysgwr. Ar gyfer pob un o’r tair enghraifft, gofynnwch i’r dysgwyr wneud y canlynol:
- Ysgrifennu fformiwlâu’r ïonau positif a negatif.
- Ysgrifennu fformiwlâu’r cyfansoddion ïonig.
Defnyddiwch y siapiau i helpu i egluro i’r dysgwyr. Pwysleisiwch fod angen defnyddio rhifau sy’n is-nodau a phryd bydd angen bachau.
Gweithgaredd 2: fformiwlâu ar gyfer cyfansoddion ïonig (sleidiau 14–15)

- Rhowch y cardiau fformiwlâu ïonau i’r dysgwyr (ar ddiwedd y canllawiau i athrawon, MS Word | PDF) Gofynnwch iddynt: drefnu’r cardiau i ffurfio fformiwlâu’r cyfansoddion ïonig ar eu taflen ac yna ysgrifennu fformiwlâu’r cyfansoddion ïonig.
- Yn yr un modd ag o’r blaen, pan fydd un grŵp wedi gorffen, gwiriwch eu gwaith drwy ddefnyddio cwestiynau ar hap. Os bydd grŵp yn ateb pum cwestiwn yn gywir, dylech eu dynodi’n ‘grŵp arbenigol’. Rhowch yr awdurdod i aelodau’r grŵp hwn wirio gwaith grwpiau eraill a’u dynodi hwythau’n ‘grŵp arbenigol’.
- Caniatewch i’r broses wirio raeadru.
- Gofynnwch i’r dysgwyr hunanasesu eu gwaith drwy ddefnyddio’r atebion sydd ar y sgrin.
Sylwer: mae’r daflen i fyfyrwyr yn cynnwys y cyfansoddyn ïonig sodiwm hydrogen carbonad, nad yw’n ymddangos mewn rhai manylebau. Dylai’r dysgwyr allu cwblhau’r gweithgaredd drwy gymhwyso’r un egwyddorion ag sydd ganddynt i’r enghreifftiau eraill ond gallwch ddewis newid y cyfansoddyn ïonig am un arall yn dibynnu ar y bwrdd arholi a’r fanyleb e.e. amoniwm carbonad.
Adolygu (sleid 16)
Gyda’r dosbarth cyfan, gofynnwch i’r dysgwyr wneud y canlynol:
- Ysgrifennwch yr ïonau sydd mewn magnesiwm nitrid ac yna mewn magnesiwm nitrad (adolygu o’r cyflwyniad).
- Cymharwch hyn â’r hyn a drafodwyd ar ddechrau’r wers.
- Gofynnwch i’r dysgwyr ysgrifennu esboniad byr o’r gwahaniaethau rhwng fformiwlâu magnesiwm nitrid a magnesiwm nitrad. Anogwch y dysgwyr i luniadu diagramau, tebyg i’r rhai a ddefnyddiwyd yng Ngweithgaredd 2.
- Gofynnwch i’r dysgwyr sydd wedi cwblhau’r gwaith estyn ar y dechrau i wneud yr un fath ar gyfer unrhyw ‘idau’ ac ‘adau’ eraill roeddent wedi’u rhestru.
Sylwebaeth
Defnyddiwch y cyflwyniad ‘nitrad neu nitrid’ i ddangos i’r dysgwyr sut mae cyfansoddion yn wahanol ar sail eu henwau a’u fformiwlâu, a phwysigrwydd ‘id’ neu ‘ad’ mewn fformiwlâu cemegol.
Yn y ddau brif weithgaredd, gofynnwch i’r dysgwyr helpu ac asesu ei gilydd, gan ddefnyddio awgrymiadau gweledol fel cardiau ïonau i’w helpu i ddeall.
Drwy ddefnyddio’r dasg o werthuso personol, gofyn i’r dysgwyr ddefnyddio’r byrddau gwyn bach, yn ogystal â dychwelyd at y dasg gychwynnol ar ddiwedd y wers, byddwch yn rhoi hwb i hyder y dysgwyr y gallant wella.
Sgaffaldio
Rhowch fformiwla ïonig magnesiwm nitrid a magnesiwm nitrad (sleid 3) i’r dysgwyr yn ystod y cyflwyniad i’w hannog i sylwi ar y gwahaniaethau yn yr elfennau sydd ynddynt.
Ar gyfer Gweithgaredd 1, gallwch roi’r daflen safonol (MS Word | PDF) i’r dysgwyr, sy’n cynnwys fformiwlâu’r ïonau, a dim ond cwblhau’r enwau fydd angen ei wneud.
Fel arall, rhowch y daflen herio (MS Word | PDF) iddynt, sy’n gofyn i’r dysgwyr gwblhau cymysgedd o enwau ïonau a’u fformiwlâu.
Ar gyfer Gweithgaredd 2, gallwch benderfynu a oes angen i’r dysgwyr ddefnyddio’r cardiau ïonau, ar sail eu dealltwriaeth o’r tair enghraifft i’r dosbarth cyfan.
Gallwch ofyn i’r dysgwyr greu rhagor o fformiwlâu ïonig gan ddefnyddio’r cardiau fel cyfle am waith estyn.
Atebion
Dyma’r fformiwlâu sy’n ymddangos yn yr adnodd:
- Magnesiwm carbonad – MgCO3
- Arian nitrad – AgNO3
- Calsiwm bromid – CaBr2
- Copr hydrocsid – Cu(OH)2
- Haearn(II) nitrad – Fe(NO3)2
- Haearn(III) iodid – FeI3
- Plwm sylffad – PbSO4
- Sinc nitrad – Zn(NO3)2
- Potasiwm sylffad – K2SO4
- Magnesiwm sylffid – MgS
- Alwminiwm hydrocsid – Al(OH)3
- Amoniwm clorid – NH4Cl
- Sodiwm hydrogen carbonad – NaHCO3
- Haearn(III) carbonad – Fe2(CO3)3
Downloads
Ysgrifennu fformiwlâu ar gyfer cyfansoddion ïonig: nodiadau i athrawon
Handout | PDF, Size 0.52 mbYsgrifennu fformiwlâu ar gyfer cyfansoddion ïonig: taflen myfyriwr wedi ei sgaffaldio
Editable handout | PDF, Size 0.22 mbYsgrifennu fformiwlâu ar gyfer cyfansoddion ïonig: taflen myfyriwr
Handout | PDF, Size 0.22 mbYsgrifennu fformiwlâu ar gyfer cyfansoddion ïonig: sleidiau dosbarth
Presentation | PDF, Size 0.8 mbYsgrifennu fformiwlâu ar gyfer cyfansoddion ïonig: nodiadau i athrawon
Editable handout | Word, Size 0.79 mbYsgrifennu fformiwlâu ar gyfer cyfansoddion ïonig: taflen myfyriwr wedi ei sgaffaldi
Editable handout | Word, Size 0.47 mbYsgrifennu fformiwlâu ar gyfer cyfansoddion ïonig: taflen myfyriwr
Editable handout | Word, Size 0.46 mbYsgrifennu fformiwlâu ar gyfer cyfansoddion ïonig: sleidiau dosbarth
Presentation | PowerPoint, Size 31.23 mb
Additional information
Yn wreiddiol, roedd y cynllun gwers hwn yn rhan o’r wefan Asesu ar gyfer dysgu, a chafodd ei gyhoeddi yn 2008. Cafodd ei ddiweddaru yn 2011 gan Louise Glynn a Kirsty Patterson.
Mae Asesu ar gyfer Dysgu yn ffordd effeithiol o gynnwys myfyrwyr yn weithredol yn eu dysgu. Mae pob cynllun sesiwn yn cynnwys awgrymiadau ar sut mae trefnu gweithgareddau a thaflenni gwaith y gellir eu defnyddio gyda myfyrwyr.




No comments yet