Defnyddiwch driongl Johnstone i helpu’r dysgwyr i archwilio tri chyflwr mater

  • Tudalennau enghreifftiol sy'n ffurfio'r adnodd hwn

    Lawrlwythwch

    Taflen waith triongl Johnstone, ar gyfer ystod oedran 14-16

    Defnyddiwch y daflen waith hon i fyfyrwyr i gyflwyno diagramau gronynnau o ddŵr ar dair lefel gysyniadol wahanol yn seiliedig ar arsylwadau’r dysgwyr.

Amcanion dysgu

  1. Disgrifio priodweddau macrosgopig dŵr fel solid, hylif a nwy.
  2. Lluniadu diagramau gronynnau i gynrychioli solidau, hylifau a nwyon.
  3. Egluro’r gwahaniaethau rhwng solidau, hylifau a nwyon gan ddefnyddio diagramau gronynnau.

Sut mae defnyddio triongl Johnstone

Melting ice cubes on white background

Ffynhonnell: Shutterstock

Sut mae modd defnyddio diagramau gronynnau i gynrychioli ciwbiau iâ sy’n ymdoddi’n bwll o ddŵr?

Defnyddiwch driongl Johnstone i ddatblygu ffordd y dysgwyr o feddwl am gysyniadau gwyddonol ar dair lefel gysyniadol wahanol:

  • Macrosgopig: beth allwn ni ei weld. Meddyliwch am y priodweddau y gallwn eu harsylwi, eu mesur a’u cofnodi.
  • Is-ficrosgopig: yn llai nag y gallwn ei weld. Meddyliwch am y lefel ronynnol neu atomig.
  • Symbolaidd: cynrychioliadau. Meddyliwch sut rydym yn cynrychioli syniadau cemegol gan gynnwys symbolau a diagramau.

Er mwyn i’r dysgwyr wella eu hymwybyddiaeth o bwnc, mae angen iddynt ei ddeall ar y tair lefel.

Wrth gyflwyno pwnc, peidiwch â cheisio cyflwyno’r holl lefelau o feddwl ar unwaith. Bydd hyn yn gorlwytho’r cof gweithredol. Yn hytrach, cwblhewch y triongl dros gyfres o wersi, gan ddechrau gyda’r lefel facrosgopig ac wedyn cyflwyno lefelau eraill, yn eu tro, ar ôl sicrhau bod pethau’n iawn.

Mae’r holl lefelau’n gysylltiedig â’i gilydd. Er enghraifft, mae angen i’r dysgwyr gael cynrychioliad gweledol o’r is-ficrosgopig er mwyn datblygu modelau meddyliol o’r lefel ronynnol neu’r lefel atomig.

Darllen pellach 

Darllenwch fwy am sut mae defnyddio triongl Johnstone yn eich gwaith addysgu gyda’r erthyglau hyn:

Mae llyfr Norman Reid, The Johnstone Triangle: The Key to Understanding Chemistry, yn rhoi trosolwg manylach, ac mae’r bennod gyntaf ar gael i’w darllen ar-lein.

Sgaffaldio

Mae’n bwysig rhannu fframwaith y triongl â’r dysgwyr cyn ei ddefnyddio. Dywedwch wrthynt pam eich bod eisiau iddynt ddefnyddio’r triongl a sut bydd yn eu helpu i ddatblygu eu dealltwriaeth. Defnyddiwch ddull ‘rydw i’n rhoi cynnig arni, rydyn ni’n rhoi cynnig arni, rydych chi’n rhoi cynnig arni’ wrth gyflwyno triongl Johnstone am y tro cyntaf.