Adolygwch ddealltwriaeth eich dysgwyr o syniadau, geiriau ac ymadroddion allweddol sy’n ymwneud â’r model gronynnau
Mae’r adnodd hwn yn cynnwys tri fersiwn gwahanol o daflen waith ar y model gronynnau: un wedi ei sgaffaldio, un wedi ei sgaffaldio’n rhannol ac un heb ei sgaffaldio. Defnyddiwch y taflenni gwaith i nodi bylchau gwybodaeth a chamsyniadau’r dysgwyr ar ôl addysgu neu cyn ailedrych ar y pynciau hyn. Dysgwch ragor am sut mae defnyddio’r adnodd hwn neu lawrlwythwch y taflenni gwaith isod.
-
Lawrlwythwch
Lawrlwythwch y taflenni gwaith i fyfyrwyr wedi eu sgaffaldio, wedi eu sgaffaldio’n rhannol a heb eu sgaffaldio.
Mae atebion enghreifftiol ar gael yn y canllawiau i athrawon.
Gweld a lawrlwytho mwy o daflenni gwaith Adolygu fy ngwaith dysgu
Pynciau’r cwricwlwm
Mae’r taflenni gwaith Model gronynnau yn ymdrin â’r pynciau a ganlyn:
- cyflwr mater
- trefniant gronynnau mewn solidau, hylifau a nwyon
- enwau ar newidiadau mewn cyflwr
- egni cymharol gronynnau mewn solidau, hylifau a nwyon
- newidiadau yn yr egni cinetig pan fydd sylweddau’n newid cyflwr
- ymdoddbwynt a berwbwynt
- defnyddio data ymdoddbwynt a berwbwynt i ddiddwytho cyflwr sylwedd ar dymheredd penodol.
Os bydd y dysgwyr yn ateb cwestiynau am y pynciau hyn yn llwyddiannus, gallant roi cynnig ar y cwestiwn estyn. Mae gofyn i’r dysgwyr ddefnyddio data ymdoddbwynt a berwbwynt i lenwi tabl sy’n nodi cyflwr sylwedd ar wahanol dymereddau.
Sut mae defnyddio’r adnodd hwn
Gellir defnyddio’r taflenni gwaith mewn sawl ffordd:
- i asesu gwybodaeth y dysgwyr ar ddechrau neu ddiwedd cyfnod o addysgu. Parwch lefel y daflen waith ag anghenion cymorth y dysgwyr;
- i asesu gwybodaeth yn ystod cyfnod o addysgu ar ôl i’r dysgwyr gwblhau’r pwnc perthnasol;
- fel rhan o’r adolygu;
- fel ymarfer gloywi ar gyfer athrawon neu bobl nad ydynt yn arbenigo yn y pwnc.
Sgaffaldio
Mae tair lefel o gymorth ar gael, gan ddarparu opsiynau yn dibynnu ar anghenion cymorth amrywiol y dysgwyr. Darperir fersiwn y gellir ei olygu o bob taflen waith, gan roi rhagor o gyfleoedd i addasu’r adnoddau i ddiwallu anghenion dysgu unigolion. Hefyd, mae modd cynyddu lefel y taflenni gwaith a ddefnyddir, wrth i’r dysgwyr symud ymlaen drwy eu cwricwlwm.
Dysgu annibynnol a metawybyddiaeth
Mae’r dudalen ‘Beth ydw i’n ei ddeall?’ yn cael ei chynnwys ym mhob taflen waith. Mae’r dysgwyr yn cael eu hannog i ddatblygu sgiliau dysgu annibynnol a gallant ddefnyddio eu myfyrdod fel canllaw ar gyfer adolygu. Bydd yr adborth hefyd yn eich helpu i adnabod meysydd y mae angen rhoi sylw iddynt gyda’r dosbarth cyfan.
Atebion
Mae’r canllawiau i athrawon yn rhoi atebion enghreifftiol ar gyfer pob taflen waith, yn ogystal ag arweiniad ar gamsyniadau cyffredin y dysgwyr. Gall y dysgwyr ddefnyddio’r atebion enghreifftiol i hunanasesu neu asesu eu cyd-ddisgyblion.
Downloads
Model gronynnau: taflen myfyriwr
Handout | PDF, Size 0.31 mbModel gronynnau: taflen myfyriwr wedi ei rhannol sgaffaldio
Handout | PDF, Size 0.33 mbModel gronynnau: taflen myfyriwr wedi ei sgaffaldio
Handout | PDF, Size 0.39 mbModel gronynnau: nodiadau i athrawon
Handout | PDF, Size 0.35 mbModel gronynnau: taflen myfyriwr
Editable handout | Word, Size 0.28 mbModel gronynnau: taflen myfyriwr wedi ei rhannol sgaffaldio
Editable handout | Word, Size 0.28 mbModel gronynnau: taflen myfyriwr wedi ei sgaffaldio
Editable handout | Word, Size 0.27 mbModel gronynnau: nodiadau i athrawon
Editable handout | Word, Size 0.26 mb




No comments yet