Cewch archwilio sut mae’r bondio mewn haearn yn gysylltiedig â’i briodweddau ffisegol, a mynd i’r afael â chamsyniadau cyffredin gan ddefnyddio’r cynllun gwers hwn gyda gweithgareddau
Yn y gweithgaredd hwn, bydd y dysgwyr yn penderfynu a yw cyfres o ddatganiadau am y bondio mewn haearn yn gywir neu’n anghywir. Mae hyn yn arwain at drafod a meddwl mwy am y bondio mewn metelau. Daw’r adnodd hwn o’r gyfres Asesu ar gyfer dysgu, sy’n cynnwys cynlluniau gwersi ac adnoddau cysylltiedig er mwyn cynnwys myfyrwyr yn weithredol yn eu dysgu.
-
Lawrlwythwchs
Bondio metelig ac adeiledd haearn, ar gyfer yr ystod oedran 14–16
Mae’r adnoddau i’w lawrlwytho yn cynnwys dilyniant addysgu a PowerPoint ar gyfer y wers; taflen waith ‘cywir neu anghywir?’ i fyfyrwyr; canllawiau i athrawon ac atebion.
Gweld a lawrlwytho rhagor o Gynlluniau gwersi
Mae’r gweithgaredd hwn yn edrych ar y camsyniadau hyn:
- Mae adeiledd haearn yn enghraifft o foleciwl enfawr.
- Mae atomau haearn yn cael eu dal at ei gilydd gan fondiau ïonig.
- Mae haearn yn dargludo trydan oherwydd bod atomau haearn yn symud drwy’r solid.
- Mae haearn yn ymledu pan gaiff ei wresogi oherwydd bod yr atomau yn mynd yn fwy.
- Mae metel haearn yn lliw arian oherwydd bod atomau haearn yn lliw arian.
Amcanion dysgu
- Disgrifio’r bondio mewn haearn.
- Egluro priodweddau haearn drwy ddefnyddio syniadau am fondio.
Trefn addysgu
Cyflwyniad (sleid 2)
- Rhowch hoelen neu glip papur i bob myfyriwr edrych arno a’i deimlo fel ysgogiad i ganolbwyntio ei ffordd o feddwl.
- Dywedwch wrth y dysgwyr y byddant yn gwneud y canlynol:
- Disgrifio’r bondio mewn haearn.
- Egluro priodweddau’r metel drwy ddefnyddio eu syniadau am fondio.
Gweithgaredd: cam 1 (sleid 3)

Rhowch ‘Daflen cwestiynau bondio metelig ac adeiledd haearn’ (MS Word | PDF) i bob dysgwr, mae’r daflen yn cynnwys 10 datganiad am adeiledd a phriodweddau haearn. Gofynnwch iddynt weithio ar eu pen eu hunain i wneud y canlynol:
- Edrych ar y gwrthrych a’i deimlo.
- Darllen pob datganiad yn ofalus.
- Ysgrifennu yn y tabl a ydynt yn meddwl bod y datganiadau yn gywir neu’n anghywir.
Gweithgaredd: cam 2 (sleid 4)
Rhannwch y dysgwyr yn grwpiau o dri er mwyn:
- Edrych ar bob datganiad yn ei dro.
- Trafod yr atebion cychwynnol a roddwyd ganddynt yn unigol, a rhannu syniadau.
- Penderfynu ar ateb y grŵp a chofnodi hyn yn y tabl.
- Bod yn barod i rannu syniadau a sut gallent fod wedi newid.
Gweithgaredd: cam 3 (sleidiau 5–9)

Rhannwch y byrddau gwyn bach a:
- Gofynnwch i bob dysgwr dynnu llun i gynrychioli’r bondio mewn haearn.
- Gofynnwch i rai dysgwyr rannu eu syniadau.
Dangoswch fodelau adeiledd haearn ac amlygwch y nodweddion allweddol hyn:
- Mae electronau’r plisgyn allanol yn cael eu dadleoli ac maent yn rhydd i symud drwy’r ddellten enfawr o ïonau positif.
- Weithiau bydd yr electronau’n cael eu dangos ar ffurf ‘cwmwl’ ac maent yn cael eu galw yn ‘fôr o electronau dadleoledig’.
- Mae’r modelau hyn yn gallu egluro priodweddau ffisegol metelau: dargludo trydan a gwres, ymledu wrth wresogi, hydrinedd a hydwythedd.
- Ymestyn syniadau am fondio (a phriodweddau ffisegol) i fetelau yn gyffredinol.
Myfyrio (sleidiau 10–19)
Ewch drwy’r atebion yn sleidiau’r wers (PPT | PDF). Dangoswch y syniadau hyn a helpwch i herio unrhyw gamsyniadau drwy ddefnyddio’r animeiddiadau a’r dolenni i fideos YouTube yn y cyflwyniad.

Mae fersiwn amgen o’r gweithgaredd hwn ar gyfer archwilio adeiledd a phriodweddau ffisegol haearn ar gael ar ffurf llyfr PDF sy’n cynnwys detholiad o Chemical misconceptions gan K. Taber.
Sylwebaeth
- Defnyddiwch ysgogiad cyffyrddol i helpu’r dysgwyr i werthfawrogi amcanion y sesiwn.
- Gan weithio mewn grwpiau, bydd y dysgwyr yn cymharu eu syniadau ag eraill, yn ail-werthuso eu syniadau cychwynnol ac yn eu datblygu lle bo hynny’n briodol.
- Mae’n hanfodol gofyn cwestiynau treiddgar er mwyn sicrhau bod camsyniadau’n cael eu chwalu a bod model cywir yn cymryd eu lle.
- Anogir y dysgwyr i wirio eu dealltwriaeth drwy gydol y tasgau.
Cyfarpar
Ar gyfer pob dysgwr:
- Hoelen neu glip papur
- Bwrdd gwyn bach
Sgaffaldio
- Meddyliwch yn ofalus am barau a grwpiau ar gyfer y dasg hon i sicrhau bod y dysgwyr yn gweithio’n effeithiol i ddatblygu eu syniadau.
- Symudwch o amgylch y grwpiau drwy gydol y dasg i holi’r dysgwyr am eu dealltwriaeth a chynnig cymorth lle bo angen.
- Wrth ofyn i’r dysgwyr luniadu diagram i gynrychioli bondio metelig, rhowch awgrymiadau i’r dysgwyr lle bo angen, fel ‘rhaid i chi gynnwys: ïonau metel positif, electronau dadleoledig’.
- Mae lluniau, fideos ac animeiddiadau yn ddefnyddiol. Mae rhai yn sleidiau’r wers (PPT | PDF).
Atebion a nodiadau ar ymatebion
- Mae gan haearn fath o fondio o’r enw bondio metelig.
- CYWIR. Mae haearn yn fetel ac mae gan bob metel fath o fondio o’r enw bondio metelig, sy’n wahanol i fondio cofalent neu ïonig. Mewn bondio metelig, mae plisg allanol atomau cyfagos yn gorgyffwrdd, ac mae electronau’r plisgyn allanol yn rhydd i symud drwy’r ddellten. Mae’r metel yn cynnwys catïonau metel a nifer cydbwysol o’r electronau ‘rhydd’ hyn.
- Mae adeiledd haearn yn enghraifft o foleciwl enfawr.
- ANGHYWIR. Mewn haearn mae’r ïonau positif wedi eu pacio at ei gilydd mewn dellten enfawr, ond rydym yn defnyddio’r gair moleciwl i awgrymu bod yr adeiledd yn cynnwys bondiau cofalent, ac nid yw haearn yn cynnwys hynny.
- Mae ïonau positif mewn adeiledd haearn.
- CYWIR. Oherwydd bod yr electronau yn y plisgyn allanol yn rhydd i symud drwy’r ddellten, maent yn gadael ïonau haearn positif ar ôl.
- Mae’r atomau mewn haearn yn cael eu dal at ei gilydd gan fondiau ïonig.
- ANGHYWIR. Bondio metelig yw’r bondio mewn haearn. Mae hyn yn wahanol i fondio ïonig oherwydd nad oes dim anionau negatif yn bresennol.
- Yn adeiledd haearn, mae rhai electronau yn gallu symud o gwmpas y solid.
- CYWIR. Mae’r electronau o blisgyn allanol atomau yn rhydd i symud drwy’r ddellten o ïonau positif.
- Os caiff haearn ei wresogi i dymheredd uchel iawn, bydd yn troi’n nwy.
- CYWIR. Os caiff haearn ei wresogi, bydd yn ymdoddi. Os caiff haearn tawdd ei wresogi i dymheredd digon uchel, bydd yn berwi.
- Mae haearn yn gallu dargludo trydan oherwydd bod atomau haearn yn gallu llithro dros eu cymdogion a symud drwy’r solid.
- ANGHYWIR. Fel arfer, mae’r catïonau haearn yn sefydlog yn eu safleoedd yn y ddellten ac ni allant symud o gwmpas.
- Mae haearn yn dargludo trydan oherwydd ei fod yn cynnwys ‘môr’ o electronau.
- CYWIR. Mae’r electronau o blisg allanol atomau yn gallu symud o gwmpas a byddant yn mynd drwy’r metel pan fydd wedi’i gysylltu â batri.
- Mae haearn yn ymledu pan gaiff ei wresogi oherwydd bod atomau haearn yn mynd yn fwy.
- ANGHYWIR. Pan fydd haearn yn cael ei wresogi, mae’r catïonau positif yn dirgrynu mwy ac yn symud ychydig ymhellach oddi wrth ei gilydd.
- Mae haearn yn fetel llwyd ariannaidd oherwydd bod atomau haearn yn llwyd ariannaidd.
- ANGHYWIR. Mae lliw haearn yn un o briodweddau’r trefniant o gatïonau ac electronau. Ni fyddai gan un atom liw.
Downloads
Bondio metelig ac adeiledd haearn: sleidiau gwers
Presentation | PDF, Size 3.45 mbBondio metelig ac adeiledd haearn: taflen myfyriwr
Handout | PDF, Size 0.14 mbBondio metelig ac adeiledd haearn: nodiadau i athrawon
Handout | PDF, Size 0.29 mbBondio metelig ac adeiledd haearn: taflen myfyriwr
Editable handout | Word, Size 0.44 mbBondio metelig ac adeiledd haearn: nodiadau i athrawon
Editable handout | Word, Size 0.55 mbBondio metelig ac adeiledd haearn: sleidiau gwers
Presentation | PowerPoint, Size 4.27 mb
Additional information
Yn wreiddiol, roedd y cynllun gwers hwn yn rhan o’r wefan Asesu ar gyfer dysgu, a chafodd ei gyhoeddi yn 2008. Cafodd ei ddiweddaru yn 2025 gan Louise Glynn.
Mae Asesu ar gyfer Dysgu yn ffordd effeithiol o gynnwys myfyrwyr yn weithredol yn eu dysgu. Mae pob cynllun sesiwn yn cynnwys awgrymiadau ar sut mae trefnu gweithgareddau a thaflenni gwaith y gellir eu defnyddio gyda myfyrwyr.
Diolchiadau
K. Taber, Chemical misconceptions – prevention, diagnosis and cure, Volume 2: Classroom resources, Iron - a metal. London: Royal Society of Chemistry, 2002.




No comments yet