Cefnogi eich dysgwyr i ddatblygu modelau meddyliol a dyfnhau eu dealltwriaeth o gymhareb y niferoedd mawr iawn o atomau neu foleciwlau sydd mewn hafaliadau cemegol cytbwys

Cyfres o adnoddau yw Datblygu dealltwriaeth, sy’n annog y dysgwyr i gysylltu eu ffordd o feddwl ar y lefelau macrosgopig, is-ficrosgopig a symbolaidd.

  • Tudalennau enghreifftiol sy'n ffurfio'r adnodd hwn

    Lawrlwythwch

    Taflen waith datblygu dealltwriaeth

    Taflen waith raddol i helpu’r dysgwyr i ddatblygu eu modelau meddyliol o gymarebau mewn hafaliadau cemegol cytbwys. Gydag eiconau i ddangos lefelau cysyniadol pob cwestiwn.

Amcanion dysgu

  1. Disgrifio beth mae hafaliad cemegol cytbwys yn ei olygu o ran y gymhareb rhwng atomau neu foleciwlau o adweithyddion a chynhyrchion.
  2. Egluro pam nad yw màs y carbon deuocsid sy’n cael ei ffurfio yn hafal i fàs y carbon sy’n adweithio.
  3. Cyfrifo màs nifer penodol o folau o garbon, ocsigen a charbon deuocsid.
  4. Cyfrifo màs cynnyrch sy’n cael eu ffurfio ar sail màs penodol o adweithydd gan ddefnyddio hafaliad cemegol gyda chymhareb o 1:1.
  5. Cyfrifo màs cynnyrch sy’n cael eu ffurfio ar sail màs penodol o adweithydd gan ddefnyddio hafaliad cemegol gyda chymhareb o 1:2.

Sut mae defnyddio’r adnodd hwn

Nod yr adnodd hwn yw datblygu dealltwriaeth y dysgwyr o hafaliadau cemegol cytbwys a beth y mae hyn yn ei olygu ar y lefel is-ficrosgopig o ran y gymhareb o nifer mawr iawn o nifer (a fesurir mewn molau) o atomau neu foleciwlau sy’n adweithio neu’n cael eu cynhyrchu. Mae’r cwestiynau’n annog y dysgwyr i feddwl am sut mae’r màs mesuredig o adweithyddion neu gynhyrchion yn gysylltiedig â nifer y molau o atomau neu foleciwlau. Dylai’r modelau meddyliol mwyaf cadarn a ddatblygir helpu’r dysgwyr i ddeall cyfrifiadau o fàs y cynnyrch sy’n cael ei ffurfio o fàs penodol o adweithydd gan ddefnyddio hafaliadau cemegol gyda chymarebau 1:1 ac 1:2.

  • Pryd i’w defnyddio? Defnyddiwch y daflen waith ar ôl yr addysgu cychwynnol neu’r drafodaeth gychwynnol ar y pwnc hwn i ddatblygu syniadau ymhellach. Gallwch hefyd ei defnyddio fel gweithgaredd adolygu.
  • Maint y grŵp? Mae’n addas ar gyfer gwaith annibynnol yn y dosbarth neu gartref. Neu defnyddiwch y cwestiynau ar gyfer trafodaethau grŵp neu ddosbarth.
  • Pa mor hir? 15–30 munud

Triongl Johnstone

Model o dair lefel gysyniadol wahanol mewn cemeg yw triongl Johnstone: macrosgopig, symbolaidd ac is-ficrosgopig. Gallwch ddefnyddio triongl Johnstone i feithrin dealltwriaeth gadarn o syniadau cemegol ymhlith eich dysgwyr.

Cyflwynwch y dysgwyr i driongl Johnstone gyda’n taflen waith Tun o dun ocsid: triongl Johnstone sy’n arwain y dysgwyr i ystyried sut mae tun a thun ocsid yn edrych yn wahanol; dangos eu bod yn deall sut mae cynrychioli’r broses o echdynnu tun o’r cyfansoddyn gyda symbolau mewn hafaliad symbolau cytbwys cyn mynd i’r afael â chyfrifiadau sy’n cynnwys màs, màs fformiwla cymharol a molau.

Darllen pellach 

Darllenwch fwy am sut mae defnyddio triongl Johnstone yn eich gwaith addysgu gyda’r erthyglau hyn:

Mae llyfr Norman Reid The Johnstone Triangle: the key to understanding chemistry yn rhoi trosolwg manylach, ac mae’r bennod gyntaf ar gael i’w darllen ar-lein.

Triongl Johnstone a’r adnodd hwn

Mae’r eiconau ar yr ymylon yn dangos pa lefel o ddealltwriaeth y mae pob cwestiwn yn ei datblygu i helpu i annog y dysgwyr i feddwl.

  • Macrosgopig: beth allwn ni ei weld. Meddyliwch am y priodweddau y gallwn eu harsylwi, eu mesur a’u cofnodi.
  • Is-ficrosgopig: llai nag y gallwn ei weld. Meddyliwch am y lefel ronynnol neu atomig.
  • Symbolaidd: cynrychioliadau. Meddyliwch sut rydym yn cynrychioli syniadau cemegol gan gynnwys symbolau a diagramau.

Mae’r lefelau’n gysylltiedig â’i gilydd, er enghraifft, mae angen i’r dysgwyr gael cynrychioliad gweledol o’r lefel is-ficrosgopig er mwyn datblygu modelau meddyliol o’r lefel ronynnol neu’r lefel atomig. Ein dull gweithredu yw defnyddio eiconau ar gyfer y cwestiynau yn seiliedig ar yr hyn y dylai’r dysgwyr fod yn meddwl amdano.

Mae’n bosibl y bydd y cwestiynau wedi’u labelu â dau eicon neu â phob un o’r tri eicon, sy’n dangos y bydd y dysgwyr yn meddwl ar fwy nag un lefel. Fodd bynnag, mae’n bosibl y bydd rhannau unigol o’r cwestiwn yn gofyn i’r dysgwyr feddwl am un neu ddwy lefel benodol ar y tro.

Cefnogaeth

Mae’r daflen waith hon yn un raddol, felly mae’r cwestiynau cynharach yn fwy hygyrch. Mae’r gweithgaredd yn dod yn fwy heriol wrth i’r cwestiynau fynd yn eu blaenau. Gallwch roi esboniadau ychwanegol ar gyfer y cwestiynau mwy heriol. Os ydych yn cwblhau’r daflen waith fel gweithgaredd yn y dosbarth, mae’n well oedi o bryd i’w gilydd a gwneud yn siŵr bod pawb yn deall, gan fod y cwestiynau’n adeiladu ar sail y cwestiwn blaenorol yn aml.

Mae’n ddefnyddiol i’r dysgwyr arsylwi priodweddau macrosgopig drostynt eu hunain. Gallech chi rannu enghreifftiau o un môl o sylwedd o gwmpas yr ystafell ddosbarth, cynnal adwaith cemegol ymarferol yn y dosbarth, neu roi arddangosiad athro o’r priodweddau.

Rhowch fodelau ffisegol i’r dysgwyr eu defnyddio a’u trin, fel cit Molymod™ neu gownteri.

Efallai y bydd angen cymorth ychwanegol ar unrhyw ddysgwyr sy’n dal yn ddihyder yn defnyddio’r cynrychioliad symbolaidd gofynnol, er enghraifft, rhannu ac egluro diagram neu efelychiad sy’n gallu dangos ymsymudiad y gronynnau.

Atebion a chanllawiau

Mae pedwar cwestiwn aml-ran yn y daflen waith i fyfyrwyr. Mae’r atebion i’w gweld yn y canllawiau i athrawon.

Mae cwestiwn un yn dechrau drwy ddatblygu dealltwriaeth y dysgwyr o sut mae hafaliad cemegol cytbwys (dealltwriaeth symbolaidd) yn dangos ym mha gymhareb mae’r atomau a’r moleciwlau yn adweithio ac yn cael eu cynhyrchu (dealltwriaeth is-ficrosgopig). Yna, mae gofyn i’r dysgwyr bennu masau adweithyddion a chynhyrchion (dealltwriaeth facrosgopig) gyda’r un nifer o atomau neu foleciwlau (dealltwriaeth is-ficrosgopig). Mae hyn yn cefnogi’r dysgwyr i ddeall pam nad yw 12 g o garbon yn cynhyrchu 12 g o garbon deuocsid.

Yng nghwestiwn dau, mae’r dysgwyr yn datblygu hyder wrth gyfrifo màs (dealltwriaeth facrosgopig) gwahanol niferoedd o folau (dealltwriaeth is-ficrosgopig) carbon, ocsigen a charbon deuocsid.

Mae cwestiwn tri yn datblygu dealltwriaeth y dysgwyr o sut gellir pennu nifer y molau o adweithydd (dealltwriaeth is-ficrosgopig) o’i fàs (dealltwriaeth facrosgopig). Mae’r cwestiwn wedyn yn gofyn i’r dysgwyr ddefnyddio’r gymhareb a roddir gan yr hafaliad cemegol cytbwys (dealltwriaeth symbolaidd) i bennu nifer y molau o gynnyrch sy’n cael eu ffurfio (dealltwriaeth is-ficrosgopig). Yna, rhaid i’r dysgwyr gyfrifo màs y cynnyrch sy’n cael ei ffurfio (dealltwriaeth facrosgopig).

Mae’r adwaith cemegol a ddefnyddir yng nghwestiwn pedwar yn ymestyn dealltwriaeth y dysgwyr o’r gymhareb 1:1 yng nghwestiwn 3 i gymhareb 1:2.