Asesu gwybodaeth a dealltwriaeth y dysgwyr am gydbwyso hafaliadau cemegol

Cymysgedd o gwestiynau amlddewis, ateb byr, ateb hir a llenwi’r bylchau gyda marciau wedi eu dyrannu.

Gwybodaeth am yr adnodd hwn

Mae’r taflenni gwaith Gwirio gwybodaeth hyn yn rhoi cyfres o gwestiynau i asesu gwybodaeth a dealltwriaeth y dysgwyr am hafaliadau cemegol cytbwys ar ddiwedd cyfnod o addysgu neu er mwyn adolygu.

Maent ar gael ar lefel sylfaen ac uwch ac fel fersiynau y gellir eu golygu’n llawn er mwyn i chi allu eu haddasu i gyd-fynd ag anghenion y dysgwyr. Defnyddiwch y rhain ar gyfer gwaith myfyrwyr unigol yn y dosbarth neu gartref.

Maent yn cynnwys:

  • deall fformiwlâu cemegol
  • ysgrifennu fformiwlâu cemegol
  • symbolau cyflwr
  • cydbwyso hafaliadau
  • cydbwyso hafaliadau ïonig (uwch yn unig)