Adolygwch ddealltwriaeth eich dysgwyr o syniadau, geiriau ac ymadroddion allweddol sy’n ymwneud ag atomau ac ïonau
Mae’r adnodd hwn yn cynnwys tri fersiwn gwahanol o daflen waith ar atomau ac ïonau: un wedi’i sgaffaldio, un wedi’i sgaffaldio’n rhannol ac un heb ei sgaffaldio. Defnyddiwch y taflenni gwaith i ganfod bylchau yng ngwybodaeth y dysgwyr a chamsyniadau ar ôl i chi ddysgu’r rhan hon o’r cwricwlwm. Dysgwch ragor am sut mae defnyddio’r adnodd hwn neu lawrlwythwch y taflenni gwaith isod.
-
Lawrlwythwch
Taflenni gwaith i fyfyrwyr – un wedi’i sgaffaldio, un wedi’i sgaffaldio’n rhannol ac un heb ei sgaffaldio.
Mae atebion enghreifftiol ar gael yn y canllawiau i athrawon.
Gweld a lawrlwytho rhagor o daflenni gwaith Adolygu fy nysgu.
Pynciau’r cwricwlwm
Mae’r taflenni gwaith hyn yn ymdrin â’r pynciau canlynol:
- colli ac ennill electronau i greu ïonau
- ffurfwedd electronig atomau ac ïonau
- lluniadu diagramau dot a chroes o ïonau
- defnyddio’r ïonau i gyfrifo fformiwlâu cyfansoddion ïonig.
Os bydd y dysgwyr yn ateb cwestiynau am y pynciau hyn yn llwyddiannus, gallant roi cynnig ar y cwestiwn estyn. Mae’r cwestiwn hwn yn gofyn i’r dysgwyr ddefnyddio gwybodaeth i gwblhau diagram dot a chroes ar gyfer dau gyfansoddyn ïonig arall.
Sut mae defnyddio’r adnodd hwn
Gellir defnyddio’r taflenni gwaith mewn sawl ffordd:
- i asesu gwybodaeth y dysgwyr ar ddechrau neu ddiwedd cyfnod o addysgu. Parwch lefel y daflen waith ag anghenion cymorth y dysgwyr;
- i asesu gwybodaeth yn ystod cyfnod o addysgu ar ôl i’r dysgwyr gwblhau’r pwnc perthnasol;
- fel rhan o’r adolygu;
- fel ymarfer gloywi ar gyfer athrawon neu bobl nad ydynt yn arbenigo yn y pwnc.
Sgaffaldio
Mae tair lefel o gymorth ar gael, gan ddarparu opsiynau yn dibynnu ar anghenion cymorth amrywiol y dysgwyr. Darperir fersiwn y gellir ei olygu o bob taflen waith, gan roi rhagor o gyfleoedd i addasu’r adnoddau i ddiwallu anghenion dysgu unigolion. Hefyd, mae modd cynyddu lefel y taflenni gwaith a ddefnyddir, wrth i’r dysgwyr symud ymlaen drwy eu cwricwlwm.
Dysgu annibynnol a metawybyddiaeth
Mae’r dudalen ‘Beth ydw i’n ei ddeall?’ yn cael ei chynnwys ym mhob taflen waith. Mae’r dysgwyr yn cael eu hannog i ddatblygu sgiliau dysgu annibynnol a gallant ddefnyddio eu myfyrdod fel canllaw ar gyfer adolygu. Bydd yr adborth hefyd yn eich helpu i adnabod meysydd y mae angen rhoi sylw iddynt gyda’r dosbarth cyfan.
Atebion
Mae’r canllawiau i athrawon yn rhoi atebion enghreifftiol ar gyfer pob cwestiwn, yn ogystal ag arweiniad ar gamsyniadau cyffredin dysgwyr. Gall y dysgwyr ddefnyddio’r atebion enghreifftiol i asesu eu cyd-ddisgyblion neu i hunanasesu.
Downloads
Atomau ac ïonau: taflen myfyriwr
Handout | PDF, Size 0.4 mbAtomau ac ïonau: taflen myfyriwr wedi ei rhannol sgaffaldio
Handout | PDF, Size 0.45 mbAtomau ac ïonau: taflen myfyriwr wedi ei sgaffaldio
Handout | PDF, Size 0.45 mbAtomau ac ïonau: nodiadau i athrawon
Handout | PDF, Size 0.58 mbAtomau ac ïonau: taflen myfyriwr
Editable handout | Word, Size 0.33 mbAtomau ac ïonau: taflen myfyriwr wedi ei rhannol sgaffaldio
Editable handout | Word, Size 0.35 mbAtomau ac ïonau: taflen myfyriwr wedi ei sgaffaldio
Editable handout | Word, Size 0.37 mbAtomau ac ïonau: nodiadau i athrawon
Editable handout | Word, Size 0.49 mb




No comments yet