Gall gemau a chystadlaethau cyfeillgar amrywio’r ymarfer sydd ei angen er mwyn dod yn gyfarwydd â’r termau atom, ïon a moleciwl

Mae’r adnodd hwn yn cyd-fynd â’r erthygl DPP Education in Chemistry  How to teach atoms, molecules and ions.

  • Example pages from the student worksheet and teacher notes that make up this resource

    Lawrlwythwch

    Lawrlwythwch gyfarwyddiadau, grid a chardiau annog i chwarae gêm 4-mewn-llinell gydag atomau, moleciwlau ac ïonau.

Sut mae defnyddio’r adnodd hwn

Mae’r gêm hon ar gyfer yr ystafell ddosbarth yn seiliedig ar y gêm glasurol Connect 4. Parwch y symbol neu’r diagram gronynnau â’r math o ronyn y mae’n ei gynrychioli. Y cyntaf i gael 4-mewn-llinell fydd yn ennill!

Bydd y dysgwyr yn gweithio mewn parau a bydd arnynt angen copi o’r grid 4-mewn-llinell a set o gardiau chwarae wedi’u shifflo. Dylid gosod y cardiau mewn pentwr, wyneb i lawr, rhwng y ddau chwaraewr.

Yn eu tro, bydd angen i’r dysgwyr droi cerdyn a phenderfynu a yw’n cynrychioli atom, moleciwl ynteu ïon. Os nad yw’r naill chwaraewr na’r llall yn sicr, gallwch chi gadarnhau’r math o ronyn. Os yw’r chwaraewr yn gywir, bydd angen iddo ganfod yr ateb yn unrhyw le ar y grid a naill ai lliwio’r cylch neu roi cownter personol drosto. Os yw’r dysgwr yn anghywir, neu os nad yw’n gwybod yr ateb, rhaid iddo roi’r cerdyn ar waelod y pentwr.

Y chwaraewr cyntaf i gael pedwar cylch mewn llinell (yn llorweddol, yn fertigol neu’n groesgornel) yn unrhyw le ar y grid fydd yn ennill.

Downloads